xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 3(2)(d) a (3) ac Atodlen 2, Rhan 1, paragraffau 1(e) a 2(1)
(Mae'r Atodlen hon yn gosod (gyda chywiriad(1) ym mharagraff 1(5)) ddarpariaethau Atodiad III i Gyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio(2))
1.—(1) Gellir rhagdybio at ddibenion penderfynu iachusrwydd bwydydd sydd wedi'u trin â dogn cyfartalog cyffredinol o 10kGy neu lai fod pob effaith gemegol ymbelydredd yn amrediad y dogn penodol hwnnw yn gymesur â'r dogn hwnnw.
(2) Mae 146 r dogn cyfartalog cyffredinol,
, wedi'i ddiffinio gan yr integryn canlynol dros gyfaint cyfan y nwyddau:
ac
=
mâs cyfan y sampl a driniwyd
=
y dwysedd lleol yn y pwynt (x,y,z)
=
y dogn a amsugnwyd yn lleol yn y pwynt (x,y,z)
=
= dx dy dz, yr elfen gyfaint orfychan a gynrychiolir mewn achosion real gan y ffracsiynau cyfaint.
(3) Gellir penderfynu'r dogn cyfartalog cyffredinol a amsugnwyd yn uniongyrchol ar gyfer cynhyrchion cydryw neu ar gyfer swmp-nwyddau o ddwysedd ymddangosol cydryw drwy ddosbarthu nifer digonol o ddosimetrau yn strategol ac ar hap ledled cyfaint y nwyddau. O ddosbarthiad y dogn a benderfynir yn y modd hwn gellir cyfrifo cyfartaledd a hwnnw yw'r dogn cyfartalog cyffredinol a amsugnwyd.
(4) Os bydd siâp cromlin dosraniad y dogn drwy'r cynnyrch cyfan yn dra phendant, bydd safleoedd y dogn isaf ac uchaf yn hysbys. Gellir defnyddio mesuriadau o ddosraniad y dogn yn y ddau safle hwn mewn cyfres o samplau o'r cynnyrch i roi amcangyfrif o'r dogn cyfartalog cyffredinol.
(5) Mewn rhai achosion, bydd gwerth cymedrig gwerthoedd cyfartalog y dogn isaf (
min) a'r dogn uchaf (
max) yn amcangyfrif da o'r dogn cyfartalog cyffredinol: h.y., yn yr achosion hyn:
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Cyn bod gwaith arbelydru arferol ar gategori penodol o fwydydd yn dechrau mewn cyfleuster ymbelydru, mae lleoliadau'r dognau isaf ac uchaf i'w penderfynu drwy wneud mesuriadau o'r dognau ledled cyfaint y cynnyrch. Rhaid i'r mesuriadau dilysu hyn gael eu gwneud nifer addas o weithiau (e.e. 3-5) er mwyn lwfio ar gyfer amrywiadau yn nwysedd neu geometreg y cynnyrch.
(2) Rhaid ail-wneud mesuriadau pryd bynnag y newidir y cynnyrch, ei geometreg neu'r amodau arbelydru.
(3) Yn ystod y broses, bydd mesuriadau rheolaidd o'r dogn yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau nad eir dros derfynau'r dogn. Dylai'r mesuriadau gael eu gwneud drwy osod dosimetrau yn safleoedd y dogn uchaf neu'r dogn isaf, neu ar safle cyfeirio. Rhaid i'r dogn ar y safle cyfeirio fod yn gysylltiedig o ran maint â'r dogn uchaf a'r dogn isaf. Dylid lleoli'r safle cyfeirio ym mhwynt cyfleus yn y cynnyrch neu arno,lle mae'r amrywiadau mewn dogn yn isel.
(4) Rhaid gwneud mesuriadau rheolaidd o'r dognau ar bob swp a phob hyn a hyn yn rheolaidd yn ystod y broses gynhyrchu.
(5) Mewn achosion lle y mae nwyddau sy'n llifo ac sydd heb eu pecynnu yn cael eu harbelydru, ni ellir penderfynu lleoliadau'r dognau isaf ac uchaf. Mewn achos o'r fath, mae'n well defnyddio dull hapsamplu â dosimetr i ganfod gwerthoedd eithafion y dognau hynny.
(6) Dylid gwneud y mesuriadau o'r dognau drwy ddefnyddio systemau dosimetreg cydnabyddedig, a dylai fod modd olrhain y mesuriadau yn ôl safonau sylfaenol.
(7) Yn ystod y broses arbelydru, rhaid i barametrau penodol y cyfleuster gael eu rheoli a'u cofnodi'n barhaus. Ar gyfer cyfleusterau radioniwclid, mae'r parametrau'n cynnwys cyflymder cludo'r cynnyrch neu'r amser sy'n cael ei dreulio yn y parth ymbelydredd ac arwydd cadarnhaol bod safle'r ffynhonnell yn gywir. Ar gyfer cyfleusterau cyflymu, mae'r parametrau'n cynnwys cyflymder cludo cynnyrch a lefel ynni, cerrynt electronau a lled sganiwr y cyfleuster.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
Rheoliadau 4(2), (5)(1)(ch)(ii) a (d)(i)(bb), 6(1)(b)(ii) a 7(a)(i) a (ii)(aa)
1. Rhaid i berson sy'n ceisio cael trwydded i arbelydru bwyd (“y ceisydd”) wneud cais drwy anfon at yr Asiantaeth gais ysgrifenedig sy'n cynnwys—
(a)enw'r ceisydd;
(b)cyfeiriad y ceisydd;
(c)cyfeiriad y cyfleuster lle mae'r ceisydd yn bwriadu arbelydru bwyd;
(ch)manylion unrhyw drwydded neu gofrestriad o dan unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n galluogi'r ceisydd i ddefnyddio ymbelydredd ïoneiddio yn y cyfleuster o dan amgylchiadau lle byddai ei ddefnyddio felly, oni bai am y drwydded honno neu'r cofrestriad hwnnw, yn anghyfreithlon;
(d)disgrifiad o bob bwyd y mae'r ceisydd yn bwriadu ei arbelydru a hwnnw'n ddisgrifiad sy'n ddigon i ddangos bod y bwyd yn dod o fewn categori bwyd a ganiateir;
(dd)mewn perthynas â phob bwyd a ddisgrifir yn unol ag is-baragraff (d) —
(i)at ba ddiben y mae'r ceisydd yn bwriadu arbelydru'r bwyd a sut y byddai hynny o fudd i ddefnyddwyr;
(ii)y dull y mae'r ceisydd i'w ddefnyddio i sicrhau bod y bwyd mewn cyflwr rhesymol iachus cyn cael ei arbelydru;
(iii)y dogn cyfartalog cyffredinol, y dogn uchaf a'r dogn isaf o ymbelydredd ïoneiddio y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cymhwyso i'r bwyd;
(iv)y dull (gan gynnwys offeryniaeth ac amlder) y mae'r ceisydd yn bwriadu ei ddefnyddio i fesur unrhyw ddogn o ymbelydredd ïoneiddio a'r safon ddosimetreg y mae'n bwriadu ei defnyddio i galibradu'r mesuryddion dognau a ddefnyddir i'w fesur;
(v)datganiad ynghylch a yw'r ceisydd yn bwriadu arbelydru bwyd o'r disgrifiad hwnnw sydd mewn pecynnau sy'n cyffwrdd â'r bwyd ai peidio ac, os felly, y pecynnau y mae'r ceisydd yn bwriadu eu defnyddio; a
(vi)datganiad ynghylch a yw'r ceisydd yn bwriadu defnyddio dull rheoli tymheredd y bwyd wrth ei arbelydru ai peidio ac, os ydyw, ar ba dymheredd y mae'r ceisydd yn bwriadu cadw'r bwyd tra bo'r tymheredd yn cael ei reoli;
(e)mewn perthynas â phob bwyd a ddisgrifir o dan is-baragraff (d), fanylion sy'n dangos bod yr arbelydru i gydymffurfio ag Atodlen 1 a'r Cod Ymarfer Rhyngwladol a Argymhellwyd gan Gyd-gomisiwn Codex Alimentarius yr FAO a WHO ar gyfer gweithredu cyfleusterau arbelydru a ddefnyddir i drin bwydydd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon o'r Atodlen hon fel “y Cod Ymarfer”), cyfeirnod FAO/WHO/CAC, cyf. XV,argraffiad 1(3);
(f)plan o gynllun y cyfleuster, manylion ei ddyluniad a'i adeiladwaith a datganiad o'r arferion y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cymhwyso, gan gynnwys—
(i)y dull arfaethedig o arbelydru bwyd;
(ii)y math o ymbelydredd sydd i'w ddefnyddio;
(iii)y dulliau arfaethedig o reoli a threfnu'r busnes, gan gynnwys y cymwysterau gofynnol (p'un a ydynt yn rhai ffurfiol neu'n deillio o sgiliau, hyfforddiant neu brofiad) personau a fydd yn ymwneud â chymhwyso'r arferion;
(ff)gwybodaeth ynghylch pwy yw'r person sydd wedi'i ddynodi i fod yn gyfrifol am gydymffurfio â'r amodau sy'n angenrheidiol ar gyfer cymhwyso'r arferion y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (f), beth yw cymwysterau'r person hwnnw, a beth yw ei safle yn strwythur rheoli'r ceisydd;
(g)o ba ddyddiad y mae'r ceisydd yn dymuno i'r drwydded redeg; ac
(ng)unrhyw fanylion eraill y mae'r ceisydd yn dymuno bod yr Asiantaeth yn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid rhoi'r drwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 Rhn. 1 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
2. Caiff yr Asiantaeth roi trwydded pan fo wedi'i bodloni—
(a)bod y cyfleuster a bennir yn y cais yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer;
(b)bod pob bwyd a ddisgrifir yn y cais yn dod o fewn categori a ganiateir;
(c)bod angen technolegol rhesymol;
(ch)na fyddai'r arbelydru'n peri unrhyw berygl i iechyd ac y byddai'n cael ei gyflawni o dan yr amodau sy'n cael eu disgrifio yn y cais;
(d)y byddai'r arbelydru o fudd i'r defnyddiwr;
(dd)na fyddai'r arbelydru'n cael ei ddefnyddio yn lle arferion hylendid ac arferion iechyd nac yn lle arferion da ym maes gweithgynhyrchu neu amaethyddiaeth;
(e)mai unig ddibenion arbelydru yw —
(i)lleihau nifer yr achosion o glefydau sy'n cael eu cario mewn bwyd drwy ddinistrio organeddau pathogenig;
(ii)lleihau nifer yr achosion o ddifetha bwydydd drwy arafu neu stopio prosesau pydru a dinistrio'r organeddau sy'n difetha'r bwydydd;
(iii)lleihau nifer y bwydydd sy'n cael eu colli drwy aeddfedu, egino neu flaguro'n rhy gynnar; neu
(iv)gwaredu bwydydd rhag organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion;
(f)pan fo dibenion yr arbelydru'n cynnwys lleihau nifer yr achosion o glefydau sy'n cael eu cario gan fwyd drwy ddinistrio organeddau pathogenig, bod y ceisydd i ddefnyddio meini prawf microbiolegol wrth benderfynu a ddylid arbelydru bwyd;
(ff)nad oes unrhyw risg o bwys y gall y ceisydd arbelydru bwyd nad yw'n gallu cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd am resymau microbiolegol, neu nad yw'n gallu cydymffurfio â hwy heb gael ei arbelydru;
(g)bod pob dull a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(ii) o'r Rhan hon yn ddigon i alluogi'r ceisydd i sicrhau bod y bwyd mewn cyflwr sy'n rhesymol iachus cyn cael ei arbelydru;
(ng)bod y dogn cyfartalog cyffredinol a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iii) o'r Rhan hon mewn perthynas â phob disgrifiad o fwyd yn gyson â phob diben a bennwyd ar gyfer y digrifiad hwnnw o fwyd o dan baragraff 1(dd)(i);
(h)bod y dull a'r safon a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iv) o'r Rhan hon—
(i)yn cydymffurfio ag Atodlen 1; a
(ii)yn dileu unrhyw risg o bwys y bydd y dogn cyfartalog cyffredinol, a fesurir â'r dull hwnnw, yn gwyro'n sylweddol o'r dogn cyfartalog cyffredinol fel y'i diffinnir o dan baragraff 1 o Atodlen 1;
(i)bod y ffactorau a bennwyd o dan baragraff 1(dd) yn dileu unrhyw risg sylweddol y bydd y bwyd hwnnw, a arbelydrwyd mewn unrhyw becyn a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(v), ac ar unrhyw dymheredd a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(vi), yn methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd; a
(j)bod yr arferion a'r cymwysterau a bennwyd yn y datganiad o dan baragraff 1(f) yn ddigon i sicrhau na chaiff gofynion y Rheoliadau hyn nac unrhyw un o amodau'r drwydded eu torri.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 Rhn. 1 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
3. Pan fo'r Asiantaeth yn credu—
(a)y dylai gymryd i ystyriaeth weithrediad ymarferol y cyfleuster cyn iddo benderfynu'r cais yn derfynol; a
(b)na fyddai'n peryglu diogelwch pe câi bwyd ei arbelydru yn y cyfleuster am y tro,
caiff roi trwydded am gyfnod, neu gyfnod pellach, nad yw ei gyfanswm yn fwy na 6 mis i'w alluogi i gymryd i ystyriaeth y gweithrediad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 Rhn. 1 para. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Pan fo'r Asiantaeth yn gwrthod rhoi trwydded, rhaid iddi roi i'r ceisydd ddatganiad ysgrifenedig am ei rhesymau dros wneud hynny a gwahodd y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddi o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y caiff y datganiad ei anfon.
(2) Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o'r fath—
(a)caiff yr Asiantaeth, os yw wedi'i bodloni ar y materion a bennwyd ym mharagraff o'r Rhan hon, roi trwydded; neu
(b)rhaid i'r Asiantaeth roi i'r ceisydd ddatganiad ysgrifenedig am ei rhesymau dros barhau i wrthod rhoi trwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 Rhn. 1 para. 4 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
5.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd trwydded yn parhau i fod yn effeithiol oni chaiff ei chanslo neu ei hatal yn unol â darpariaethau Rhan 5 neu ei hildio gan y trwyddedai i'r Asiantaeth.
(2) Bydd trwydded o dan baragraff 3 yn parhau i gael effaith—
(a)hyd nes y bydd y cyfnod y cafodd ei rhoi amdano wedi dod i ben; neu
(b)hyd nes y bydd yr Asiantaeth yn gwrthod rhoi trwydded wrth iddi benderfynu'n derfynol ar y cais,
oni caiff ei chanslo neu ei hatal yn unol â darpariaethau Rhan 5 neu ei hildio gan y trwyddedai i'r Asiantaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 Rhn. 1 para. 5 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
1. Rhaid i bob trwydded gynnwys—LL+C
(a)enw'r trwyddedai;
(b)cyfeiriad y cyfleuster trwyddedig;
(c)Rhif trwydded;
(ch)disgrifiad o bob bwyd y mae'r drwydded yn gymwys iddo;
(d)y dyddiad o ba bryd y mae'r drwydded i redeg; ac
(dd)yn achos trwydded o dan baragraff 3 o Ran 1, y dyddiad y daw i ben,
a chaiff gynnwys amodau.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 Rhn. 2 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
1.—(1) Yr unig fwyd y caiff trwyddedai ei arbelydru yw bwyd—LL+C
(a)y mae'r drwydded yn gymwys iddo; a
(b)yn y cyfleuster trwyddedig.
(2) Rhaid i drwyddedai beidio ag arbelydru unrhyw fwyd a geir oddi wrth berson arall onid yw'r manylion canlynol ynghlwm wrth y bwyd neu'n dod gydag ef pan ddaw i law—
(a)disgrifiad o'r bwyd ac enw a chyfeiriad traddodwr y bwyd;
(b)cyfeirnod y mae modd adnabod drwyddo y bwyd, neu unrhyw swp, eitem neu lwyth o fwyd o'r un disgrifiad y mae'r bwyd yn dod odano;
(c)os yw'r bwyd wedi dod i law'r trwyddedai fel beilî—
(i)enw a chyfeiriad ei berchennog; a
(ii)y rheswm pam y mae ei berchennog am iddo gael ei arbelydru; ac
(ch)datganiad ynghylch a yw'r bwyd neu unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 Rhn. 3 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
2. Rhaid i bob trwyddedai gadw—LL+C
(a)bwyd sy'n aros i gael ei arbelydru yn y cyfleuster trwyddedig mewn rhan o'r cyfleuster sydd wedi'i gwahanu â gwal neu atalfa oddi wrth unrhyw ran o'r cyfleuster lle mae bwyd sydd wedi'i arbelydru yn cael ei gadw ynddi; a
(b)pob bwyd sydd naill ai'n aros i gael ei arbelydru neu sydd wedi'i arbelydru mewn rhannau o'r cyfleuster sydd wedi'u gwahanu â gwal neu atalfa oddi wrth unrhyw ran o'r cyfleuster lle mae bwyd arall yn cael ei gadw wrth gynnal busnes.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 Rhn. 3 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
3.—(1) Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd mewn cyfuniad ag unrhyw driniaeth gemegol sydd â'r un pwrpas â'i arbelydru.LL+C
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd sydd wedi'i arbelydru, neu fwyd y mae unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru, o'r blaen.
(3) Nid yw symud y bwyd ymaith o'r cyfleuster lle mae arbelydru yn digwydd, a'i ddychwelyd yno, yn golygu torri is-baragraff (2) lle maent yn rhan o broses barhaus sy'n ofynnol oherwydd dyluniad ac adeiladwaith y cyfleuster hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 Rhn. 3 para. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
4. Rhaid i bob trwyddedai rifo pob swp bwyd y mae wedi'i arbelydru a phan fo unrhyw faint o'r bwyd wedi dod i law oddi wrth berson arall, rhaid iddo wneud hynny mewn ffordd sy'n golygu bod modd cysylltu'r Rhif â'r cyfeirnod a bennwyd ym mharagraff 1(2)(b) o'r Rhan hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 Rhn. 3 para. 4 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
5. Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd ac eithrio gyda'r canlynol—LL+C
(a)pelydrau gama o'r radioniwclid 60Co;
(b)pelydrau gama o'r radioniwclid 137Cs;
(c)pelydrau-X a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 5 MeV; neu
(ch)electronau a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 10 MeV.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 Rhn. 3 para. 5 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
6. Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd ac eithrio drwy ddefnyddio dulliau arbelydru priodol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
7. Rhaid i bob trwyddedai gadw'r cyfryw rheolaethau a fydd bob amser yn sicrhau bod yr arbelydru'n gyson â'r dull mesur a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iv) o Ran 1.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
8. Rhaid i bob trwyddedai gofnodi, mewn perthynas â phob swp bwyd a arbelydrir ganddo, yr wybodaeth ganlynol—LL+C
(a)yn achos cyfleuster radioniwclid—
(i)o ran ffurfweddiad pob ffynhonnell o ymbelydredd ïoneiddio sydd ar gael i'w ddefnyddio yn y cyfleuster, unrhyw wybodaeth am ei sefyllfa sy'n dangos a oedd y swp bwyd yn agored iddo ac os felly pryd y digwyddodd hynny;
(ii)naill ai ar ba gyflymder y mae'r swp yn teithio drwy'r cyfleuster ac ar hyd pa lwybr y mae'r swp yn teithio tra bo'n mynd drwyddo neu'r amser y mae'r swp yn ei dreulio yn y parth arbelydru;
(b)yn achos ffynhonnell sy'n beiriant—
(i)lefel ei hynni;
(ii)ei cherrynt electron;
(iii)lled ei sganiwr;
(iv)nodweddion ei phelydr;
(v)onid oes ganddi ddyfais wasgaru, pa mor aml y mae ei phelydr yn sganio'r swp; a
(vi)ar ba gyflymder y mae'r swp yn teithio drwy'r cyfleuster.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
9.—(1) Rhaid i bob trwyddedai gofnodi ar gyfer pob swp bwyd a arbelydrir ganddo—LL+C
(a)natur y bwyd sydd yn y swp a faint ohono sydd ynddo;
(b)y Rhif a roddwyd iddo o dan baragraff 4;
(c)enw a chyfeiriad pob traddodwr a thraddodai bwyd sydd yn y swp;
(ch)y dyddiad y cafodd y swp ei arbelydru;
(d)unrhyw wybodaeth ficrobiolegol sy'n ymwneud â bwyd yn y swp;
(dd)y math o becyn a oedd mewn cyffyrddiad â'r bwyd yn y swp yn ystod yr arbelydru;
(e)pan fo'r trwyddedai wedi defnyddio dull rheoli'r tymheredd wrth arbelydru'r bwyd, tymheredd y bwyd yn y swp yn union cyn iddo gael ei arbelydru;
(f)y dogn uchaf, y dogn isaf a'r dogn cyfartalog cyffredinol o ymbelydredd ïoneiddio a gymhwyswyd i'r swp;
(ff)y math o ymbelydredd ïoneiddio a ddefnyddiwyd;
(g)y data a ddefnyddiwyd i reoli'r arbelydru gan gynnwys—
(i)y modd y lleolwyd mesuryddion dognau yn y swp a'r dognau o ymbelydredd ïoneiddio a gofnodwyd ganddynt;
(ii)unrhyw brofion blaenorol a ddefnyddiwyd at ddibenion dilysu'r lleoli hwnnw; a
(iii)y dull (gan gynnwys offeryniaeth ac amlder) a ddefnyddiwyd i fesur y dognau o ymbelydredd ïoneiddio a gymhwyswyd yn ystod yr arbelydru, ac yn y profion blaenorol, a'r safon dosimetreg a ddefnyddiwyd i galibradu'r mesuryddion a ddefnyddiwyd i'w mesur.
(2) Rhaid i drwyddedai beidio â thraddodi bwyd a arbelydrwyd gan y trwyddedai i berson arall onid yw'r canlynol yn mynd gyda'r bwyd hwnnw—
(a)enw'r trwyddedai;
(b)Rhif trwydded y trwyddedai;
(c)yr wybodaeth a bennwyd yn is-baragraff (1)(a) i (ch); ac
(ch)y dogn cyfartalog cyffredinol sy'n ofynnol ei gofnodi gan is-baragraff (1)(f).
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
10. Rhaid i bob trwyddedai gadw'r wybodaeth y mae'n ofynnol o dan baragraffau 8 a 9(1) ei chofnodi am 5 mlynedd, hyd yn oed os yw'r trwyddedai'n peidio â bod yn drwyddedig yn y cyfamser.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
11. Rhaid i bob trwyddedai anfon at yr Asiantaeth erbyn diwrnod olaf Chwefror bob blwyddyn ddatganiad ysgrifenedig ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf sy'n cynnwys—LL+C
(a)enw'r trwyddedai;
(b)Rhif trwydded y trwyddedai;
(c)y flwyddyn y mae'r datganiad yn ymwneud â hi;
(ch)disgrifiad o bob bwyd y mae'r trwyddedai wedi'i arbelydru yn ystod y flwyddyn; a
(d)maint pob bwyd o'r fath, yn ôl cyfaint neu bwysau.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2, caiff yr Asiantaeth, ar gais y trwyddedai neu gyda'i gydsyniad, amrywio unrhyw un o amodau'r drwydded.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 2 Rhn. 4 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i'r Asiantaeth beidio â chytuno i amrywiad a fyddai'n caniatáu unrhyw weithred neu anwaith y byddai cynnig amdani neu amdano, petai wedi'i wneud yn y cais am drwydded, wedi peri i'r Asiantaeth wrthod rhoi trwydded o dan baragraff 2 o Ran 1.LL+C
(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid i'r Asiantaeth, wrth ystyried a ddylai amrywio trwydded, drin pob gwybodaeth wyddonol a fydd ganddi bryd hynny fel petai wedi'i chael pan roddodd y drwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 Rhn. 4 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
1. Os yw'r Asiantaeth yn credu bod amgylchiadau'n bodoli y byddai, petai wedi'u rhag-weld (a phetai wedi meddu ar yr un wybodaeth wyddonol ag sydd ganddi ar hyn o bryd) bryd hynny, wedi gwrthod, o dan baragraff 2 o Ran 1, roi'r drwydded odanynt, caiff rhoi hysbysiad i'r trwyddedai—LL+C
(a)yn esbonio pam y byddai wedi gwrthod rhoi'r drwydded; a
(b)yn hysbysu'r trwyddedai, oni fydd y trwyddedai'n wedi'i darbwyllo mewn ysgrifen i beidio â gwneud hynny o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl anfon yr hysbysiad, neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yn ei ganiatáu, y bydd yn canslo'r drwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 2 Rhn. 5 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
2. Os na fydd yr Asiantaeth, erbyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau neu unrhyw gyfnod hwy a ganiatawyd o dan baragraff 1(b) wedi'i darbwyllo i'r gwrthwyneb, rhaid iddi hysbysu'r trwyddedai mewn ysgrifen bod y drwydded wedi'i chanslo o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad a rhaid iddi ddatgan yn yr hysbysiad pam nad yw wedi'i darbwyllo felly; ond os yw wedi'i darbwyllo felly, rhaid iddi hysbysu'r trwyddedai o hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 2 Rhn. 5 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
3. Os caiff y drwydded ei chanslo, mae ei heffaith i beidio ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 2 Rhn. 5 para. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Os yw'r Asiantaeth o'r farn bod, neu y gall fod, risg niwed i iechyd oni chaiff y drwydded ei hatal, caiff roi hysbysiad ysgrifenedig i'r trwyddedai yn atal y drwydded o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad ac, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), ni fydd unrhyw effaith i'r drwydded at ddibenion y Rheoliadau hyn o'r dyddiad hwnnw.LL+C
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), pan roddir hysbysiad yn atal y drwydded—
(a)mae effaith yr ataliad i beidio ar ddiwedd y cyfnod o dri diwrnod ar ôl rhoi hysbysiad o'r ataliad oni bai bod hysbysiad wedi'i roi yn y cyfamser i'r trwyddedai o dan baragraff 1; ond
(b)os yw hysbysiad wedi'i roi yn y cyfamser i'r trwyddedai o dan baragraff 1, mae'r ataliad i barhau hyd nes y bydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd—
(i)bod yr Asiantaeth yn cael ei darbwyllo i beidio â chanslo'r drwydded; neu
(ii)bod y drwydded yn dod i ben.
(3) Caiff yr Asiantaeth, os yw'n credu mai heb ataliad na fydd risg niwed i iechyd, dynnu'r hysbysiad sy'n atal y drwydded yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 2 Rhn. 5 para. 4 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
1. Rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi yn y London Gazette hysbysiad o'r canlynol—LL+C
(a)pob trwydded a roddwyd;
(b)pob achos o atal trwydded;
(c)pob achos o ganslo trwydded; ac
(ch)pob amrywiad i delerau trwydded y cytunwyd arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 2 Rhn. n6 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
2. Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyhoeddir felly bennu—LL+C
(a)enw'r trwyddedai neu'r cyn-drwyddedai;
(b)y cyfleuster trwyddedig neu'r cyn-gyfleuster trwyddedig; ac
(c)Rhif ei drwydded,
a rhaid iddo ddatgan yn fras beth yw effaith y mater y mae'n ymwneud ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 2 Rhn. n6 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
3. Ac eithrio fel a ddarperir gan adran 43 o'r Ddeddf (parhad wedi marwolaeth), nid yw trwydded yn drosglwyddadwy.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 2 Rhn. n6 para. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
Rheoliadau 3(1) a 5(1)(b)(i)
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
Rhif cyfeirnod swyddogol | Enw a chyfeiriad |
---|---|
2110/91/0004 | IBA Mediris SA Zoning Industriel B-6220 Fleurus Gwlad Belg |
IR-01-CZ | Artim spol. S.r.o. Radiová 1 102 27 Prag Y Weriniaeth Tsiec |
SN 01 | Gamma-Service Produktbestrahlung GmbH Juri-Gagarin Strasse 15 D-01454 Radeberg Yr Almaen |
BY FS 01/2001 | Isotron Deutschland GmbH Kesselbodenstrasse 7 D-85391 Allershausen Yr Almaen |
NRW-GM 01 a NRW-GM 02 | BGS Beta-Gamma-Service GmbH & Co.KG Fritz-Kotz-Str.16 D-51674 Wiehl Yr Almaen |
D-BW-X-01 | Beta-Gamma-Service GmbH & Co. KG John-Deere-Strasse 3 D-76646 Bruchsal Yr Almaen |
500001/CU | Ionmed Esterilización, SA Santiago Rusiñol 12. Madrid Antigua Ctra Madrid-Valencia Km 83.7. Tarancón Cuenca Sbaen |
5.00002/B | ARAGOGAMMA S.A. Salvador Mundi 11, bajo. 08017 Barcelona Carretera Granollers a Carcadedu km 3,5. 08520 Les Franqueses del Vallés Barcelona Sbaen |
13055 F | Gammaster Provence SA Rue Jean Queillau Marché des Arnavaux F-13014 Marseille Cedex 14 Ffrainc |
01 142 F | Ionisos SA Zone Industrielle les Chartinières F-01120 Dagneux Ffrainc |
72 264 F | Ionisos SA Zone Industrielle de l'Aubrée F-72300 Sablé-sur-Sarthe Ffrainc |
85 182 F | Ionisos SA ZI Montifaud F-85700 Pouzauges Ffrainc |
10 093 F | Ionisos SA Zone Industrielle F-10500 Chaumesnil Ffrainc |
91471 F | Ionisos SA Domaine de Corbeville F-91400 Orsay Ffrainc |
56 015 F | Radient Ouest Le Flachec F-56230 Berric Ffrainc |
EU-AIF-04-2002 | AGROSTER Besugárzó Részvénytársaság Budapest X Jászberényi út 5 H-1106 Hwngari |
RAD 1/04 IT | GAMMARAD ITALIA SPA Via Marzabotto,4 Minerbio (BO) Yr Eidal |
GZB/VVB-991503 ac GZB/VVB-991393 | Gammaster BV Morsestraat 3 Ede Yr Iseldiroedd |
GZB/VVB-991503 ac GZB/VVB-991393 | Gammaster BV Soevereinsestraat 2 Etten-Leur Yr Iseldiroedd |
GIS-HZ-4434-W.-3/MR/03 | Sefydliad Cemeg a Thechnoleg Niwclear 16 Dorodna Str. 03-195 Warsaw Gwlad Pwyl |
GIS-HZ-4434-W.-2/MR/03 | Sefydliad Cemeg Ymbelydredd Gymhwysol Prifysgol Dechnegol Lodz 15 Wróblewskiego Str. 39-590 Lodz Gwlad Pwyl |
EW/04 | Isotron plc Moray Road Ystad Ddiwydiannol Elgin Swindon Wiltshire SN2 6DU Y Deyrnas Unedig |
Rheoliad 5(1)(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 4 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
Rhif cyfeirnod swyddogol | Enw a chyfeiriad |
---|---|
EU-AIF 01-2002 | HEPRO Cape (Pty) Ltd 6 Ferrule Avenue Montague Gardens Milnerton 7441 Western Cape Gweriniaeth De Affrica |
EU-AIF 02-2002 | Gammaster South Africa (Pty) Ltd Blwch Post 3219 5 Waterpas Street Isando Extension 3 Kempton Park 1620 Johannesburg Gweriniaeth De Affrica |
EU-AIF 03-2002 | Gamwave (Pty) Ltd Blwch Post 26406 Isipingo Beach Durban 4115 Kwazulu-Natal Gweriniaeth De Affrica |
EU-AIF 05-2004 | Gamma-Pak AS Yünsa Yolu N: 4 OSB Cerkezköy/TEKIRDAG TR-59500 Twrci |
EU-AIF 06-2004 | Studer Agg Werk Hard Hogenweidstrasse 2 Däniken CH-4658 Y Swistir |
EU-AIF 07-2006 | Y Ganolfan Arbelydru Thai Sefydliad Technoleg Niwclear Gwlad Thai (Corff Cyhoeddus) 37 Moo 3, TECHNOPOLIS Klong 5, Klong Luang Pathumthani 12120 Gwlad Thai |
EU-AIF 08-2006 | Isotron (Thailand) Ltd Parc Diwydiannol Bangpakong (Amata Nakorn) 700/465 Moo 7, Tambon Donhuaroh, Amphur Muang, Chonburi 20000 Gwlad Thai |
Mae'r Gyfarwyddeb yn hepgor y gair “average” ar ôl “overall”.
OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.16.
Gellir cael copi o'r Cod Ymarfer oddi wrth Gomisiwn y Codex Alimentarius, Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, Vialle della Terme di Caracalla, 0010, Rhufain.