RHAN 4LL+CCOFRESTR BUDDIANNAU AELODAU
Cofrestru Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill ac Aelodaeth o Gyrff a Safleoedd RheoliLL+C
15.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl—LL+C
(a)i god ymddygiad eich awdurdod gael ei fabwysiadu neu i ddarpariaethau gorfodol y cod enghreifftiol hwn gael eu cymhwyso i'ch awdurdod; neu
(b)i chi gael eich ethol neu eich penodi i swydd (os digwydd hynny'n ddiweddarach),
gofrestru eich buddiannau ariannol a'ch buddiannau eraill, os ydynt yn dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a) yng nghofrestr eich awdurdod a gedwir o dan adran 81(1) o Deddf Llywodraeth Leol 2000, drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.
(2) Rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw fuddiant personol newydd neu o newid i unrhyw fuddiant personol a gofrestrwyd o dan is-baragraff (1), gofrestru'r buddiant personol newydd hwnnw neu'r newid drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.
(3) Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i wybodaeth sensitif a benderfynir yn unol â pharagraff 16(1).
(4) Ni fydd is-baragraff (1) yn gymwys os ydych yn aelod o awdurdod perthnasol sy'n gyngor cymuned pan fyddwch yn gweithredu yn eich capasiti fel aelod o awdurdod o'r fath.
Gwybodaeth sensitifLL+C
16.—(1) Os byddwch yn ystyried bod yr wybodaeth sy'n ymwneud ag unrhyw un neu rai o'ch buddiannau personol yn wybodaeth sensitif, a bod swyddog monitro eich awdurdod yn cytuno, nid oes angen i chi gynnwys yr wybodaeth honno pan fyddwch yn cofrestru'r buddiant hwnnw, neu, yn ôl y digwydd, newid i'r buddiant o dan baragraff 15.LL+C
(2) Rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl i chi ddod yn ymwybodol o unrhyw newid yn eich amgylchiadau sy'n golygu nad yw gwybodaeth sydd wedi ei heithrio o dan is-baragraff (1) mwyach yn wybodaeth sensitif, hysbysu swyddog monitro eich awdurdod gan ofyn am i'r wybodaeth gael ei chynnwys yng nghofrestr buddiannau aelodau eich awdurdod.
(3) Yn y cod hwn, ystyr “gwybodaeth sensitif” (“sensitive information”) yw gwybodaeth y mae ei rhoi ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn creu, neu'n debygol o greu, risg ddifrifol y gallech chi neu berson sy'n byw gyda chi fod yn destun trais neu fygythion.
Cofrestru Rhoddion a LletygarwchLL+C
17. Rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl i chi gael unrhyw rodd, lletygarwch, buddiant materol neu fantais faterol, sy'n fwy na gwerth a bennir mewn penderfyniad gan eich awdurdod, ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod yn nodi bodolaeth a natur y rhodd honno, y lletygarwch hwnnw, y buddiant materol hwnnw neu'r fantais faterol honno.LL+C