xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 106 (Cy.20)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

24 Ionawr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Ionawr 2009

Yn dod i rym

20 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 69(1), 74A ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1).

Bu ymgynghori yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu, fel y bo'n briodol, o Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(2) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

(1)

1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd y diffiniad o “the Ministers” gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S.1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Atodlen 4, paragraff 6.

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif. L60, 5.3.2008, t.17).