Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2009

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 47 (Cy.15)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

15 Ionawr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Ionawr 2009

Yn dod i rym

9 Chwefror 2009

Mae'r Rheoliadau hyn a'r rheoliadau y maent yn eu diwygio yn gwneud darpariaeth ar gyfer bwriad a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau, yn y rheoliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu diwygio, at Gyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002(2) sy'n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb honno fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â chamau'n ymwneud ag asesu, trafod a rheoli swn amgylcheddol(3). Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1O ran y Rheoliadau hyn—

(a)eu henw yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2009;

(b)deuant i rym ar 9 Chwefror 2009; ac

(c)maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006

2.  Diwygir Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006(4) fel a ganlyn.

3.—(1Diwygir rheoliad 2(2) (dehongli) fel a ganlyn:

(2Yn y lle priodol yn y diffiniadau, mewnosoder “ystyr “map sŵn cyfunol” (“consolidated noise map”) yw map sŵn a lunnir yn unol â rheoliad 15(4);”;

(3Yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, ar ôl “25 Mehefin 2002” ac o flaen “sy'n ymwneud ag asesu a rheoli” mewnosoder “ac fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;”;

(4Yn y fersiwn Saesneg yn unig, yn lle “major airport” (“prif faes awyr”) rusuant to regulation 3” rhodder “major airport” (“prif faes awyr”) pursuant to regulation 3;”.

4.—(1Diwygir rheoliad 3 (nodi ffynonellau sŵn) fel a ganlyn:

(2Ym mharagraff (2) yn lle “Rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011, yr holl” rhodder “Heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011, rhaid i'r Cynulliad gyhoeddi mapiau'n nodi'r holl”;

(3Ym mharagraff (4) yn lle “rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau” rhodder “rhaid i'r Cynulliad gyhoeddi mapiau'n nodi'r holl”.

(4Ym mharagraff (3) yn lle “rheoliadau diweddaraf a gynhyrchir” rhodder “mapiau diweddaraf a gyhoeddir”.

5.  Yn lle rheoliad 13 (nodi ardaloedd tawel), rhodder—

(1) Rhaid i ardaloedd tawel mewn crynodrefi cylch cyntaf gael eu nodi yn y cynlluniau gweithredu a lunnir o dan reoliad 17(1)(c).

(2) Rhaid i ardaloedd tawel mewn crynodrefi gael eu nodi yn y cynlluniau gweithredu a lunnir o dan reoliad 17(2)(c).

6.—(1Diwygir rheoliad 15 (cynlluniau gweithredu: gofynion cyffredinol) fel a ganlyn:

(2Yn lle paragraff (1)(ch) rhodder “nodi ac ystyried blaenoriaethau gan roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 30(1)”.

(3Yn lle paragraff (4), rhodder—

  • Caiff Gweinidogion Cymru lunio mapiau sŵn cyfunol mewn cysylltiad ag unrhyw ardal a geir mewn unrhyw fapiau sŵn strategol—

    (a)

    sy'n cael eu gwneud neu eu hadolygu yn unol â rheoliad 7, 11 neu 12 a'u mabwysiadu yn unol â rheoliad 23, a

    (b)

    sy'n ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y rhoddir ystyriaeth iddi yn y cynllun gweithredu.

7.  Yn lle rheoliad 30(canllawiau), rhodder—

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdod cymwys mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Rhaid i awdurdod cymwys, wrth iddo arfer unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 1..

Dirymu

8.  Dirymir rheoliad 14 o Reoliadau Swn Amgylcheddol (Cymru) 2006.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

15 Ionawr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Swn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629).

Mae rheoliad 3(2) yn mewnosod diffiniad o “map sŵn cyfunol” yn y rhestr o eiriau a thermau a ddefnyddir yn Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”). Mae rheoliad 3(3) yn diwygio'r diffiniad o “Cyfarwyddeb” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2006 fel y bydd cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb yn Rheoliadau 2006 i'w dehongli fel cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd yn unol â'r pŵer a gynhwysir ym mharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae rheoliad 3(4) yn gwneud mân gywiriad i'r diffiniad o “prif faes awyr” yn rheoliad 2.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2006 fel bod y ffynonellau sŵn a restrir yn rheoliad 3 yn cael eu nodi o 2011 ymlaen drwy gyhoeddi mapiau.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 2006 fel y bydd yn ofynnol i ardaloedd tawel yn y crynodrefi cylch cyntaf a'r crynodrefi gael eu nodi yn y cynlluniau gweithredu ar gyfer y crynodrefi hynny.

Mae rheoliad 6(1) yn diwygio rheoliad 15(1)(ch) o Reoliadau 2006 fel y bydd yn rhaid i'r cynlluniau gweithredu a lunnir o dan Ran 4 o'r Rheoliadau nodi ac ystyried blaenoriaethau o ran canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 30(1). Mae rheoliad 6(2) yn diwygio rheoliad 15(4) o Reoliadau 2006 drwy wneud darpariaeth sy'n rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i wneud mapiau swn cyfunol.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 30 o Reoliadau 2006 drwy wneud darpariaeth sy'n rhoi i Weinidogion Cymru bŵer diwygiedig i ddyroddi canllawiau i awdurdodau cymwys, a thrwy osod dyletswydd ar awdurdodau cymwys i roi sylw i'r canllawiau hynny.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ar gael gan Y Gangen Ymbelydredd ac Atal Llygredd, Ynni a Diwydiant Cynaliadwy Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei atodi i'r Memorandwm Esboniadol sydd ar gael ochr yn ochr â'r offeryn ar wefan OPSI.

(2)

O.J. Rhif L 189, 18.07.2002, t.12.