Offerynnau Statudol Cymru
2009 Rhif 2633 (Cy.216)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) (Diwygio) 2009
Gwnaed
29 Medi 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Hydref 2009
Yn dod i rym
23 Hydref 2009
Enwi
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 23 Hydref 2009.
Diwygio Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) 2009
2. Yn nhestun Cymraeg Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) 2009(3) ym mharagraff 2 o Ran 1 o'r Atodlen hepgorer y geiriau “ymyl du a chroeslinellau” a rhodder yn eu lle y geiriau “ymyl du a llinellau lletraws”.
John Griffiths
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2009
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn cywiro gwall yn nhestun Cymraeg Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) 2009.
Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.
1992 p.13. Diwygiwyd adran 27 gan baragraff 16 o Atodlen 1 i Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Addysg a Hyfforddiant Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005 (O.S. 2005/3238) a chan baragraff 8 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 2007 (p.25).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).