- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn pennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu “trefniadau amgen” (h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod) (adran 31(1)(b)) ac yn pennu ffurf y trefniadau hynny (adran 32).
Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/397 (Cy.43)) (“y Prif Reoliadau”) yn caniatáu i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru weithredu trefniadau amgen, ar yr amod bod y trefniadau hynny ar y ffurf sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hynny.
Mae'r Prif Reoliadau'n pennu'r swyddogaethau hynny nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i fwrdd awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i fwrdd o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau.
Mae Atodlen 2 i'r Prif Reoliadau'n rhestru'r swyddogaethau hynny y caniateir iddynt fod, (ond nad oes angen iddynt fod) yn gyfrifoldeb bwrdd awdurdod. Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rhestr hon drwy fewnosod swyddogaethau penodedig o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Deddf Gamblo 2005. Effaith y diwygiadau hyn yw bod gan awdurdod lleol ddisgresiwn o ran a ydyw'r swyddogaethau o dan sylw i'w cael eu harfer gan y bwrdd.
Mae rheoliad 5 yn diwygio'r Prif Reoliadau drwy ddefnyddio geiriau generig i gyfeirio at gynlluniau plant a phobl ifanc sydd i'w paratoi a'u cyhoeddi gan awdurdodau lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004. Mae hefyd yn darparu bod yn rhaid i gynlluniau gwella hawliau tramwy beidio â bod yn gyfrifoldeb y bwrdd yn unig.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys