xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CTRWYDDEDAU

RHAN 1LL+CRhoi Trwyddedau

Cais am drwyddedLL+C

1.  Rhaid i berson sy'n ceisio cael trwydded i arbelydru bwyd (“y ceisydd”) wneud cais drwy anfon at yr Asiantaeth gais ysgrifenedig sy'n cynnwys—

(a)enw'r ceisydd;

(b)cyfeiriad y ceisydd;

(c)cyfeiriad y cyfleuster lle mae'r ceisydd yn bwriadu arbelydru bwyd;

(ch)manylion unrhyw drwydded neu gofrestriad o dan unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n galluogi'r ceisydd i ddefnyddio ymbelydredd ïoneiddio yn y cyfleuster o dan amgylchiadau lle byddai ei ddefnyddio felly, oni bai am y drwydded honno neu'r cofrestriad hwnnw, yn anghyfreithlon;

(d)disgrifiad o bob bwyd y mae'r ceisydd yn bwriadu ei arbelydru a hwnnw'n ddisgrifiad sy'n ddigon i ddangos bod y bwyd yn dod o fewn categori bwyd a ganiateir;

(dd)mewn perthynas â phob bwyd a ddisgrifir yn unol ag is-baragraff (d) —

(i)at ba ddiben y mae'r ceisydd yn bwriadu arbelydru'r bwyd a sut y byddai hynny o fudd i ddefnyddwyr;

(ii)y dull y mae'r ceisydd i'w ddefnyddio i sicrhau bod y bwyd mewn cyflwr rhesymol iachus cyn cael ei arbelydru;

(iii)y dogn cyfartalog cyffredinol, y dogn uchaf a'r dogn isaf o ymbelydredd ïoneiddio y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cymhwyso i'r bwyd;

(iv)y dull (gan gynnwys offeryniaeth ac amlder) y mae'r ceisydd yn bwriadu ei ddefnyddio i fesur unrhyw ddogn o ymbelydredd ïoneiddio a'r safon ddosimetreg y mae'n bwriadu ei defnyddio i galibradu'r mesuryddion dognau a ddefnyddir i'w fesur;

(v)datganiad ynghylch a yw'r ceisydd yn bwriadu arbelydru bwyd o'r disgrifiad hwnnw sydd mewn pecynnau sy'n cyffwrdd â'r bwyd ai peidio ac, os felly, y pecynnau y mae'r ceisydd yn bwriadu eu defnyddio; a

(vi)datganiad ynghylch a yw'r ceisydd yn bwriadu defnyddio dull rheoli tymheredd y bwyd wrth ei arbelydru ai peidio ac, os ydyw, ar ba dymheredd y mae'r ceisydd yn bwriadu cadw'r bwyd tra bo'r tymheredd yn cael ei reoli;

(e)mewn perthynas â phob bwyd a ddisgrifir o dan is-baragraff (d), fanylion sy'n dangos bod yr arbelydru i gydymffurfio ag Atodlen 1 a'r Cod Ymarfer Rhyngwladol a Argymhellwyd gan Gyd-gomisiwn Codex Alimentarius yr FAO a WHO ar gyfer gweithredu cyfleusterau arbelydru a ddefnyddir i drin bwydydd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon o'r Atodlen hon fel “y Cod Ymarfer”), cyfeirnod FAO/WHO/CAC, cyf. XV,argraffiad 1(1);

(f)plan o gynllun y cyfleuster, manylion ei ddyluniad a'i adeiladwaith a datganiad o'r arferion y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cymhwyso, gan gynnwys—

(i)y dull arfaethedig o arbelydru bwyd;

(ii)y math o ymbelydredd sydd i'w ddefnyddio;

(iii)y dulliau arfaethedig o reoli a threfnu'r busnes, gan gynnwys y cymwysterau gofynnol (p'un a ydynt yn rhai ffurfiol neu'n deillio o sgiliau, hyfforddiant neu brofiad) personau a fydd yn ymwneud â chymhwyso'r arferion;

(ff)gwybodaeth ynghylch pwy yw'r person sydd wedi'i ddynodi i fod yn gyfrifol am gydymffurfio â'r amodau sy'n angenrheidiol ar gyfer cymhwyso'r arferion y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (f), beth yw cymwysterau'r person hwnnw, a beth yw ei safle yn strwythur rheoli'r ceisydd;

(g)o ba ddyddiad y mae'r ceisydd yn dymuno i'r drwydded redeg; ac

(ng)unrhyw fanylion eraill y mae'r ceisydd yn dymuno bod yr Asiantaeth yn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid rhoi'r drwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 Rhn. 1 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

Ystyried y caisLL+C

2.  Caiff yr Asiantaeth roi trwydded pan fo wedi'i bodloni—

(a)bod y cyfleuster a bennir yn y cais yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer;

(b)bod pob bwyd a ddisgrifir yn y cais yn dod o fewn categori a ganiateir;

(c)bod angen technolegol rhesymol;

(ch)na fyddai'r arbelydru'n peri unrhyw berygl i iechyd ac y byddai'n cael ei gyflawni o dan yr amodau sy'n cael eu disgrifio yn y cais;

(d)y byddai'r arbelydru o fudd i'r defnyddiwr;

(dd)na fyddai'r arbelydru'n cael ei ddefnyddio yn lle arferion hylendid ac arferion iechyd nac yn lle arferion da ym maes gweithgynhyrchu neu amaethyddiaeth;

(e)mai unig ddibenion arbelydru yw —

(i)lleihau nifer yr achosion o glefydau sy'n cael eu cario mewn bwyd drwy ddinistrio organeddau pathogenig;

(ii)lleihau nifer yr achosion o ddifetha bwydydd drwy arafu neu stopio prosesau pydru a dinistrio'r organeddau sy'n difetha'r bwydydd;

(iii)lleihau nifer y bwydydd sy'n cael eu colli drwy aeddfedu, egino neu flaguro'n rhy gynnar; neu

(iv)gwaredu bwydydd rhag organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion;

(f)pan fo dibenion yr arbelydru'n cynnwys lleihau nifer yr achosion o glefydau sy'n cael eu cario gan fwyd drwy ddinistrio organeddau pathogenig, bod y ceisydd i ddefnyddio meini prawf microbiolegol wrth benderfynu a ddylid arbelydru bwyd;

(ff)nad oes unrhyw risg o bwys y gall y ceisydd arbelydru bwyd nad yw'n gallu cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd am resymau microbiolegol, neu nad yw'n gallu cydymffurfio â hwy heb gael ei arbelydru;

(g)bod pob dull a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(ii) o'r Rhan hon yn ddigon i alluogi'r ceisydd i sicrhau bod y bwyd mewn cyflwr sy'n rhesymol iachus cyn cael ei arbelydru;

(ng)bod y dogn cyfartalog cyffredinol a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iii) o'r Rhan hon mewn perthynas â phob disgrifiad o fwyd yn gyson â phob diben a bennwyd ar gyfer y digrifiad hwnnw o fwyd o dan baragraff 1(dd)(i);

(h)bod y dull a'r safon a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iv) o'r Rhan hon—

(i)yn cydymffurfio ag Atodlen 1; a

(ii)yn dileu unrhyw risg o bwys y bydd y dogn cyfartalog cyffredinol, a fesurir â'r dull hwnnw, yn gwyro'n sylweddol o'r dogn cyfartalog cyffredinol fel y'i diffinnir o dan baragraff 1 o Atodlen 1;

(i)bod y ffactorau a bennwyd o dan baragraff 1(dd) yn dileu unrhyw risg sylweddol y bydd y bwyd hwnnw, a arbelydrwyd mewn unrhyw becyn a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(v), ac ar unrhyw dymheredd a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(vi), yn methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd; a

(j)bod yr arferion a'r cymwysterau a bennwyd yn y datganiad o dan baragraff 1(f) yn ddigon i sicrhau na chaiff gofynion y Rheoliadau hyn nac unrhyw un o amodau'r drwydded eu torri.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 Rhn. 1 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

3.  Pan fo'r Asiantaeth yn credu—

(a)y dylai gymryd i ystyriaeth weithrediad ymarferol y cyfleuster cyn iddo benderfynu'r cais yn derfynol; a

(b)na fyddai'n peryglu diogelwch pe câi bwyd ei arbelydru yn y cyfleuster am y tro,

caiff roi trwydded am gyfnod, neu gyfnod pellach, nad yw ei gyfanswm yn fwy na 6 mis i'w alluogi i gymryd i ystyriaeth y gweithrediad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 Rhn. 1 para. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

Gwrthod caisLL+C

4.—(1Pan fo'r Asiantaeth yn gwrthod rhoi trwydded, rhaid iddi roi i'r ceisydd ddatganiad ysgrifenedig am ei rhesymau dros wneud hynny a gwahodd y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddi o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y caiff y datganiad ei anfon.

(2Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o'r fath—

(a)caiff yr Asiantaeth, os yw wedi'i bodloni ar y materion a bennwyd ym mharagraff o'r Rhan hon, roi trwydded; neu

(b)rhaid i'r Asiantaeth roi i'r ceisydd ddatganiad ysgrifenedig am ei rhesymau dros barhau i wrthod rhoi trwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 Rhn. 1 para. 4 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

ParhadLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd trwydded yn parhau i fod yn effeithiol oni chaiff ei chanslo neu ei hatal yn unol â darpariaethau Rhan 5 neu ei hildio gan y trwyddedai i'r Asiantaeth.

(2Bydd trwydded o dan baragraff 3 yn parhau i gael effaith—

(a)hyd nes y bydd y cyfnod y cafodd ei rhoi amdano wedi dod i ben; neu

(b)hyd nes y bydd yr Asiantaeth yn gwrthod rhoi trwydded wrth iddi benderfynu'n derfynol ar y cais,

oni caiff ei chanslo neu ei hatal yn unol â darpariaethau Rhan 5 neu ei hildio gan y trwyddedai i'r Asiantaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 Rhn. 1 para. 5 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)

(1)

Gellir cael copi o'r Cod Ymarfer oddi wrth Gomisiwn y Codex Alimentarius, Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, Vialle della Terme di Caracalla, 0010, Rhufain.