- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, RHAN 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
22. Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod bwyd anifeiliaid neu'r awdurdod bwyd;
ystyr “awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru” (“outside Wales enforcement authority”) yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym mewn perthynas â chynhyrchion a fewnforiwyd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru;
nid yw “bwyd anifeiliaid” (“feed”) yn cynnwys ychwanegion o fath a grybwyllir yn Erthygl 6(1)(e) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor neu baragraff 4(d) o Atodiad I iddo ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maeth i anifeiliaid(1) neu unrhyw rag-gymysgedd sydd wedi'i ffurfio'n unig o gyfuniad o'r ychwanegion hynny;
ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;
[F1ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid y mae eu mewnforio wedi eu rheoleiddio gan Erthygl 44 neu Erthygl 47(1)(d), (e) neu (f) o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad ydynt wedi eu rhestru ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o gynhyrchion cyfansawdd sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd rheoli ar y ffin;]
[F2ystyr “darpariaeth fewnforio benodedig” (“specified import provision”) yw unrhyw ddarpariaeth F3... ym mhecyn Rheoliad 2017/625 a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 6 ac y disgrifir ei chynnwys yng Ngholofn 2 o’r Atodlen honno;]
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Darpariaethau Mewnforio; F4...
F4...
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 22 wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1487), rhlau. 1(2), 3(3)(a)
F2Geiriau yn rhl. 22 wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 18(c)
F3Geiriau yn rhl. 22 wedi eu hepgor (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1487), rhlau. 1(2), 3(3)(b)
F4Geiriau yn rhl. 22 wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 10(9)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 22 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
23.—(1) Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal neu ei ddosbarth, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.
(2) Mae'r awdurdod bwyd anifeiliaid wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau [F5Rheoliad 2019/1793] i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.
(3) Mae dynodi awdurdod bwyd anifeiliaid yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (2) yn ddynodiad sy'n ymestyn i'w ardal neu i'w ddosbarth yn unig, yn ôl fel y digwydd.
F6(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F5Geiriau yn rhl. 23(2) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 19(a)
F6Rhl. 23(4) wedi ei hepgor (C.) (14.12.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 19(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 23 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
24.—(1) Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.
(2) Mae'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau [F7Rheoliad 2019/1793] i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.
(3) Mae dynodi awdurdod bwyd yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (2) yn ddynodiad sy'n ymestyn i'w ardal yn unig.
F8(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn rhl. 24(2) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 20(a)
F8Rhl. 24(4) wedi ei hepgor (C.) (14.12.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 20(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 24 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
25. Bydd y Comisiynwyr yn cyflawni'r swyddogaethau a roddir [F9i awdurdodau tollau o dan Erthyglau 46, 57, 75 ac 76 o Reoliad 2017/625 ac Erthygl 4 o Reoliad 2019/1793] o ran bwyd anifeiliaid a bwyd.
Diwygiadau Testunol
F9Geiriau yn rhl. 25 wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 21
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 25 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
26.—(1) Caiff y Comisiynwyr, yr Asiantaeth ac unrhyw awdurdod gorfodi gyfnewid gwybodaeth at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio, a chânt ddatgelu gwybodaeth i'r cyrff a ddiffinnir fel awdurdodau gorfodi yn y darpariaethau sy'n cyfateb i Ran 3 o'r Rheoliadau hyn yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio neu'r darpariaethau sy'n cyfateb i'r Darpariaethau Mewnforio yn yr awdurdodaethau hynny.
(2) Mae paragraff (1) heb ragfarn i unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynwyr, yr Asiantaeth neu unrhyw awdurdod gorfodi i ddatgelu gwybodaeth.
(3) Ni chaiff neb, gan gynnwys gwas i'r Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd oddi wrth y Comisiynwyr o dan baragraff (1)—
(a)os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod—
(i)wedi'u pennu yn y datgeliad; neu
(ii)yn gallu cael eu casglu o'r datgeliad;
(b)os gwneir y datgeliad at ddiben heblaw'r dibenion a bennwyd ym mharagraff (1); ac
(c)os nad yw'r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad ymlaen llaw i'r datgeliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 26 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
27.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo—
(a)cynnyrch o drydedd wlad wedi dod i mewn i Gymru;
(b)archwiliad gan yr awdurdod tollau o'r cynnyrch hwnnw wedi'i gwblhau neu wedi'i ohirio hyd nes iddo gyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig;
(c)swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle daeth y cynnyrch i mewn wedi dyroddi ar sail resymol awdurdodiad sy'n cadarnhau—
(i)y dylid gohirio archwilio'r cynnyrch at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio hyd nes y bydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yng Nghymru, neu
(ii)y dylai'r archwiliad hwnnw ddigwydd pan fydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddeddfwriaeth sydd mewn grym yno ynghylch cynhyrchion a fewnforir; ac
(ch)person sy'n mewnforio'r cynnyrch yn rhoi i'r swyddog awdurdodedig hwnnw ymrwymiad ysgrifenedig o ran y materion a bennir ym mharagraff (2),
daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru, yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd yno.
(2) Rhaid i'r ymgymeriad—
(a)datgan cyrchfan y cynnyrch; a
(b)cadarnhau—
(i)bod y cynhwysydd sy'n cynnwys y cynnyrch wedi'i selio ac na fydd yn cael ei agor nes iddo gyrraedd y gyrchfan,
(ii)bod agor y cynhwysydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru neu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru os nad yw'r gyrchfan yng Nghymru, a
(iii)y bydd y cynhwysydd ar gael yn y gyrchfan honno i'w archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio neu, yn ôl fel y digwydd, deddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig.
(3) Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dyroddi awdurdodiad yn unol â pharagraff (1)(c), rhaid iddo—
(a)(os yw cyrchfan y cynnyrch yng Nghymru) hysbysu'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man hwnnw neu (os yw cyrchfan y cynnyrch mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig) hysbysu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru—
(i)nad yw'r cynnyrch (a ddisgrifir yn y fath fodd ag i ganiatáu iddo gael ei adnabod) wedi'i archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio, a
(ii)os yw archwiliad gan yr awdurdod tollau wedi'i ohirio, o'r ffaith honno; a
(b)anfon at yr awdurdod perthnasol gopi o unrhyw ymrwymiad a roddwyd yn unol â pharagraff (1)(ch).
(4) Pan fo cynnyrch wedi'i anfon at gyrchfan yng Nghymru o ran arall o Ynysoedd Prydain a bod archwiliad o'r cynnyrch hwnnw wedi'i ohirio o dan ddeddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yno, daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y gyrchfan yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd Cymru.
(5) Ni chaiff neb dorri ymrwymiad a roddir o dan baragraff 1(ch).
(6) Bydd y darpariaethau ar ohirio gweithredu a gorfodi a nodir yn y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i unrhyw reolaethau swyddogol sy'n digwydd yn unol ag [F10Erthygl 47(1)(d) a (2)(b) ac Erthygl 54(4) o Reoliad 2017/625] .
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn rhl. 27(6) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 22
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 27 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
28.—(1) Gwaherddir y canlynol—
(a)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd anifeiliaid penodedig sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid;
F11(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd penodedig sy'n methu â chydymffurfio—
(i)â gofynion diogelwch bwyd; neu
(ii)â gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004; ac
F12(ch). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “bwyd anifeiliaid penodedig” yw bwyd anifeiliaid sy'n gynnyrch; a
(b)ystyr “bwyd penodedig” yw bwyd sy'n gynnyrch.
Diwygiadau Testunol
F11Rhl. 28(1)(b) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 10(10)
F12Rhl. 28(1)(ch) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 10(10)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 28 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
29.—(1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru ganiatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi gyflawni gwiriadau mewn perthynas â'r cynnyrch yn unol ag [F13Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) [F14, 45(1), (2) a (4), a 49(1)] o Reoliad 2017/625] .
(2) Pan fo swyddog awdurdodedig yn cyflawni gwiriadau mewn perthynas â chynnyrch yn unol ag [F13Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a [F14, 45(1), (2) a (4), a 49(1)] o Reoliad 2017/625] , rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cynnyrch ddarparu'r cyfleusterau a'r cymorth y mae ar y swyddog awdurdodedig angen rhesymol amdanynt er mwyn eu cyflawni.
(3) Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn cyflawni gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol ar gynnyrch yn unol ag [F13Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a [F14, 45(1), (2) a (4), a 49(1)] o Reoliad 2017/625] , bydd gan y swyddog hawl i'w gwneud yn ofynnol bod y gwiriad yn digwydd mewn man penodedig.
Diwygiadau Testunol
F13Geiriau yn rhl. 29 wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 23
F14Geiriau yn rhl. 29 wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1487), rhlau. 1(2), 3(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 29 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
30.—(1) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod safle rheoli ar y ffin wedi peidio â chydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn Erthygl 64 o Reoliad 2017/625 a Rheoliad 2019/1014 caiff dynnu dynodiad y safle rheoli ar y ffin yn ôl ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.
(2) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod yr amodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 63(1) o Reoliad 2017/625 yn gymwys caiff atal dynodiad y safle rheoli ar y ffin ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin ac os oes risg ddifrifol i iechyd pobl neu i iechyd anifeiliaid bydd atal y dynodiad yn cael effaith ar unwaith.
(3) Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (2), mae’r safle rheoli ar y ffin yn peidio â bod yn safle rheoli ar y ffin dynodedig i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad hwnnw hyd nes y caiff yr ataliad ei ddiddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw a gyflwynir gan yr Asiantaeth i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.
(4) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni ei bod yn rhesymol tynnu’r dynodiad yn ôl neu ei atal am resymau heblaw’r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) caiff wneud hynny ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.]
Diwygiadau Testunol
F15Rhl. 30 wedi ei amnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 24
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 30 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
31.—(1) Mae gan awdurdod gorfodi bŵer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan [F16Erthyglau 46, 65 i 69, 71, a 72 o Reoliad 2017/625] os bydd yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr Erthyglau hynny wedi'u bodloni.
[F17(2) Mae’r mesurau a gymerir gan yr awdurdod gorfodi o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn unol â pharagraff (1) i’w cymryd ar draul y gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.]
Diwygiadau Testunol
F16Geiriau yn rhl. 31(1) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 25(a)
F17Rhl. 31(2) wedi ei amnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 25(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 31 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
32.—(1) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd yng nghadw yn swyddogol o dan Erthygl 65, 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.
(2) Cyn rhoi gorchymyn i’r gweithredydd i weithredu yn unol ag Erthygl 66(3)(a), (b) neu (c), rhaid i’r swyddog gorfodi wrando ar y gweithredydd hwnnw fel y darperir ym mhedwerydd is-baragraff Erthygl 66(3) o Reoliad 2017/625 oni bai bod angen gweithredu ar unwaith.
(3) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd unrhyw rai o’r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 mewn cysylltiad â llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.]
Diwygiadau Testunol
F18Rhl. 32 wedi ei amnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 26
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 32 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
33.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 32 apelio i lys ynadon.
(2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achosion.
(3) Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.
(4) Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi ei effaith i ddyfarniad y llys.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 33 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
34. Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 33(1) apelio i Lys y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 34 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
F1935. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F19Rhl. 35 wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 10(11) (ynghyd â rhl. 16)
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 35 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
36.—(1) Mae’r costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd y mesurau y mae’r gweithredydd yn atebol amdanynt o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.
(2) Mae’r costau rheolaethau swyddogol a gweithgareddau eraill y cyfeirir atynt yn [F21Erthygl 79(2)(a) ac] Erthygl 80 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.]
Diwygiadau Testunol
F20Rhl. 36 wedi ei amnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 27
F21Geiriau yn rhl. 36(2) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1487), rhlau. 1(2), 3(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 36 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
37. Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, at ddibenion gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio gan yr awdurdod hwnnw—
(a)prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;
(b)cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd—
(i)y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad neu ei fod wedi'i roi ar y farchnad, i'w fwyta gan bobl, neu
(ii)y mae'r swyddog yn dod o hyd iddo ar unrhyw fangre neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan reoliad 39 neu odano;
(c)cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar unrhyw fangre o'r fath neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac
(ch)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gallai fod angen amdani neu amdano fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 37 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
38.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 37—
(a)ei chyflwyno i gael ei dadansoddi gan ddadansoddydd cyhoeddus, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi;
(b)ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio.
(2) Caiff person, heblaw swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—
(a)i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal lle cafodd y bwyd neu'r sylwedd ei brynu; neu
(b)i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.
(3) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.
(4) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl fel y digwydd, anfon y sampl at unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.
(5) Rhaid i ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—
(a)os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a
(b)os yw'r samplawedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd,
caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.
(6) Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno ganddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.
(7) Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.
(8) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Darpariaethau Mewnforio, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—
(a)dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu
(b)dogfen a ddarparwyd i'r parti hwnnw gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,
yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw i fod yn dyst.
(9) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddadansoddydd cyhoeddus ar gyfer ardal benodedig, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus wedi'u penodi ar gyfer yr ardal honno, fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.
(10) Mae'r Rheoliadau [F22Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] (2) yn gymwys i sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd o dan reoliad 37 fel petai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.
(11) Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau [F22Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] .
Diwygiadau Testunol
F22Geiriau yn rhl. 38(10)(11) wedi eu hamnewid (C.) (6.4.2013) gan Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/479), rhlau. 1, 11(b) (ynghyd ag ergl. 3, Atod. 1)
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 38 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
39.—(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—
(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio o ran bwyd yn cael neu wedi cael ei thorri ar y fangre;
(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed o fewn ardal yr awdurdod neu y tu allan iddi, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno; ac
(c)i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,
ond ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n unig fel tŷ annedd preifat oni bai bod hysbysiad am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd 2 awr ymlaen llaw.
(2) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) a naill ai—
(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu
(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd ei angen.
(3) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.
(4) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—
(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd perthynol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a
(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi iddo unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.
(6) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (5)—
(a)cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae ganddo reswm dros gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio; a
(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.
(7) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.
(8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi neb, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i fynd i mewn i unrhyw fangre—
(a)lle cedwir anifail neu aderyn y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo wedi effeithio arno; a
(b)sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath o dan y Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 39 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
40.—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith; neu
(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—
(a)yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu
(b)yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,
yn euog o dramgwydd.
(3) Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu ei argyhuddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 40 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
41.—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
(a)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r darpariaethau [F23mewnforio] penodedig neu yn methu â chydymffurfio â hwy;
(b)yn mynd yn groes i baragraff (3) o reoliad 26, paragraff (5) o reoliad 27 F24... neu yn methu â chydymffurfio â hwy;
(c)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r gwaharddiadau ym mharagraff (1) o reoliad 28;
(ch)i'r graddau na fydd mynd yn groes i reoliad 29 neu fethu â chydymffurfio ag ef yn dramgwydd o dan reoliad 40, yn mynd yn groes i reoliad 29 neu'n methu â chydymffurfio ag ef; neu
(d)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir iddo o dan y Darpariaethau Mewnforio,
[F25(e)yn mynd yn groes i ddarpariaethau unrhyw offeryn a wneir o dan Erthygl 53 o Reoliad 178/2002 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.]
yn euog o dramgwydd.
[F26(1A) Bydd unrhyw berson sy’n mewnforio i Gymru neu’n rhoi ar y farchnad unrhyw egin neu hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer egino nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion ardystio [F27Erthygl 13 o Reoliad 2019/625, i’r graddau y mae’n ymwneud â egin a hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin, fel y’i darllenir gydag Erthygl 27 o Reoliad 2019/628] yn euog o dramgwydd.]
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.
(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 0 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
Diwygiadau Testunol
F23Gair yn rhl. 41(1)(a) wedi ei fewnosod (C.) (23.11.2010) gan Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652), rhlau. 1, 16(4)
F24Geiriau yn rhl. 41(1)(b) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 10(12)(a)
F25Rhl. 41(1)(f) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 10(12)(b)
F26Rhl. 41(1A) wedi ei fewnosod (C.) (31.12.2013) gan Rheoliadau Diogelwch Bwyd, Hylendid Bwyd a Rheolaethau Swyddogol (Hadau Egino) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/3007), rhlau. 1(2), 4(3)
F27Geiriau yn rhl. 41(1A) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1487), rhlau. 1(2), 3(6)
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 41 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
42. Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn sy'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan reoliad 1(2), ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 42 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
42A. Rhaid i ffioedd neu daliadau a osodir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625 gael eu talu gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod cymwys.]
Diwygiadau Testunol
F28Rhl. 42A wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1487), rhlau. 1(2), 3(7)
OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.29, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/68/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
O.S. 1990/2463, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys