xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) 2008. Daw i rym ar 31 Mawrth 2008 ac y mae yn gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y dibenion statudol” (“the statutory purposes”) yw'r dibenion sy'n ymwneud â gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio o dan adran 72(4)(a) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004;
ystyr “y gofynion a bennir” (“the specified requirements”) yw'r gofynion a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; ac
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA state”) yw gwladwriaeth o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
2.—(1) Mae dyfais yn ddyfais a gymeradwyir at y dibenion statudol os yw o fath sydd wedi ei ardystio gan Weinidogion Cymru fel un sy'n bodloni'r gofynion a bennir.
(2) Cymerir bod dyfais yn bodloni'r gofynion a bennir pan fo tystiolaeth wedi'i darparu sy'n bodloni Gweinidogion Cymru bod awdurdod cymwys mewn Gwladwriaeth AEE wedi canfod bod y ddyfais o dan sylw yn un sy'n bodloni gofynion safon AEE sy'n gofyn am lefel o berfformiad sy'n cyfateb i'r lefel o berfformiad sy'n ofynnol gan y gofynion a bennir.
(3) Ym mharagraff (2) ystyr “safon AEE” (“EEA standard”) yw
(a)safon neu gôd ymarfer corff safonau gwladol neu gorff cyfatebol perthynol i unrhyw Wladwriaeth AEE;
(b)unrhyw safon ryngwladol a gydnabyddir ar gyfer ei defnyddio fel safon neu gôd ymarfer gan unrhyw Wladwriaeth AEE; neu
(c)manyleb dechnegol a gydnabyddir ar gyfer ei defnyddio fel safon gan awdurdodau cyhoeddus perthynol i unrhyw Wladwriaeth AEE.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
6 Mawrth 2008