xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992

2.—(1Diwygier Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(1) fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010.

(2Yn lle Atodlen 4, rhoddir yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

30 Tachwedd 2009