Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2009
3. Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym, yn ddarostyngedig i erthygl 4, ar 31 Mawrth 2009—
(a)adrannau 150, 152 a 153;
(b)adran 169(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 1 a bennir isod;
(c)adran 169(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 2 a bennir isod;
(ch)yn Atodlen 1, paragraffau 54, 55, 59(7), 66 a 67, ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny, paragraff 53;
(d)yn Atodlen 2, y diddymiadau i'r graddau y maent yn ymwneud ag adrannau 86 a 94 o DSFfY 1998.