Tramgwyddau o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan drydydd person
6. Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson o ganlyniad i weithred neu ddiffyg gweithred gan ryw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r tramgwydd p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.