Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ail-wneud gyda diwygiadau Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1266 (Cy.117)), a oedd yn gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau i atal, rheoli a dileu rhai mathau o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t. 1) fel y'i diwygiwyd (“ Rheoliad TSE y Gymuned”). Mae'r Rheoliadau hyn yn awr yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2007/411 sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben, yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a dileu penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad 2005/598 (OJ Rhif L 155, 15.6.2007, t. 74).

Diwygiwyd Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif. 999/2001 gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 727/2007 a oedd yn diwygio Atodiad VII i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor a oedd yn gosod rheolau i atal, rheoli a dileu rhai mathau o enseffalopathi sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L 158, 18.6.2008, t. 5). Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu'r diwygiadau hynny ac eithrio rhai darpariaethau a ataliwyd gan ddyfarniad llys Ewropeaidd y Gwrandawiad Cyntaf ar 28 Medi 2007 (pwyntiau 2(3)(b)(iii), 2(3)(d) a 4 o Atodiad VII i Reoliad (EC) Rhif 999/2001).

Y prif Reoliadau

Mae'r Rheoliadau yn darparu mai Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned (ac eithrio yn Atodlen 7 a pharagraff 2 o Atodlen 8, lle mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn awdurdod cymwys) (rheoliad 3) ac yn darparu eithriad ar gyfer ymchwil (rheoliad 4).

Mae'r darpariaethau yn Rhan 2 yn cyflwyno'r Atodlenni 2 i 8.

Mae Rhan 3 yn ymwneud â gweinyddu a gorfodi.

Mae rheoliadau 6 i 10 yn ymwneud â chymeradwyo, awdurdodi, trwyddedu a chofrestru, dyletswyddau'r meddiannydd, atal, diwygio a dirymu cymeradwyaeth, etc., a gweithdrefn apelio. Mae Rheoliad 11 yn ymwneud â phrisio.

Mae rheoliadau 12 i 14 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru a'r awdurdod lleol i benodi arolygwyr, ac yn ymdrin â phwerau mynediad a phwerau arolygwyr. Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer gweithdrefn hysbysu, ac mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer trwyddedau sy'n caniatáu symud yn ystod cyfnod o gyfyngu ar symudiadau.

Mae rheoliadau 17 i 19 yn ymwneud â rhwystro arolygwr, cosbau, a thramgwyddau gan gorff corfforaethol. Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r mwyafswm statudol neu garchar am dymor o dri mis neu'r ddau, neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu garchar am dymor o ddim mwy na dwy flynedd neu'r ddau.

Mae rheoliad 20 yn manylu ar bwy sy'n gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 21 yn dirymu: Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006; Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005; Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006 a Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006.

Atodlen 1

Yn Atodlen 1 nodir at ba offerynnau y Gymuned y dylid dehongli cyfeiriadau atynt fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Atodlen 2

Mae Atodlen 2 yn ymwneud â monitro ar gyfer TSE. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer hysbysu Gweinidogion Cymru ynghylch stoc trig y mae'n rhaid eu profi am TSE o dan Reoliad TSE y Gymuned. Mae paragraff 2 yn ei gwneud yn dramgwydd traddodi anifail sydd dros yr oedran i ladd-dy i'w fwyta gan bobl, neu i gigydda anifail o'r fath i'w fwyta gan bobl. Mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer samplu coesyn yr ymennydd mewn anifeiliaid buchol penodedig. Mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer cymeradwyo labordai sy'n profi samplau coesyn ymennydd o'r fath, ac yn cyflwyno ffioedd newydd fel a ganlyn—

(a)£29,770 am gymeradwyaeth ddechreuol i labordy;

(b)£8,834 am brofion hyfedredd blynyddol ac adolygu dilynol am y flwyddyn gyntaf ar ôl cymeradwyo;

(c)£4,135 am brofion hyfedredd blynyddol o'r ail flwyddyn ymlaen ar ôl cymeradwyo;

(ch)£1,385 am brawf hyfedredd sengl (yn dilyn methiant yn y profion hyfedredd blynyddol); a

(d)£87.24 yr awr am arolygydd (ar gyfer unrhyw arolygiadau ychwanegol y bydd eu hangen i wirio cydymffurfiaeth â'r telerau cymeradwyo).

Mae paragraff 5 yn creu gofyniad bod unrhyw un sy'n cigydda anifeiliaid dros 30 mis oed ar gyfer eu bwyta gan bobl i gael Dull Gofynnol o Weithredu.

Mae paragraff 6 yn darparu ar gyfer cadw cynhyrchion a'u gwaredu, a pharagraff 7 yn ymwneud ag iawndal.

Mae paragraffau 8 i 15 yn nodi'r gofynion sylfaenol y mae'n rhaid eu cynnwys mewn Dull Gofynnol o Weithredu.

Atodlen 3

Mae Atodlen 3 yn ymwneud â rheoli a dileu TSE mewn anifeiliaid buchol. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer hysbysu Gweinidogion Cymru ynghylch anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraffau 2 a 3 yn darparu ar gyfer cyfyngu ar a chigydda'r anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraffau 4 a 5 yn ymwneud ag epil a chohortau'r anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraff 6 yn ymwneud â hysbysu ynghylch anifail fu farw neu a gafodd ei ladd tra oedd dan gyfyngiadau, ac y mae paragraff 7 yn gwahardd rhoi epil ar y farchnad.

Mae paragraffau 8 i 10 yn ymdrin ag iawndal.

Atodlen 4

Mae Atodlen 4 yn ymwneud â rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer hysbysu Gweinidogion Cymru ynghylch anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraffau 2 a 3 yn darparu ar gyfer cyfyngu a chigydda'r anifail a amheuir. Mae paragraffau 4 a 5 yn ymwneud â chyfyngiadau symud. Mae paragraffau 6 i 9 yn darparu ar gyfer gweithredu ar ôl cael cadarnhad. Mae paragraff 10 yn darparu ar gyfer amser i apelio, a pharagraff 11 yn darparu ar gyfer lladd a dinistrio. Mae paragraffau 12 i 14 yn ymwneud ag anifeiliaid heintiedig o ddaliad arall, pori ar dir comin a diadelloedd lluosog ar ddaliad. Mae paragraff 15 yn ymwneud â meddianwyr dilynol y tir.

Mae paragraffau 16 i 24 yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar ôl lladd neu ddinistrio'r anifeiliaid. Mae paragraff 16 yn cyfyngu ar gyflwyno anifeiliaid i ddaliad. Mae paragraff 17 yn rheoleiddio'r defnydd o gynnyrch cenhedlol defaid, a pharagraff 18 yn cyfyngu ar symud anifeiliaid o ddaliad.

Mae paragraff 19 yn nodi'r amseroedd pan fydd cyfnodau cyfyngu yn cychwyn. Mae paragraff 20 yn darparu ar gyfer hysbysu am anifeiliaid sy'n marw tra eu bod dan gyfyngiadau. Mae paragraff 21 yn ymdrin â rhoi epil ar y farchnad, ac mae paragraffau 22 i 24 yn ymdrin ag iawndal.

Atodlen 5

Mae Atodlen 5 yn ymdrin ag anifeiliaid nad ydynt o deulu'r fuwch y ddafad na'r afr. Mae paragraffau 1 i 3 yn ymwneud â hysbysu ynghylch, cyfyngu a lladd anifeiliaid sydd dan amheuaeth. Mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer iawndal. Mae paragraff 5 yn ymdrin â chadw a gwaredu cynhyrchion anifeiliaid o deulu'r carw.

Atodlen 6

Mae Atodlen 6 yn ymwneud â bwydydd anifeiliaid. Ym mharagraffau 1 i 3 gwaherddir rhoi bwydydd penodedig i anifeiliaid cnoi cil ac anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil, a darperir ar gyfer eithriadau. Mae paragraffau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cyfyngiadau symud a chigydda anifeiliaid sydd dan amheuaeth o fod wedi eu bwydo â bwydydd gwaharddedig, ac mae paragraff 6 yn darparu ar gyfer iawndal. Mae paragraff 7 yn gwahardd cigydda anifeiliaid sydd dan gyfyngiadau ar gyfer eu bwyta gan bobl.

Mae paragraffau 8 a 9 yn rheoleiddio cynhyrchu a defnyddio blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil. Mae paragraffau 10 a 11 yn rheoleiddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm. Mae paragraffau 12 a 13 yn rheoleiddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynnyrch gwaed a blawd gwaed.

Ym mharagraff 14 darperir ar gyfer newidiadau yn y defnydd o gyfarpar. Mae paragraffau 15 a 16 yn rheoli gweithgynhyrchu, storio a chludo protein anifeiliaid wedi'i brosesu a chynhyrchion sy'n cynnwys protein o'r fath. Mae paragraff 17 yn rheoli allforio, ac mae paragraff 18 yn rheoleiddio gwrtaith sy'n dod o brotein anifeiliaid. Mae paragraff 19 yn ymwneud â chofnodion, a pharagraff 20 yn ymwneud â thrawshalogi.

Atodlen 7

Yn Atodlen 7 ymdrinnir â deunydd risg penodedig, cig a adenillir yn fecanyddol a dulliau cigydda. Mae paragraff 1 yn penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn awdurdod cymwys ar gyfer yr Atodlen hon. Mae paragraff 2 yn darparu ar gyfer hyfforddi staff lladd-dai a safleoedd torri lle y tynnir ymaith y deunydd risg penodedig

Mae paragraff 3 yn ymwneud â chig a wahenir yn fecanyddol, mae paragraff 4 yn ymwneud â phithio, mae paragraff 5 yn ymwneud â chynaeafu tafodau, ac mae paragraff 6 yn ymwneud â chynaeafu cig y pen.

Mae paragraff 7 yn rheoli tynnu ymaith y deunydd risg penodedig. Mae paragraff 8 yn ymdrin ag anifeiliaid buchol mewn lladd-dy ac mae paragraff 9 yn ymdrin â defaid a geifr mewn lladd-dy.

Mae paragraff 10 yn ymwneud â stampiau ar wyn a geifr ifanc.

Mae paragraff 11 yn ymdrin â thynnu ymaith fadruddyn y cefn o ddefaid a geifr.

Mae paragraff 12 yn darparu ar gyfer awdurdodi safleoedd torri i dynnu ymaith rhai deunyddiau risg penodedig, ac mae paragraff 13 yn rheoli'r modd y tynnir deunydd risg penodedig mewn safle torri a awdurdodir o dan baragraff 12(1).

Mae paragraff 14 yn ymdrin â chig o Aelod-wladwriaethau eraill.

Mae paragraff 15 yn gwneud staenio a gwaredu deunydd risg penodedig yn ofynnol, mae paragraff 16 yn gwneud staenio gweddill carcas anifail cynllun yn ofynnol, ac mae paragraff 17 yn darparu ar gyfer diogelwch deunydd risg penodedig.

Mae paragraff 18 yn gwahardd cyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl.

Atodlen 8

Yn Atodlen 8 ymdrinnir ag allforio anifeiliaid buchol byw a'r cynhyrchion sy'n deillio ohonynt i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd. Mae paragraff 1 yn gwahardd allforio anifeiliaid byw penodol i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd, mae paragraff 2 yn cyfyngu ar anfon pennau a charcasau heb eu hollti sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i Aelod-wladwriaethau eraill, ac mae paragraff 3 yn gwahardd anfon pennau buchol a chig sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i drydydd gwledydd.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol o ddylanwad yr offeryn hwn ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill