- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
49.—(1) Yn y Rhan hon—
(a)mae myfyriwr yng nghategori 1 os yw'r myfyriwr yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs dynodedig neu os dechreuodd y cwrs cyfredol ar 1 Medi 2009 a'i fod yn aelod o urdd grefyddol ac yn byw yn un o dai'r urdd honno;
(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a'i fod yn bresennol ar un neu fwy o'r canlynol—
(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;
(ii)cwrs mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu
(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r profiad gwaith hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;
(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw'r myfyriwr yn mynychu sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs;
(ch)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 a'i fod yn mynychu'r Athrofa;
(d)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4.
(dd)“myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;
(e)“myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn” (“old system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;
(f)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;
(ff)“myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys—
(i)nad yw'n gymwys i gael grant at gostau byw neu gostau eraill mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 23(3)(a), (b), neu (c) neu reoliad 23(5); neu
(ii)sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;
(g)os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw'r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys