
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Part
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
RHAN 1Darpariaethau'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sy'n dod i rym ar 6 Mawrth 2009
Y Ddarpariaeth | Y Pwnc |
---|
Adran 1 (1), (2), (3) a (4)(a) i (i) | Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn |
Adran 2 | Dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr |
Adran 5 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 2 | Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr |
Adran 6 | Pwer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyr |
Adran 10 | Hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg |
Adran 11 | Dulliau teithio cynaliadwy |
Adran 15 | Canllawiau a chyfarwyddiadau |
Adran 16 | Gwybodaeth am drefniadau teithio |
Adran 17(1) a (2) | Cydweithredu: gwybodaeth a chymorth arall |
Adran 19 | Penderfynu ar breswylfa arferol mewn achosion penodol |
Adran 21 | Diwygiadau i Ddeddf Addysg 2002 |
Adran 23 | Diwygiadau i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 |
Adran 24 | Dehongli cyffredinol |
Adran 25 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 26 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod | Diddymiadau |
Atodlen 1, paragraff 2(2)(c) i'r graddau y mae'n mewnosod paragraff (e) newydd o is-adran (1B) o adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, paragraff 2(3) ac eithrio i'r graddau y mae'n rhoi i mewn gyfeiriad at baragraff (d) o is-adran (1B) o adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, paragraff 4(1) i (4) | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Yn Atodlen 2 diddymiad—
Deddf Addysg 1996, yn adran 509AA, yn is-adran (2)(d) y geiriau “or the National Assembly for Wales”, is-adran (9A), ac yn is-adran (10) y geiriau “(in relation to local education authorities in England) or the National Assembly for Wales (in relation to local education authorities in Wales)”;
yn adran 509AB, is-adran (4), yn is-adran (6)(c) y geiriau “(in the case of a local education authority in England)”, yn is-adran (6)(d) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair hwnnw'n ymddangos;yn adran 509AC, is-adran (3), yn is-adran (6) y geiriau ar ôl “subsection (5)” i ddiwedd yr is-adran, is-adran (7).
Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006, adran 83, is-adran (1), yn is-adran (2) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair yn ymddangos, ac is-adran (3);
Atodlen 10, paragraff 5(b).
| Diddymiadau |
Yn ôl i’r brig