RHAN 2LL+CAtal difrod amgylcheddol
Atal difrod amgylcheddolLL+C
13.—(1) Rhaid i weithredwr gweithgaredd sy'n peri bod bygythiad agos o ddifrod amgylcheddol, neu fygythiad agos o ddifrod y mae seiliau rhesymol dros gredu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod amgylcheddol, wneud y canlynol ar unwaith—
(a)cymryd pob cam ymarferol i atal y difrod; a
(b)(onid yw'r bygythiad wedi'i ddileu) hysbysu'r awdurdod gorfodi y mae'n ymddangos mai hwnnw yw'r un priodol o'r holl fanylion perthnasol.
(2) Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr hwnnw sydd—
(a)yn disgrifio'r bygythiad;
(b)yn pennu'r mesurau sy'n ofynnol i atal y difrod; ac
(c)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd y mesurau hynny, neu'r mesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Mae methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) yn dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 13 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Atal difrod amgylcheddol pellachLL+C
14.—(1) Rhaid i weithredwr gweithgaredd sydd wedi achosi difrod amgylcheddol, neu sydd wedi achosi difrod pan fo seiliau rhesymol dros gredu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol neu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod o'r fath, wneud y canlynol ar unwaith—
(a)cymryd pob cam ymarferol i atal difrod pellach; a
(b)hysbysu'r awdurdod gorfodi, y mae'n ymddangos mai hwnnw yw'r un priodol, o'r holl fanylion perthnasol.
(2) Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr hwnnw sydd—
(a)yn disgrifio'r difrod;
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr ddarparu gwybodaeth ychwanegol am unrhyw ddifrod sydd wedi digwydd;
(c)yn pennu'r mesurau sy'n ofynnol i atal difrod pellach; ac
(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd y mesurau hynny, neu fesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Mae methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) yn dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 14 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Camau gan yr awdurdod gorfodiLL+C
15. Caniateir i unrhyw ddyletswydd yn y Rhan hon sydd ar weithredwr gweithgaredd gael ei chyflawni gan yr awdurdod gorfodi yn lle'r gweithredwr—
(a)mewn argyfwng;
(b)os nad oes modd darganfod pwy yw'r gweithredwr; neu
(c)os yw'r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 15 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Dilyn cyfarwyddiadau gan awdurdod cyhoeddusLL+C
16. Pan fo gweithredwr yn gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau awdurdod cyhoeddus, ac o ganlyniad yn achosi neu'n bygwth achosi difrod amgylcheddol, ac felly bod camau yn cael eu cymryd o dan reoliadau 13, 14 neu 15 yna, oni bai bod y cyfarwyddiadau yn ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun, caiff y gweithredwr adennill costau gweithredoedd o dan y rheoliadau hynny oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 16 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)