Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2009

Diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007

5.  Yn rheoliad 8 (marcio, labelu a hysbysebu dŵr mwynol naturiol)—

(1yn lle paragraff 1(c) rhodder y paragraff a ganlyn—

(c)unrhyw fynegiad, dynodiad, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n ffigurol ai peidio, y mae'r defnydd ohonynt yn awgrymu nodweddion nad yw'r dŵr yn meddu arnynt, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i'w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu;;

(2yn lle paragraff (1)(f) rhodder y paragraff a ganlyn—

(f)disgrifiad gwerthu heblaw—

(i)yn achos dŵr mwynol naturiol eferw, un o'r canlynol, fel y bo'n briodol—

(aa)“naturally carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu yr un ag a geir wrth y ffynhonnell, gan gymryd i ystyriaeth pan fydd yn briodol ailgyflwyno mesur o garbon deuocsid o'r un lefel trwythiad neu ddyddodion cyfatebol i'r hyn a ollyngir yng nghwrs y gweithrediadau hynny ac yn ddarostyngedig i'r goddefiannau technegol arferol,

(bb)“natural mineral water fortified with gas from the spring” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o'r un lefel trwythiad neu'r un dyddodion ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu yn fwy nag a geir wrth y ffynhonnell, neu

(cc)“carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr yr ychwanegwyd carbon deuocsid ato o darddiad heblaw'r lefel trwythiad neu'r dyddodion y daw'r dŵr ohono; a

(ii)yn achos dŵr mwynol naturiol heblaw dŵr mwynol naturiol eferw, “natural mineral water”; a

(3yn lle paragraff (4) rhodder y paragraff a ganlyn—

(4) Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr mwynol naturiol o dan unrhyw fynegiad, dynodiad, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n ffigurol ai peidio, y mae'r defnydd ohonynt yn awgrymu nodweddion nad yw'r dŵr yn meddu arnynt, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i'w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu..