Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Rheoliadau 22 a 41(1)(a)

[F1ATODLEN 6LL+CDARPARIAETHAU MEWNFORIO PENODEDIG

Colofn 1Colofn 2
Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UE Y cynnwys
Erthygl 69(1) o Reoliad 2017/625Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i gyflawni’r holl fesurau y mae’r awdurdodau cymwys yn eu gorchymyn.
Erthygl 1 o Reoliad 2019/1013Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi hysbysiad ymlaen llaw i’r awdurdod cymwys ynghylch y safle rheoli ar y ffin, o leiaf un diwrnod gwaith cyn y disgwylir i’r llwyth gyrraedd.
Erthygl 3 o Reoliad 2019/1602Gofyniad bod Dogfen Fynediad Iechyd Gyffredin (DFIG) i fynd gyda phob llwyth pa un a gaiff ei hollti yn y safle rheoli ar y ffin neu ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin ai peidio.
Erthygl 4(a) o Reoliad 2019/1602Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda’r llwyth i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 4(b) o Reoliad 2019/1602Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(1)(a) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth hysbysu ymlaen llaw, i ddatgan mai’r safle rheoli ar y ffin yw’r gyrchfan yn y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan.
Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i ofyn am i’r llwyth gael ei hollti, a’i fod i gyflwyno, drwy’r [F2system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol], DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 5(1)(d) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn mynd gyda’r rhan berthnasol i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 5(1)(e) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(2)(a) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth nad yw’n cydymffurfio i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i gyflwyno DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 6(a) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda phob rhan o’r llwyth a holltwyd hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 6(b) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 3(1) o Reoliad 2019/1666Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi gwybod i’r awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am gyflawni’r rheolaethau swyddogol yn y sefydliad yn y gyrchfan, fod y llwyth wedi cyrraedd, a hynny o fewn un diwrnod i’r adeg y mae’r llwyth yn cyrraedd.
Erthygl 6(1) o Reoliad 2019/2123Ar ôl i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin awdurdodi trosglwyddo’r llwyth i’r pwynt rheoli a nodir yn y DFIG, neu benderfynu gwneud hynny, gofyniad na chaiff y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gyflwyno’r llwyth ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol i bwynt rheoli gwahanol i’r un a nodir yn y DFIG, oni bai bod awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn awdurdodi trosglwyddo’r llwyth i bwynt rheoli arall yn unol â phwynt (a) o Erthygl 3(1) a phwynt (a) o Erthygl 4(2).
Erthygl 6(4) o Reoliad 2019/2123Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth nodi rhif cyfeirnod y DFIG a gwblhawyd y cyfeirir ati yn Erthygl 6(3) yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG honno at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 6(1) of Reoliad 2019/2124Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwythi a awdurdodir ar gyfer eu cludo ymlaen yn unol ag Erthygl 4 yn sicrhau: (a) yn ystod ei gludo i’r cyfleuster cludo ymlaen, a’i storio yn y cyfleuster hwnnw, nad ymyrrir â’r llwyth mewn unrhyw fodd; (b) nad yw’r llwyth yn ddarostyngedig i unrhyw addasu, prosesu, amnewid neu newid deunydd pecynnu; (c) nad yw’r llwyth yn gadael y cyfleuster cludo ymlaen hyd nes y bydd awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn gwneud y penderfyniad ynghylch y llwyth yn unol ag Erthygl 55 o Reoliad 2017/625.
Erthygl 6(2) o Reoliad 2019/2124Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gludo’r llwyth o dan oruchwyliaeth tollau yn uniongyrchol o’r safle rheoli ar y ffin i’r cyfleuster cludo ymlaen, heb ddadlwytho’r nwyddau yn ystod eu cludo, a rhaid iddo storio’r llwyth yn y cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(4) o Reoliad 2019/2124Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth sicrhau bod copi, ar bapur neu ar ffurf electronig, o’r DFIG y cyfeirir ati yn Erthygl 3 yn mynd gyda’r llwyth o’r safle rheoli ar y ffin i’r cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(5) o Reoliad 2019/2124Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth yn hysbysu’r awdurdodau cymwys yn y cyrchfan derfynol bod y llwyth wedi cyrraedd y cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(6) o Reoliad 2019/2124Ar ôl i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin awdurdodi ei gludo ymlaen i’r cyfleuster cludo ymlaen, gofyniad na chaiff y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth ei gludo ymlaen i gyfleuster cludo ymlaen gwahanol i’r un a nodir yn y DFIG, oni bai bod awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn awdurdodi’r newid yn unol ag Erthygl 4 ac ar yr amod y cydymffurfir â’r amodau a nodir ym mharagraffau 1 i 5 o Erthygl 6.]