- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Rhaid i swyddog atebol sefydlu a gweithredu, neu sicrhau bod ei gorff dynodedig yn sefydlu a gweithredu, trefniadau priodol ar gyfer—
(a)asesu pryderon a fynegwyd ynghylch digwyddiadau a oedd yn ymwneud â, neu a allai fod wedi ymwneud â rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir yn amhriodol gan berson sydd, o ran ei gorff dynodedig, yn unigolyn perthnasol; a
(b)ymchwilio i bryderon o'r fath.
(2) Os, ar ôl asesiad o bryder a fynegwyd, bydd y swyddog atebol yn penderfynu bod angen ymchwiliad, caiff y swyddog atebol—
(a)cyflawni'r ymchwiliad hwnnw'n bersonol;
(b)gwneud cais ysgrifenedig i swyddog neu gyflogai arall yn ei gorff dynodedig gyflawni'r ymchwiliad; neu
(c)os yw'n briodol, ac yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6)—
(i)gwneud cais ysgrifenedig i swyddog neu gyflogai (gan gynnwys, yn achos corff dynodedig, swyddog atebol) o unrhyw rai o'r cyrff cyfrifol a restrir ym mharagraff (3) i gyflawni'r ymchwiliad, neu
(ii)gwneud cais ysgrifenedig i nifer o swyddogion neu gyflogeion o unrhyw rai o'r cyrff cyfrifol a restrir ym mharagraff (3) i ffurfio tîm ymchwilioar y cyd er mwyn cyflawni'r ymchwiliad.
(3) Mae'r canlynol yn gyrff cyfrifol at ddibenion adran 18 o Ddeddf 2006 a'r rheoliad hwn—
(a)corff dynodedig;
(b)AGIC;
(c)Yr Is-adran Gwasanaeth Gwrth-dwyll a Rheoli Diogelwch Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG;
(ch)AGGCC;
(d)heddlu;
(dd)corff rheoleiddiol.
(4) Caiff swyddog atebol ddefnyddio ei bwerau o dan baragraff (2)(c) i ofyn am ymchwiliad (neu ymchwiliad ar y cyd gyda chyrff cyfrifol eraill) gan yr Is-adran Gwasanaeth Gwrth-dwyll a Rheoli Diogelwch Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG i unrhyw dwyll posibl ynglyn â'r gwasanaeth iechyd.
(5) Rhaid i'r swyddog atebol gadw, neu sicrhau bod ei gorff dynodedig yn cadw, cofnodion o—
(a)unrhyw gais a wnaed i swyddog atebol o gorff dynodedig arall, neu i gorff cyfrifol arall, o dan baragraff (2)(c) i ymchwilio i bryder a oedd yn ymwneud â, neu a allai fod wedi ymwneud â rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir yn amhriodol;
(b)unrhyw asesiad neu ymchwiliad o bryder a oedd yn ymwneud â, neu a allai fod wedi ymwneud â rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir yn amhriodol gan unigolyn perthnasol a gyflawnwyd gan y swyddog atebol neu ei gorff dynodedig; ac
(c)unrhyw hysbysiad a roddwyd i gorff cyfrifol arall neu swyddog atebol arall o dan reoliad 25(4).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys