xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CRHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, deuant i rym ar 25 Ionawr 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd heblaw ymadrodd a ddiffiniwyd ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 669/2009 yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002, Rheoliad 882/2004 neu Reoliad 669/2009 yn ôl fel y digwydd.

(4Pan ddyrennir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2F3...o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(3), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(4), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y'u dyrennir iddo.

(5Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau'r UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o dro i dro.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn rhl. 2(4)(a) wedi eu hepgor (C.) (23.11.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652), rhlau. 1, 16(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

(4)

1936 p.49; mae adran 6 i gael ei darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.