- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
18.—(1) Pan fo person —
(a)yn ymgymryd, heb drwydded, â gwaith y mae'n ofynnol cael trwydded ar ei gyfer; neu
(b)yn torri unrhyw amod mewn trwydded;
caiff yr Awdurdod Trwydded ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad i'r person hwnnw gymryd unrhyw gamau rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, a chaniateir iddynt gynnwys camau i waredu'r gwaith, cywiro'r toriad neu leiafu unrhyw rwystr i'r stryd sy'n gysylltiedig â'r gwaith neu roi pen ar y rhwystr hwnnw.
(2) Rhaid i'r hysbysiad bennu'r gwaith neu'r toriad sy'n dod o dan baragraff (1)(a) neu (b) ac y mae'r hysbysiad hwnnw'n ymwneud ag ef.
(3) Os bydd ymgymerwr statudol yn methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath o fewn y cyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad, caiff yr Awdurdod Trwyddedau gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ac unrhyw gamau rhesymol y mae'n barnu eu bod yn briodol gan roi sylw i'r gwaith neu'r toriad sy'n dod o dan baragraff (1)(a) neu (b) ac y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef ac adennill oddi wrtho'r costau a dynnir yn rhesymol ganddo wrth wneud hynny.
19.—(1) Mae'n dramgwydd i ymgymerwr statudol neu berson sydd wedi'i gontractio i weithredu ar ei ran ymgymryd â gwaith penodedig mewn stryd benodedig heb drwydded, ac eithrio i'r graddau y mae cynllun trwyddedau'n darparu nad yw'r gofyniad hwn yn gymwys.
(2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
20.—(1) Mae'n dramgwydd i ymgymerwr statudol neu berson sydd wedi'i gontractio i weithredu ar ei ran dorri un o amodau trwydded.
(2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
21.—(1) Caniateir i swyddog awdurdodedig i Awdurdod Trwyddedau, os bydd gan y swyddog hwnnw le i gredu bod person yn cyflawni neu wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 19(1) neu 20(1), roi iddo hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas â'r tramgwydd hwnnw.
(2) Yn y Rhan hon ystyr “hysbysiad cosb benodedig” (“fixed penalty notice”) yw hysbysiad sy'n cynnig cyfle i berson gael ei ryddhau rhag unrhyw atebolrwydd am gollfarn am dramgwydd cosb benodedig drwy dalu cosb.
22. Ni chaniateir i hysbysiad cosb benodedig gael ei roi fwy na 91 o ddiwrnodau ar ôl cyflawni'r tramgwydd gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd ei gyflawni.
23.—(1) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1 neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
(2) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig nodi'r tramgwydd y mae'n ymwneud ag ef a rhoi manylion rhesymol am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio'r tramgwydd hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig ddatgan hefyd—
(a)swm y gosb ac o fewn pa gyfnod y caniateir iddo gael ei dalu;
(b)y swm gostyngol sy'n daladwy'n unol â rheoliad 25 ac o fewn pa gyfnod y caniateir ei dalu;
(c)y person y caniateir i'r taliad gael ei wneud iddo a'r cyfeiriad lle caniateir iddo gael ei wneud;
(ch)drwy ba ddull neu ddulliau y caniateir i'r taliad gael ei wneud;
(d)y person y caniateir i unrhyw sylwadau ynghylch yr hysbysiad gael eu cyfeirio ato a'r cyfeiriad lle caniateir eu cyfeirio; ac
(dd)canlyniadau peidio â gwneud taliad o fewn y cyfnod ar gyfer talu.
(4) Rhaid mai'r awdurdod trwyddedau neu berson a gontractiwyd i weithredu ar ei ran yw'r person a bennir o dan baragraff (3)(c).
24.—(1) Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi'i roi o dan reoliad 21 mewn perthynas â thramgwydd, y gosb sy'n daladwy er mwyn rhyddhau rhag atebolrwydd am gollfarn am y tramgwydd hwnnw yw—
(a)yn achos tramgwydd o dan reoliad 19, £500, a
(b)yn achos tramgwydd o dan reoliad 20, £120.
(2) Y cyfnod ar gyfer talu'r gosb yw'r cyfnod o 36 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad.
(3) Caiff yr Awdurdod Trwyddedau estyn y cyfnod ar gyfer talu'r gosb mewn unrhyw achos penodol os yw'n barnu ei bod yn briodol gwneud hynny.
25.—(1) Mae swm gostyngol yn daladwy yn lle'r swm a ragnodir o dan reoliad 24(1) os gwneir taliad cyn diwedd y cyfnod o 29 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
(2) Y swm gostyngol yw —
(a)mewn achos lle mae rheoliad 24(1)(a) yn gymwys, £300, a
(b)mewn achos lle mae rheoliad 24(1)(b) yn gymwys, £80.
(3) Os na fydd diwrnod olaf y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) yn disgyn ar ddiwrnod gweithio, caiff y cyfnod ar gyfer talu'r swm gostyngol ei estyn tan ddiwedd y diwrnod gwaith nesaf.
26.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan roddir hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â thramgwydd cosb benodedig.
(2) Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos cyfreithiol am y tramgwydd cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu'r gosb.
(3) Ni chaniateir i unrhyw achos cyfreithiol o'r fath gael ei gychwyn na'i barhau os telir swm y gosb cyn diwedd y cyfnod hwnnw neu os caiff ei dderbyn gan yr Awdurdod Trwyddedau ar ôl yr amser hwnnw.
(4) Ni fydd talu'r swm gostyngol yn cyfrif at ddibenion paragraff (3) ond os caiff ei wneud cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu'r swm gostyngol.
(5) Mewn achos cyfreithiol am y tramgwydd, bydd tystysgrif —
(a)sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y cynllun trwyddedau; a
(b)sy'n datgan bod taliad o swm a bennwyd yn y dystysgrif wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn dyddiad a bennwyd felly,
yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatganwyd.
(6) Y person sydd â chyfrifoldeb ariannol dros y cynllun trwyddedau —
(a)os un awdurdod priffyrdd yw'r Awdurdod Trwyddedau, yw'r person sy'n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod hwnnw; a
(b)os yw'r Awdurdod Trwyddedau'n fwy nag un awdurdod priffyrdd, yw'r person a benodwyd gan yr awdurdodau cyfranogol i fod yn gyfrifol am gyfrifyddu ariannol mewn perthynas â'r cynllun trwyddedau.
27.—(1) Os yw'r Awdurdod Trwyddedau'n credu na ddylai hysbysiad cosb benodedig a roddwyd fod wedi'i roi, rhaid iddo roi i'r person y rhoddwyd yr hysbysiad hwnnw iddo hysbysiad yn tynnu'r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2 neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurf honno yn Atodlen 2.
(3) Pan fo hysbysiad o dan baragraff (1) wedi'i roi, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ad-dalu unrhyw swm sydd wedi'i dalu fel cosb yn unol â'r hysbysiad cosb benodedig.
(4) Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedau ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan neu ar ran derbynnydd hysbysiad cosb benodedig a phenderfynu o dan yr holl amgylchiadau a ddylid tynnu'r hysbysiad yn ôl.
28.—(1) Caiff Awdurdod Trwyddedau ddidynnu o gosbau penodedig a geir o dan y rheoliadau hyn unrhyw gostau o weithredu ei gynllun trwyddedau sy'n weddill ar ôl defnyddio incwm o ffioedd at dalu'r costau hynny o dan reoliad 32.
(2) Rhaid i Awdurdod Trwyddedau ddefnyddio'r enillion neu'r enillion net a geir o gosbau penodedig er mwyn magu neu weithredu polisïau i hyrwyddo a hybu cyfleusterau a gwasanaethau cludo diogel, integredig, effeithlon a darbodus i'r ardal benodedig, ohoni ac o'i mewn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys