xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4. Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw at ddiben y marcio iechyd sy'n ofynnol gan Erthygl 5.1(a) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid(1) nac unrhyw farcio arall sy'n ofynnol ar unrhyw gynnyrch cig, ac eithrio'r lliwiau a ganiateir canlynol—
(a)E155 Brown HT;
(b)E133 Brilliant Blue FCF;
(c)E129 Allura Red AC; neu
(ch)cymysgedd priodol o (b) ac (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 20.1.2010, gweler rhl. 1
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 bellach wedi ei gynnwys mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22) y dylid ei ddarllen ar y cyd â Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.2 ). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1020/2008 sy'n diwygio Atodiadau II a III i Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid a Rheoliad (EC) Rhif 207 /2005 ynglŷn â marcio ar gyfer adnabod, llaeth amrwd a chynhyrchion llaeth, wyau a chynhyrchion wyau, a chynhyrchion pysgodfeydd penodol (OJ Rhif L277, 18.10.2008, t.8).