Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/11/2014.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, Adran 38.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
38.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 37—
(a)ei chyflwyno i gael ei dadansoddi gan ddadansoddydd cyhoeddus, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi;
(b)ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio.
(2) Caiff person, heblaw swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—
(a)i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal lle cafodd y bwyd neu'r sylwedd ei brynu; neu
(b)i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.
(3) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.
(4) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl fel y digwydd, anfon y sampl at unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.
(5) Rhaid i ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—
(a)os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a
(b)os yw'r samplawedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd,
caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.
(6) Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno ganddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.
(7) Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.
(8) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Darpariaethau Mewnforio, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—
(a)dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu
(b)dogfen a ddarparwyd i'r parti hwnnw gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,
yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw i fod yn dyst.
(9) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddadansoddydd cyhoeddus ar gyfer ardal benodedig, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus wedi'u penodi ar gyfer yr ardal honno, fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.
(10) Mae'r Rheoliadau [F1Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] (1) yn gymwys i sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd o dan reoliad 37 fel petai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.
(11) Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau [F1Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 38(10)(11) wedi eu hamnewid (C.) (6.4.2013) gan Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/479), rhlau. 1, 11(b) (ynghyd ag ergl. 3, Atod. 1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 38 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
O.S. 1990/2463, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys