Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2008

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cyfyngiadau ar waith yn sgil gwaith stryd sylweddol

12.—(1At ddibenion Atodlen 3A i Ddeddf 1991, ystyr gwaith stryd sylweddol yw gwaith pwysig.

(2Rhaid i'r cyfnod a ragnodir o dan baragraff 2(2) o'r Atodlen honno beidio â bod yn llai na 20 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad.

(3Rhaid i'r awdurdod strydoedd perthnasol gyhoeddi hysbysiad o dan baragraff 2 i'r Atodlen honno ynghylch cyfyngiad arfaethedig ar waith stryd yn sgil gwaith stryd sylweddol ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

(4Yn ychwanegol at y rheini y mae'n rhaid rhoi copi o hysbysiad iddynt yn rhinwedd paragraff 2(4) o'r Atodlen honno, rhaid rhoi copi hefyd

(a)i feddiannydd unrhyw fangre sydd â ffryntiad i'r rhan o'r briffordd y mae'r cyfyngiad arfaethedig yn ymwneud â hi; a

(b)i unrhyw berson arall sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig am gopi o unrhyw hysbysiad o'r fath.

(5Rhaid i hysbysiad gan ymgymerwr o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A o waith stryd arfaethedig a chyfarwyddyd sy'n cyfyngu ar wneud gwaith o dan baragraff 4 o'r Atodlen honno fod yn y ffurf a geir yn y Fanyleb Dechnolegol, neu mewn ffurf gyffelyb iddi, a rhaid iddi gynnwys gwybodaeth o'r fath sy'n berthnasol i'r hysbysiad neu i'r cyfarwyddyd, yn ôl y digwydd, yn unol â'r fanyleb honno.

(6Mae darpariaethau rheoliad 6(3) i (10) yn gymwys i wneud hysbysiad o'r fath yn yr un modd ag y maent yn gymwys i roi hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw.

(7Rhaid rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff 4 o'r Atodlen honno drwy ei gyhoeddi ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod strydoedd at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.

(8Yn ychwanegol at yr achos a bennir ym mharagraff 3(5)(a) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991, nid yw paragraff 3(4) o'r Atodlen honno yn gymwys yn yr achosion a osodir ym mharagraff (11) isod pan na roddwyd hysbysiad blaenorol o dan adran 54 neu 55, neu baragraff 2(1)(d) o'r Atodlen honno o ran y gwaith y cyfeirir ato.

(9At ddibenion paragraff 4(4) o'r Atodlen honno, y cyfnod rhagnodedig fydd —

(a)1 flwyddyn o ran strydoedd sy'n sensitif i draffig a strydoedd yng nghategori o ffordd 0, 1 neu 2 nad ydynt yn strydoedd sy'n sensitif i draffig; a

(b)6 mis o ran strydoedd yng nghategori o ffordd 3 neu 4 nad ydynt yn strydoedd sy'n sensitif i draffig.

(10Yn ychwanegol at yr achosion a bennir ym mharagraff 5(2) o'r Atodlen honno, nid yw paragraff 5(1) o'r Atodlen honno yn gymwys yn yr achosion a osodir yn y paragraff canlynol.

(11Yr achosion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (8) a (10) yw'r achosion pan fo ymgymerwr yn gwneud gwaith brys neu unrhyw waith arall a osodir ym mharagraff (12).

(12Y gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (11) yw gwaith stryd —

(a)nad yw'n golygu darnio'r stryd;

(b)y mae—

(i)angen ei wneud i ymateb i gais am wasanaeth newydd neu gais i gyflenwi cwsmer nas derbyniwyd ar adeg pan oedd yn ymarferol i'r gwaith gael ei wneud cyn y dyddiad y dechreuodd y cyfyngiad arno; a

(ii)yn cael ei wneud fwy nag 19 o ddiwrnodau o'r dyddiad hwnnw;

(c)sy'n cael ei wneud —

(i)o dan reoliad 16(3)(b) o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998;

(ii)i gydymffurfio â hysbysiad gwella o dan adran 21 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974; neu

(iii)o ganlyniad i hysbysiad gwahardd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno; neu

(ch)y mae ei angen—

(i)i gydymffurfio â rhaglen a gymeradwywyd o dan reoliad 13A o Reoliadau Diogelwch Piblinellau 1996; a

(ii)na ellid bod wedi'i ddynodi cyn i'r cyfyngiad ddechrau.

(13At ddibenion paragraff 5(3) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991, penderfynir unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch a yw awdurdod strydoedd yn dal cydsyniad yn ôl yn afresymol drwy gyflafareddu.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill