Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 106 (Cy.20)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

24 Ionawr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Ionawr 2009

Yn dod i rym

20 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 69(1), 74A ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1).

Bu ymgynghori yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu, fel y bo'n briodol, o Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(2) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 20 Chwefror 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

2.—(1Diwygier Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(3) yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn Atodlen 5 (cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) —

(a)ym Mhennod A, yn y cofnodion ynghylch fflworin—

(i)ar ôl y cofnod olaf yng ngholofn 2 ychwaneger “— complete feeding stuffs for fish”, a

(ii)ar ôl y cofnod olaf yng ngholofn 3 ychwaneger “350”;

(b)ym Mhennod C —

(i)hepgorer y cofnodion ynghylch Apricots, Bitter almond and Camelina;

(ii)ar gyfer y cofnodion ynghylch Weed seeds etc. rhodder y canlynol —

Column 1Column 2Column 3
Undesirable substancesProducts intended for animal feedMaximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12%
Weed seeds and unground and uncrushed fruits containing alkaloids, glucosides or other toxic substances, separately or in combination including:All feeding stuffs3000
Datura stramonium L.1000

(c)ym Mhennod D, yn y cofnodion ynghylch DDT yng ngholofn 1, yn lle'r ymadrodd mewn cromfachau rhodder “(sum of DDT-, DDD- (or TDE-) and DDE-isomers, expressed as DDT)”.

(3Yn Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir at ddibenion maethiadol penodol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio), yn lle'r cofnodion ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau yn rhes gyntaf y tabl ym Mhennod A, rhodder y cofnodion a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

24 Ionawr 2009

Rheoliad 2(3)

YR ATODLENCofnodion sydd i'w rhoi yn lle'r cofnodion ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau yn Atodlen 7 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

Particular nutritional purposeEssential nutritional characteristicsSpecies or category of animalLabelling declarationsRecommended length of time for useOther provisions
Support of renal function in case of chronic renal insufficiency(1)Low level of phosphorus and restricted level of protein but of high qualityDogs and cats
  • Protein source(s)

  • Calcium

  • Phosphorus

  • Potassium

  • Sodium

  • Content of essential fatty acids (if added)

Initially up to 6 months(2)Indicate on the package, container or label: “It is recommended that a veterinarian’s opinion be sought before use or before extending the period of use”.
Indicate in the instructions for use: “Water should be available at all times”.
or
Reduced phosphorus absorption by means of incorporation of Lanthanum carbonate octahydrateAdult cats
  • Protein source(s)

  • Calcium

  • Phosphorus

  • Potassium

  • Sodium

  • Lanthanum carbonate octahydrate

  • Content of essential fattyacids (if added)

Initially up to 6 months(2)Indicate on the package, container or label: “It is recommended that a veterinarian’s opinion be sought before use or before extending the period of use”.
Indicate in the instructions for use: “Water should be available at all times”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/116 (Cy.14) a ddiwygiwyd eisoes gan O.S. 2006/617 (Cy.69), O.S. 2006/2928 (Cy. 263), O.S. 2006/3256 (Cy.296), O.S. 2007/3171 (Cy.277) ac O.S. 2008/1806 (Cy.174)) (“y Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid”).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu—

(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/76/EC sy'n diwygio Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid ( OJ Rhif L198, 26.7.2008, t.37); a

(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/82/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/38/EC o ran bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau (OJ Rhif L202, 31.7.2008, t.48).

3.  O ran paragraff 2(a), mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 (cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) i'r Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid. Mae'r newidiadau'n ymwneud â fflworin, cynhyrchion planhigion penodol a DDT.

4.  O ran paragraff 2(b), mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r tabl yn Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir at ddibenion maethiadol penodol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio) i'r Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid, drwy ddisodli'r cofnodion presennol ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau.

5.  Ni chafodd asesiad effaith llawn ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau preifat na gwirfoddol.

(1)

1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd y diffiniad o “the Ministers” gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S.1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Atodlen 4, paragraff 6.

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif. L60, 5.3.2008, t.17).