Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Swm y cymorth

67.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 73(6), mae swm y cymorth a delir ar gyfer blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)os oes gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner, ar ddyddiad ei gais, hawlogaeth—

(i)o dan Ran V11 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1) i gael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal treth cyngor;

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(2) i lwfans ceisiwr gwaith seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogi a Hyfforddiant 1973(3) i lwfans o dan y trefniadau a adnabyddir fel Y Fargen Newydd; neu

(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(4) i lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm;

mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1) yn daladwy;

(b)pan fo'r incwm perthnasol yn llai na £16,530, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1) yn daladwy;

(c)pan fo'r incwm perthnasol yn £16,530, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(a);

(ch)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £16,530, ond yn llai na £24,925, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 66(1)(a) yw'r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraff (2);

(d)pan fo'r incwm perthnasol yn £24,925, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 66(1)(a) yw £50;

(dd)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £24,925 ond yn llai na £25,575, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 66(1)(a);

(e)pan fo'r incwm perthnasol yn £25,575 neu ragor ond yn llai na £27,615, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 66(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 66(1)(b) yw'r swm a adewir yn dilyn didynnu o'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(b) £1 am bob £1.99 cyflawn a fyddai'n peri i'r incwm perthnasol fynd dros £25,575;

(f)pan fo'r incwm perthnasol yn £27,615, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 66(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 66(1)(b) yn £50;

(ff)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £27,615, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 66(1).

(2Pan fo paragraff (1)(ch) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy'n daladwy o dan reoliad 66(1)(a) trwy ddidynnu o'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(a) un o'r symiau canlynol—

(a)£50 a £1 ychwanegol am bob £9.82 cyflawn a fyddai'n peri i'r incwm perthnasol fynd dros £16,530; neu

(b)pan fo'r ffioedd gwirioneddol yn llai na £955, cyfanswm sy'n hafal i'r hyn a adewir wedi didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £955 a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negatif ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 66(1)(a)).

(1)

1992 p. 4; Diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Tai 1991 (p. 52), Atodlen 19; Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14; Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3; Deddf Tai 1996 (p. 52), Atodlen 19 Rhan 6; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 6, Rhan 3; Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Credydau Treth 2002 (p. 21), Atodlen 6; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, paragraffau 169 a 179, Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 24 a Deddf Diwygio Lles 2007 (p. 40), Atodlen 30(2) a 31(1), Atodlen 3, Atodlen 5 ac Atodlen 8; O.S. 2008/632 ac O.S. 2008/787.

(2)

1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1; Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14), Atodlenni 7 ac 8; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 7, 8 ac 1; Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2; Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 18), Atodlen 6; Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 24 ac O.S. 2006/343; a Deddf Diwygio Lles 2007, Atodlen 3.

(3)

1973 p. 50; diwygiwyd adran 2 fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p. gan Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p. 38), Atodlen 7. Mewnosodwyd is-adrannau (3A) a (3B) gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p. 19), adran 47 mewn perthynas â'r Alban yn unig.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill