xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 828 (Cy.75)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

31 Mawrth 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Ebrill 2009

Yn dod i rym

22 Ebrill 2009

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freinir bellach ynddynt hwy(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 22 Ebrill 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998

2.  Diwygir Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998(2) yn unol â rheoliadau 3 i 6.

3.  Ar ôl paragraff 2 o'r Atodlen mewnosoder—

2A.  This paragraph applies at any time during the admission school year to any child who is looked after by a local authority (within the meaning of section 22(1) of the Children Act 1989)(3) and is admitted to the school outside the normal admission round.

4.  Ym mharagraff 5 o'r Atodlen—

(1ar ddechrau is-baragraff (1) mewnosoder “Subject to sub-paragraph (3),”; a

(2ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) Where the admission authority for the school in question is not the local authority a child will not be an excepted child under this paragraph unless the local authority has confirmed in writing that it is satisfied the child fulfils the criteria listed in sub-paragraph (1)(a).

5.  Ar ôl paragraff 5 o'r Atodlen mewnosoder—

5A.(1) Subject to sub-paragraph (3), this paragraph applies at any time during the admission school year to a child admitted to the school outside a normal admission round, where education at a school of a particular religious character is desired and the school is the only such school within a reasonable distance of the child’s home.

(2) In this paragraph “a school of a particular religious character” means a school designated as having such a character by an order made under section 69(3) of the 1998 Act(4).

(3) Where the admission authority for the school in question is not the local authority the child will not be an excepted child under this paragraph unless the local authority has confirmed in writing that there are no places available at another school of the particular religious character within a reasonable distance of the child’s home.

5B.(1) This paragraph applies to a child where—

(a)at the time of the child’s admission to the school, the child fell within an age group in which pupils are normally admitted to the school;

(b)the number of pupils in that age group seeking admission to the school in the admission school year was fewer than the number of pupils which it was intended to admit to the school in that age group in that year;

(c)the child was offered a place at the school after the first day of the relevant school year; and

(d)the school has organised its classes for that age group seeking admission to the school in the admission school year and, unless suitable education could be provided for the child in another infant class at that school, the admission of the child would require relevant measures to be taken.

(2) In this paragraph “relevant measures” has the meaning given to that expression in regulation 4 of these Regulations.

6.  Dileer paragraff 6 o'r Atodlen a rhodder y canlynol yn ei le —

6.(1) Subject to sub-paragraph (3), this paragraph applies at any time during the admission school year to a child admitted to the school outside a normal admission round, where education at a school which is Welsh-speaking is desired and the school is the only such school within a reasonable distance of the child’s home.

(2) In this paragraph “a school which is a Welsh-speaking school” has the meaning given to that expression in section 105(7) of the Education Act 2002(5).

(3) Where the admission authority for the school in question is not the local authority the child will not be an excepted child under this paragraph unless the local authority has confirmed in writing that there are no places available at another Welsh-speaking school within a reasonable distance of the child’s home.

7.  Ym mharagraff 9 o'r Atodlen yn lle “3” rhodder “2A”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

31 Mawrth 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998 (“rheoliadau 1998”) a deuant i rym ar 22 Ebrill 2009.

Maent yn gwneud pum diwygiad i'r categorïau o ddisgyblion a eithrir a geir yn yr Atodlen i reoliadau 1998 (“yr Atodlen”).

Maent yn ychwanegu tri chategori newydd.

Maent yn ychwanegu plant sy'n derbyn gofal ac sy'n cael eu derbyn i ysgolion y tu allan i'r cylch derbyn arferol; disgyblion sy'n cael eu derbyn y tu allan i'r cylch derbyn arferol ac sydd yn dymuno cael addysg mewn ysgol ac iddi gymeriad crefyddol penodol; a phlant sy'n cael eu derbyn i'r ysgol, o fewn gr?p oedran arferol derbyn disgyblion ac ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn ysgol berthnasol, os na chyrhaeddwyd eto nifer derbyn yr ysgol ond bod yr ysgol eisoes wedi rhoi trefn ar ei dosbarthiadau ac y byddai derbyn y plentyn yn golygu y byddai'n rhaid i'r ysgol gymryd camau perthnasol.

Os nad yr awdurdod lleol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol, mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol gadarnhau, cyn y gellir ystyried y plentyn yn ddisgybl a eithrir, nad oes lleoedd ar gael mewn ysgol ac iddi gymeriad crefyddol penodol o fewn pellter rhesymol i gartref y plentyn.

Maent yn diwygio paragraff 5 o'r Atodlen fel y bydd yn ofynnol i'r awdurdod lleol, os nad yr awdurdod lleol yw awdurdod derbyn yr ysgol o dan sylw, gadarnhau, cyn y gellir ystyried y plentyn yn ddisgybl a eithrir, nad oes lleoedd ar gael mewn ysgol addas o fewn pellter rhesymol i gartref y plentyn.

Rhoddir paragraff newydd yn lle paragraff 6 o'r Atodlen ac mae'r eithriad a gafwyd yn wreiddiol ym mharagraff 6 (plant a gaiff eu derbyn i'r ysgol yn y flwyddyn dderbyn arferol ac sydd yn dymuno cael addysg mewn ysgol sy'n ysgol Gymraeg ac os yr ysgol o dan sylw yw'r unig ysgol o'i bath o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi) yn gymwys bellach i blant a gaiff eu derbyn y tu allan i'r cylch derbyn arferol.

Os nad yr awdurdod lleol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol, mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol gadarnhau, cyn y gellir ystyried y plentyn yn ddisgybl a eithrir, nad oes lleoedd ar gael mewn ysgol Gymraeg o fewn pellter rhesymol i gartref y plentyn.

(1)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).