Tramgwyddau a chosbauLL+C
41.—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
(a)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r darpariaethau [F1mewnforio] penodedig neu yn methu â chydymffurfio â hwy;
(b)yn mynd yn groes i baragraff (3) o reoliad 26, paragraff (5) o reoliad 27 neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 35 neu yn methu â chydymffurfio â hwy;
(c)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r gwaharddiadau ym mharagraff (1) o reoliad 28;
(ch)i'r graddau na fydd mynd yn groes i reoliad 29 neu fethu â chydymffurfio ag ef yn dramgwydd o dan reoliad 40, yn mynd yn groes i reoliad 29 neu'n methu â chydymffurfio ag ef; neu
(d)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir iddo o dan y Darpariaethau Mewnforio,
yn euog o dramgwydd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.
(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 0 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 41(1)(a) wedi ei fewnosod (C.) (23.11.2010) gan Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652), rhlau. 1, 16(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 41 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1