- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
42.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, fel a ganlyn—
(a)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(a)—
(i)£1,744 i fyfyriwr yng nghategori 1;
(ii)£3,268 i fyfyriwr yng nghategori 2;
(iii)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(iv)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 4;
(v)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 5;
(b)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(c) neu 23(5)—
(i)£1,744 i fyfyriwr yng nghategori 1;
(ii)£3,268 i fyfyriwr yng nghategori 2;
(iii)£2,780 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(iv)£2,780 i fyfyriwr yng nghategori 4;
(v)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 5;
(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X−Y) ac—
X—
i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £2,755;
i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £4,986;
i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,244;
i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,244;
i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £3,559;
Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).
(ch)y swm penodedig yw—
(i)£644, os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £644;
(ii)£1,288, os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,288;
(iii)dim, pan na fo'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, fel a ganlyn—
(a)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(a)—
(i)£1,324 i fyfyriwr yng nghategori 1;
(ii)£2,498 i fyfyriwr yng nghategori 2;
(iii)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(iv)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 4;
(v)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 5;
(b)os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(b) neu 23(5)—
(i)£1,324 i fyfyriwr yng nghategori 1;
(ii)£2,498 i fyfyriwr yng nghategori 2;
(iii)£2,031 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(iv)£2,031 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(v)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 3;
(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal i (X−Y) ac—
X—
i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £2,493;
i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £4,540;
i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £3,690;
i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £3, 690;
i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £3,297;
Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).
(ch)y swm penodedig yw—
(i)£644 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £644;
(ii)£1,288 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,288;
(iii)dim, pan nad fo'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys