- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643) (“y prif Orchymyn”) er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2009/7/EC sy'n diwygio Atodiadau I, II, IV a V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau amddiffynnol yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu hymlediad o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 40, 11.2.2009, t. 12).
Mae'r Gorchymyn yn diwygio Atodlenni 1, 2, 4 a 6 i'r prif Orchymyn er mwyn ehangu'r rheolaethau ar gyflwyno planhigion a phlâu planhigion penodol i Gymru, ac ar eu hymlediad oddi mewn iddi. Mae'r organeddau niweidiol canlynol, nad yw'n hysbys hyd yn hyn eu bod yn bresennol yn y Gymuned, wedi'u hychwanegu at y rhestr o organeddau gwaharddedig:
—Dendrolimus sibiricus (gwyfyn sidan conwydd Siberia),
—Rhynchophorus palmarum (gwiddonyn palmwydd Americanaidd),
—Agrilus planipennis (Tyllbryf onn emrallt) ar blanhigion Fraxinus, Juglans mandshurica, Ulmus davidiana, Ulmus parvifolia, a Pterocarya rhoifolia,
—Firws necrosis coesau ffarwelau haf ar blanhigion Dendranthema a Lycopersicon lycopersicum,
—Scrobipalpopsis solanivora (gwyfyn tatws Guatemala) ar gloron Solanum tuberosum,
—Stegophora ulmea (Smotiau duon llwyfen) ar blanhigion Ulmus a Zelkova, sydd wedi'u bwriadu i'w plannu, ac eithrio hadau.
Nid oes asesiad effaith llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys