Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 5

ATODLEN 2Y MEINI PRAWF CYMHWYSTRA AR GYFER AELODAU AC AELODAU CYSWLLT

RHAN 1Gofynion cyffredinol

1.—(1Mae Rhan 1 o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra aelodau ac aelodau cyswllt i gael eu penodi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt os yw —

(a)yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi'i gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw wedi'i hatal ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;

(b)yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim i gyfyngu methdaliad neu wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr;

(c)wedi'i ddiswyddo, ac eithrio oherwydd anghyflogaeth, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd;

(ch)os yw ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd, wedi'i therfynu am reswm ac eithrio anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi wedi dod i ben;

(3At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y bydd y cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais, neu'r dyddiad y rhoddir y gorau i'r naill neu'r llall ohonynt, neu'r dyddiad y mae'r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu'r dyddiad y mae'r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.

(4At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod yn aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.

(5Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)( b) —

(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar ddyddiad y diddymiad;

(b)os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar ddyddiad y rhyddhau;

(c)os telir dyledion y person yn llawn ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar y dyddiad y caiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac

(ch)os bydd y person, ar ôl iddo wneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, yn dod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu'r drefniant.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oblegid paragraff (2)(c), caiff, ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra'n dod i ben.

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.

(8Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(ch), bydd yn anghymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad terfynu'r aelodaeth neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan yr awdurdod ac a barodd i'r aelodaeth gael ei therfynu, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan fo cais wedi'i wneud iddynt gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.

RHAN 2Y Gofynion o ran Cymhwystra ar gyfer Cadeiryddion, Is-gadeiryddion ac Aelodau nad ydynt yn Swyddogion

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person yn anghymwys i fod yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog os yw'r person hwnnw yn cael, neu wedi cael yn y flwyddyn flaenorol, ei gyflogi am dâl gan unrhyw un o'r Byrddau Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn.

(a)Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yn Atodlen 2 neu Atodlen 3 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 20009 os yw, neu os oedd, o fewn ardal y Bwrdd;

(b)Ymddiriedolaeth GIG a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diddymu) (Cymru) 2009(1) os yw, neu os oedd, o fewn ardal y Bwrdd;

(c)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre(2); neu

(ch)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru(3).

(2Nid yw person yn anghymwys o dan baragraff (1) os penodir y person hwnnw yn —

(a)aelod undeb llafur yn unol â rheoliad 3(4)(c); neu

(b)aelod prifysgol yn unol â rheoliad 3(4)(ch).

(3At ddibenion paragraff (1), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi'i gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog o Fwrdd Iechyd Lleol neu swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth GIG.

RHAN 3Y Meini Prawf ynghylch Cymhwystra ar gyfer Categorïau Penodol o Aelod

Swyddog meddygol

3.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n swyddog meddygol yn rheoliad 3(2)(b), rhaid i berson fod wedi'i restru yng Nghofrestr Ymarferwyr Cyffredinol y Cyngor Meddygol Cyffredinol(4) neu'r Gofrestr Arbenigwyr(5).

Swyddog nyrsio

4.  I fod yn gymwys i gael ei benodi fel y swyddog nyrsio yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi'i gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(6).

Swyddog iechyd y cyhoedd

5.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n swyddog sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd o dan reoliad 3(2)(e) rhaid i'r person fod wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol uwch mewn iechyd y cyhoedd neu ddisgyblaeth gysylltiedig a bod wedi'i restru yng Nghofrestr Arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Rhestr y Cyngor Deintyddol Cyffredinol o Arbenigwyr mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol(7) neu Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU(8).

Swyddog Therapïau a Gwyddor Iechyd

6.  I fod yn gymwys i gael ei benodi yn aelod a benodir o dan reoliad 3(2)(ff), rhaid i berson gael ei gynnwys yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd(9).

Aelod Awdurdod Lleol

7.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(a), rhaid i'r person fod yn aelod etholedig o awdurdod lleol y mae ei ardal o fewn ardal y Bwrdd.

Aelod Sefydliad Gwirfoddol

8.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(b), rhaid i'r person fod yn gyflogai sefydliad gwirfoddol sy'n weithredu o fewn ardal y Bwrdd neu'n aelod ohono.

Aelod Undeb Llafur

9.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(c), rhaid i'r person fod—

(a)yn berson sy'n cael ei gyflogi gan y Bwrdd; a

(b)yn aelod o undeb llafur sy'n cael ei gydnabod gan y Bwrdd mewn perthynas â materion cyflogi.

(2)

A sefydlwyd gan O.S. 1993/2838.

(3)

A sefydlwyd gan O.S. 1998/678.

(4)

Cedwir y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 10 o Orchymyn Ymarfer Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).

(5)

Cedwir y Gofrestr Arbenigwyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 13 o Orchymyn Ymarfer Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).

(6)

Cedwir cofrestr gan Gyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2002 (O.S. 2002/253).

(7)

Mae'r Rhestr o Arbenigwyr mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol wedi'i rhagnodi gan Reoliadau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (Rhestr Arbenigwyr) 2008 a wneud gan y Cyngor o dan adrannau 26 a 52 o Ddeddf Deintyddol 1984 (p.24).

(8)

Cedwir Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU gan y Public Health Register, cwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr o dan rif gofrestru 4776439.

(9)

Cedwir cofrestr gan Gyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (O.S. 2002/254).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill