Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Arbelydru Bwyd(Cymru) 2009

Newidiadau dros amser i: Nodiadau Esboniadol

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/07/2009.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Arbelydru Bwyd(Cymru) 2009. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig ac yn cyfyngu ar drin bwyd ag ymbelydredd ïoneiddio (arbelydru) ac ar fewnforio, storio a chludo, at ddibenion gwerthu, fwyd sydd wedi'i arbelydru, a gwerthu'r bwyd hwnnw.LL+C

2.  Mae'r Rheoliadau yn dirymu ac yn ailddeddfu'r offerynnau a bennir ym mharagraff 4(ng) isod gydag addasiadau sy'n rhoi eu heffaith gyflawn i'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 3 isod.LL+C

3.  Mae'r Rheoliadau yn rhoi eu heffaith i ddarpariaethau—LL+C

(a)Cyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L66, 13.3.99, t.16);

(b)Cyfarwyddeb 1999/3/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch sefydlu rhestr Gymunedol o fwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio (OJ Rhif L66, 13.3.99, t.24);

(c)Penderfyniad y Comisiwn 2002/840/EC sy'n mabwysiadu'r rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd i arbelydru bwyd (OJ Rhif L287, 25.10.2002, t.40);

(ch)Rhestr y Comisiwn dyddiedig 3 Medi 2004 o gyfleusterau sydd wedi'u cymeradwyo i drin bwydydd a chynhwysion bwydydd ag ymbelydredd ïoneiddio yn yr Aelod-wladwriaethau(1);

(d)Penderfyniad y Comisiwn 2004/691/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2002/840/EC yn mabwysiadu'r rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd i arbelydru bwydydd (OJ Rhif L314, 13.10.2004, p.14); ac

(dd)Penderfyniad y Comisiwn 2007/802/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2002/840 o ran y rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd i arbelydru bwydydd (OJ Rhif L323, 8.12.87, t.40).

4.  Yn ogystal â gwneud mân newidiadau a newidiadau drafftio, mae'r Rheoliadau yn gwneud y canlynol—LL+C

(a)diffinio “bwyd a arbelydrwyd yn briodol” (rheoliad 3(2) ac Atodlen 1);

(b)gwahardd arbelydru bwyd onid yw'n iachus ac wedi'i arbelydru'n unol â'r Rheoliadau a chyda thrwydded (rheoliad 4(1));

(c)darparu ar gyfer dyroddi trwyddedau a chynnwys trwyddedau, y gofynion y mae'r trwyddedai i ufuddhau iddynt, ac amrywio, canslo neu atal trwyddedau (rheoliad 4(2) ac Atodlen 2);

(ch)cyfyngu ar fewnforio bwyd sydd wedi'i arbelydru (rheoliad 5);

(d)cyfyngu ar ei storio neu ei gludo (rheoliad 6);

(dd)cyfyngu ar ei werthu (rheoliad 7);

(e)ei gwneud yn ofynnol i'r dogfennau sy'n dod gyda bwyd sydd wedi'i arbelydru gynnwys gwybodaeth benodol (rheoliad 8);

(f)darparu ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 9);

(ff)creu tramgwyddau a rhagnodi cosbau (rheoliad 10);

(g)cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 11); ac

(ng)dirymu Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990/2490 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru a rheoliadau 2 i 16 o Reoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001/1232 (Cy. 66) (rheoliad 12).

5.  Gellir cael asesiad effaith rheoliadol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol gan yr Is-adran Diogelwch Bwyd a Gorfodi, Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.LL+C

(1)

Fe'i cyhoeddwyd ar wefan y Comisiwn yn http://ec.europa.eu/food/food/biosafety/irradiation.comm legisl en.pdf. Gellir cael copi caled oddi wrth y Comisiwn Ewropeaidd, Y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Iechyd a Defnyddwyr, B-1049 Brwsel, Gwlad Belg.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill