xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 201 (Cy.26)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2009

Gwnaed

2 Chwefror 2009

Yn dod i rym

3 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 18, 203 a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 4 o Atodlen 3 iddi(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 3 Chwefror 2009.

Diwygio'r Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu)

2.  Yn Erthygl 4 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998(2), ar ôl y gair “chairman”, rhodder y gair “seven” yn lle'r gair “five”.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

2 Chwefror 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998 er mwyn cynyddu nifer y cyfarwyddwyr anweithredol o 5 i 7 (erthygl 2).