Rheoliad 5
ATODLEN 8Cyfyngiadau ar allforio
Allforio anifeiliaid buchol a chynhyrchion buchol i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd
1.—(1) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) y canlynol i Aelod-wladwriaethau eraill neu i drydydd gwledydd—
(a)yn unol â Rhan II o Bennod A o Atodiad VIII i Reoliad TSE y Gymuned, anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996; neu
(b)yn unol ag Erthygl 1(1) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC, unrhyw gynhyrchion a gyfansoddir o, neu sy'n ymgorffori, unrhyw ddeunydd (ac eithrio llaeth) sy'n deillio o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.
(2) Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1)(b) yn gymwys i grwyn anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst (gan gynnwys crwyn o anifeiliaid buchol y cyfeirir atynt yn nhrydydd mewnoliad y pwynt 1(a) o Atodiad VII o Reoliad y Gymuned) a ddefnyddiwyd i gynhyrchu lledr yn unol ag Erthygl 1(3) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.
(3) Yn y paragraff hwn, caniateir i bwerau arolygydd gael eu harfer hefyd gan berson a benodir fel y cyfryw mewn perthynas â marchnad ledr neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.
Allforio pennau a charcasau heb eu hollti i Aelod-wladwriaethau
2. Yn ddarostyngedig i bwynt 10(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) unrhyw ben neu garcas heb ei hollti sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i Aelod-wladwriaeth arall, yn absenoldeb unrhyw gytundeb o'r math a bennir ym mhwynt 10(1) o'r Atodiad hwnnw.
Allforio cynhyrchion sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i drydydd gwledydd
3. Yn unol â phwynt 10(3) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd pennau neu gig ffres anifeiliaid o deulu'r fuwch, y ddafad neu'r afr sy'n cynnwys deunydd risg penodedig.