xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Erthygl 2
1.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994(1) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a)hepgorer y diffiniad o “local authority”;
(b)yn y diffiniad o “non-maintained special school” yn lle “local education authority” rhodder “local authority”;
(c)yn lle'r diffiniad o “relevant local education authority” rhodder—
““relevant local authority” in relation to a child with a statement means the local authority by whom the statement is maintained;”.
(3) Yn Atodlen 1—
(a)yn lle paragraff 5(2) rhodder—
“(2) Before any decision is taken as to whether a child is to be excluded the proprietor or head teacher shall, unless it would not be appropriate to do so in any case, give written notice to—
(a)his parents;
(b)the local authority in whose areas the school is situated; and
(c)(if different) the local authority who have arranged for the placing of the child,
stating the grounds for the proposed exclusion, and shall take into account any representation made by them.”;
(b)ym mharagraffau 8 a 10(1) yn lle “local education authority” rhodder “local authority”.
(4) Yn Atodlen 2—
(a)ym mharagraff 6 yn lle “the local education authority in whose area the school is situated, any local education authority or, as the case may be, local authority who have arranged the placing of a child at the school and the local authority in whose area the school is situated” rhodder “the local authority in whose area the school is situated and any other local authority who have arranged the placing of a child at the school”;
(b)yn y pennawd i baragraff 8 yn lle “local education authorities” rhodder “local authorities”;
(c)ym mharagraffau 8(1) a (5), 9(1) a 10(1)(b) a (3)(b) yn lle “local education authority” rhodder “local authority”;
(ch)ym mharagraff 11(1) hepgorer “local education authority or”;
(d)ym mharagraff 11(2) yn lle “a local authority or the relevant local education authority” rhodder “the local authority in whose area the school is situated and (if different) the relevant local authority”; ac
(dd)ym mharagraff 12(3) hepgorer “local education authority or, as the case may be”.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gorchymyn Presenoldeb yn yr Ysgol) 1995(2) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(3) yn lle “local education authority” rhodder “local authority”.
(3) Yn yr Atodlen hepgorer “Local Education Authority” ac “Education Authority”.
3. Yn rheoliad 3 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997(4), ym mharagraff (c) o'r diffiniad o “school travel expenditure” yn lle “local education authority” rhodder “local authority in the exercise of education functions (within the meaning of the Education Act 1996)”.
4.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998(5) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a)hepgorer y diffiniad o “LEA”;
(b)yn y diffiniadau o “child with a statement” a “statement” yn lle “an LEA” rhodder “a local authority”.
5.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001(6) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7 yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
(3) Yn lle rheoliad 10(2)(c) rhodder—
“(c)peidio â bod yn aelod etholedig o awdurdod lleol sy'n cynnal unrhyw ysgol yn y grŵp nac yn berson a gyflogir gan awdurdod o'r fath mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg”.
(4) Yn rheoliadau 21(9), 22(5) a 24(1)(ch) ac ym mharagraff 7(6) o Atodlen 2, yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
6.—(1) Diwygir Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001(7) fel a ganlyn.
(2) Yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
(3) Yn rheoliad 15A yn lle “llywodraethwr AALl” rhodder “llywodraethwr awdurdod”.
(4) Yn Atodlen 1 yn lle “local education authority” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “local authority” ac yn lle “local education authorities” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “local authorities”.
7.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002(8) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn y diffiniad o “awdurdod” yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”;
(b)hepgorer y diffiniad o “Rhif AALl”; ac
(c)mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—
“ystyr “Rhif awdurdod” yw'r Rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r awdurdod gan Weinidogion Cymru;”.
(3) Yn rheoliad 4(6)(c) yn lle “Rhif AALl” rhodder “Rhif awdurdod”.
(4) Yn Atodlen 1—
(a)yn Nhabl 1 yn lle “Enw AALl” rhodder “Enw'r Awdurdod Lleol” ac yn lle “Cod AALl” rhodder “Cod yr Awdurdod Lleol”;
(b)yn y Nodiadau i Ran 1 ym mharagraffau 1, 5(b) a 15 yn lle “AALl” rhodder “awdurdod lleol”.
(5) Yn Atodlen 2 yn Nhabl 2 yn lle “AALl” rhodder “Awdurdod Lleol” ac yn lle “Rhif AALl” rhodder “Rhif Awdurdod”.
8.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002(9) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn lle'r diffiniad o “awdurdod” rhodder—
“ystyr “awdurdod” yw awdurdod lleol;”;
(ii)hepgorer y diffiniad o “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”; a
(iii)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—
“ystyr “gweithiwr cymdeithasol” yw person a gyflogir neu a gymerwyd ymlaen gan yr awdurdod fel gweithiwr cymdeithasol;”; a
(b)ym mharagraff (3) hepgorer y geiriau “neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” a “neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”.
(3) Yn rheoliad 6 —
(a)ym mharagraff (2) hepgorer is-baragraff (a); a
(b)ym mharagraff (4) ac ym mharagraff (5) yn lle “ym mharagraff (2)(a) i (ch)” rhodder “ym mharagraff (2)(b) i (ch)”.
(4) Yn rheoliad 7(1) yn lle is-baragraff (d) rhodder–
“(d)cyngor gan weithiwr cymdeithasol,”.
(5) Yn rheoliad 12—
(a)ym mharagraff (7)(d) hepgorer y geiriau “neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”, “neu (d) yn y drefn honno” a “neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”;
(b)ar ôl paragraff (7)(f) mewnosoder—
“(ff)am nad yw'r awdurdod wedi llunio neu gynnal unrhyw wybodaeth neu gofnodion gwasanaethau cymdeithasol sy'n berthnasol i asesiad y plentyn cyn y dyddiad pan gyflwynodd neu pan roddodd yr hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1), 6(4) neu 6(5) (fel y bo'n briodol).
(7A) Ym mharagraff (7)(ff) ystyr “gwybodaeth neu gofnodion gwasanaethau cymdeithasol” yw gwybodaeth neu gofnodion a luniwyd neu a gynhaliwyd gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (o fewn ystyr Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(10)).”;
(c)ym mharagraff (8) rhodder “a (10)” yn lle “, (10) ac (11)” a hepgorer “neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”, “neu (d) yn y drefn honno” a “neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”;
(ch)ym mharagraff (9)—
(i)hepgorer “neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”; a
(ii)yn is-baragraff (c) hepgorer “neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yn y drefn honno”;
(d)hepgorer paragraff (11).
(6) Yn rheoliad 18(6)—
(a)hepgorer “a'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”; a
(b)yn is-baragraff (a)(i) hepgorer “neu'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”.
(7) Yn rheoliad 21(6)—
(a)yn lle is-baragraff (c) rhodder—
“(c)dau gynrychiolydd o'r awdurdod y mae un ohonynt i fod yn berson a gyflogir neu a gymerwyd ymlaen gan yr awdurdod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg ac mae'r llall i fod yn weithiwr cymdeithasol,”; a
(b)hepgorer is-baragraff (e).
(8) Yn rheoliad 22 —
(a)ym mharagraff (3)(b) yn lle “cynrychiolydd o'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” rhodder “gweithiwr cymdeithasol”; a
(b)ym mharagraff (5) ar ôl “yr awdurdod” mewnosoder “sy'n berson a gyflogir neu a gymerwyd ymlaen gan yr awdurdod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg”.
(9) Yn rheoliad 23(7) ac (8) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
(10) Yn rheoliad 24(1)(e) yn lle “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” rhodder “awdurdod lleol”.
(11) Yn Rhan A a Rhan B o Atodlen 1 yn lle “ysgol sy'n cael ei chynnal (ysgol awdurdod addysg lleol), gan gynnwys ysgol arbennig sy'n cael ei chynnal gan yr awdurdod,” rhodder “ysgol a gynhelir (gan awdurdod lleol) gan gynnwys ysgol arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol”.
(12) Yn Atodlen 2—
(a)yn Rhan 1, ym mharagraff 2 yn lle “Cyngor ar ran yr Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol” rhodder “Cyngor Gwaith Cymdeithasol”;
(b)yn Rhan 6 ym mhennawd Atodiad D yn lle “yr Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol” rhodder “y Gweithiwr Cymdeithasol”.
9.—(1) Diwygir Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002(11) fel a ganlyn.
(2) Yn nheitl y Rheoliadau yn lle “Awdurdodau Addysg Lleol” rhodder “Awdurdodau Lleol”.
(3) Yn rheoliad 1(1) yn lle “Awdurdodau Addysg Lleol” rhodder “Awdurdodau Lleol”.
(4) Yn rheoliad 1(2) hepgorer y diffiniad o “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol”.
(5) Yn rheoliad 2 yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
(6) Yn rheoliad 3—
(a)ym mharagraff (1) yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”;
(b)ym mharagraff (1)(a) yn lle “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” rhodder “unrhyw awdurdod lleol arall”;
(c)ym mharagraff (4) yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”; ac
(ch)ym mharagraff (4)(a) yn lle “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” rhodder “awdurdod lleol arall”.
(7) Yn nheitl yr Atodlen yn lle “Awdurdodau Addysg Lleol” rhodder “Awdurdodau Lleol”.
(8) Yn yr Atodlen yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
10.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Athrawon a'u Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-dalu etc.) 2003(12) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn lle “local education authority” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “local authority”.
(3) Yn rheoliad 4(1)(b) yn lle “or a local education authority” rhodder “or with a local authority in connection with its education functions”.
11.—(1) Diwygir Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 (13) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) a 2 yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
(3) Yn rheoliad 11 yn lle “gyllideb AALl” rhodder “gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion”.
12.—(1) Diwygir Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003(14) fel a ganlyn.
(2) Yn nheitl y Rheoliadau yn lle “Cyllidebau AALl” rhodder “Cyllidebau Addysg nad ydynt ar gyfer Ysgolion”.
(3) Yn rheoliad 1(1) yn lle “Cyllidebau AALl” rhodder “Cyllidebau Addysg nad ydynt ar gyfer Ysgolion”.
(4) Yn rheoliad 2 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
(5) Yn rheoliad 4 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd heblaw yn yr ail is-baragraff (a) ym mharagraff (2) rhodder “awdurdod lleol”.
(6) Yn rheoliad 4(2) yn yr ail is-baragraff (a) yn lle “ar gyllideb AALl yr awdurdod addysg lleol” rhodder “ar gyllideb addysg awdurdod lleol nad yw ar gyfer ysgolion”.
(7) Yn lle'r pennawd ar gyfer rheoliad 5 rhodder—
“Y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion”
(8) Yn rheoliad 5(1)—
(a)yn lle “awdurdod addysg lleol” yn y lle cyntaf y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”; a
(b)yn lle “ar gyllideb AALl awdurdod addysg lleol” rhodder “ar gyllideb addysg awdurdod lleol nad yw ar gyfer ysgolion”.
(9) Yn rheoliad 6 yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
(10) Yn y pennawd i Atodlen 1 yn lle “CYLLIDEB AALl AWDURDOD ADDYSG LLEOL” rhodder “CYLLIDEB ADDYSG AWDURDOD LLEOL NAD YW AR GYFER YSGOLION”.
(11) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 18 yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”;
(b)ym mharagraff 19 yn lle “yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol” rhodder “mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg”.
(12) Yn y pennawd i Atodlen 2 yn lle “AWDURDOD ADDYSG LLEOL” rhodder “AWDURDOD LLEOL”.
(13) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 9, 10, 18 a 21 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
13.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004(15) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd, heblaw yn y diffiniad o “Rhif AALl”, rhodder “awdurdod lleol”;
(b)hepgorer y diffiniad o “Rhif AALl”; ac
(c)mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—
“mae “Rhif awdurdod” yn gyfuniad o rifau a ddyrannwyd i awdurdod lleol sy'n arbennig i'r awdurdod hwnnw, yn ôl penderfyniad Gweinidogion Cymru;”.
(3) Yn rheoliadau 3, 4, 5, 6 a 10 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
(4) Ym mharagraff 8 o Atodlen 1 yn lle “AALl” rhodder “awdurdod”.
14.—(1) Diwygir Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004(16) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “Rheoliadau 2003” yn lle “Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Cyllidebau nad ydynt ar gyfer Ysgolion, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003”.
(3) Yn rheoliadau 2, 4 i 8, 10 i 14, 16 i 22 ac yn yr Atodlen, yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd, rhodder “awdurdod lleol”.
15.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004(17) fel a ganlyn.
(2) Yn nheitl y Rheoliadau ac yn rheoliad 1(1) yn lle “AALl” rhodder “Awdurdod Lleol”.
(3) Yn rheoliadau 2(2), 4, 5 a 6 ac yn yr Atodlen yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
(4) Ym mharagraff 9 o'r Atodlen yn lle “o gyllideb AALl yr awdurdod” rhodder “o gyllideb addysg yr awdurdod nad yw ar gyfer ysgolion”.
16.—(1) Diwygir Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005(18) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliadau 3, 5, 6, 8 a 9(1), (2), (3) a (7)(a) yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
(3) Yn lle rheoliad 9(7)(b) rhodder—
“(b)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg; neu”.
(4) Yn rheoliadau 10 a 11 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
(5) Yn lle rheoliad 12 rhodder—
12.—(1) “Llywodraethwr awdurdod dros dro” yw person a benodwyd gan awdurdod lleol yn aelod o gorff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd.
(2) Mae person wedi ei ddatgymhwyso rhag cael ei benodi'n llywodraethwr awdurdod dros dro ar ysgol os yw'n gymwys i fod yn staff-lywodraethwr dros dro neu'n athro-lywodraethwr dros dro ar ysgol.”.
(6) Yn rheoliadau 13, 15 16(1) a (3)(ch) yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
(7) Yn lle rheoliad 16(3)(d) rhodder—
“(d)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg.”.
(8) Yn rheoliadau 21, 26, 27, 30, 33, 34, 35, 36, 38, 39, 43 a 44 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
17.—(1) Diwygir Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(19) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliadau 3(2)(c) a 4(2)(a) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
(3) Yn lle rheoliad 4(2)(b), rhodder —
“(b)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg;”.
(4) Yn lle rheoliad 7, rhodder —
7.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr awdurdod” yw person a benodir yn llywodraethwr gan yr awdurdod lleol.
(2) Mae person wedi ei ddatgymhwyso rhag cael ei benodi neu rhag parhau i ddal swydd yn llywodraethwr awdurdod ar ysgol os yw'n gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr ar ysgol.”.
(5) Yn rheoliadau 8(3), 9(1) a 10(2)(ch) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
(6) Yn lle rheoliad 10(2)(d) rhodder—
“(d)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â'i swyddogaethau addysg.”.
(7) Yn y Tablau yn rheoliadau 13, 14 a 15 yn lle “Llywodraethwyr AALl” rhodder “Llywodraethwyr awdurdod”.
(8) Yn rheoliad 15(4) a (5)(a) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
(9) Yn y Tablau yn rheoliadau 16, 17, 18 a 19 yn lle “Llywodraethwyr AALl” rhodder “Llywodraethwyr awdurdod”.
(10) Yn rheoliad 21(5) yn lle “llywodraethwr AALl” rhodder “llywodraethwr awdurdod”.
(11) Yn y pennawd i reoliad 27 yn lle “AALl” rhodder “awdurdod”.
(12) Yn rheoliad 27(1) yn lle “llywodraethwr AALl” rhodder “llywodraethwr awdurdod”.
(13) Yn rheoliad 32 yn lle “awdurdodau addysg lleol” rhodder “awdurdodau lleol”.
(14) Yn rheoliadau 34 i 37, 42, 45, 47, 51, 55 a 61 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol ”.
(15) Yn Atodlenni 1, 2 a 3 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol ”.
(16) Yn y Tabl yn Atodlen 6 yn lle “Llywodraethwr AALl” yn yr ail golofn rhodder “Llywodraethwr awdurdod”.
18.—(1) Diwygir Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010(20) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “awdurdod lleol” yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol” ac yn lle “awdurdodau addysg lleol” rhodder “awdurdodau lleol”.
(3) Yn rheoliadau 11(3)(b) a 17(2)(d) yn lle “fel awdurdod addysg lleol” rhodder “addysg”.
19.—(1) Diwygir Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010(21) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 yn lle “Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Cyllidebau Addysg nad ydynt ar gyfer Ysgolion, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003” ac y lle “Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004” rhodder “Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol Awdurdod Lleol) (Cymru) 2004”.
(3) Yn rheoliad 3(1) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
(4) Yn y pennawd i Ran 2 yn lle “Cyllideb AALl” rhodder “Y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion”.
(5) Yn lle'r pennawd ar gyfer rheoliad 4 rhodder—
“Y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion”.
(6) Yn rheoliad 4(1) ac yn yr ail is-baragraff (a) yn rheoliad 6(2) yn lle “ar gyllideb AALl awdurdod lleol” rhodder “ar gyllideb addysg awdurdod lleol nad yw ar gyfer ysgolion”.
(7) Yn y pennawd i Atodlen 1 yn lle “Cyllideb AAL yr Awdurdod Lleol” rhodder “Cyllideb Addysg yr Awdurdod Lleol nad yw ar gyfer Ysgolion”.
(8) Ym mharagraff 20 o Atodlen 1 yn lle “yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol” rhodder “mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg”.
(9) Ym mharagraff 9 o Atodlen 4 yn lle “o gyllideb AALl yr awdurdod” rhodder “o gyllideb addysg yr awdurdod nad yw ar gyfer ysgolion”.
O.S. 1994/651 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/417, 2001/3710 (Cy.306), 2002/808 (Cy.89), 2005/2929 (Cy.214).
Fel y'u cyhoeddwyd mae Rheoliadau Addysg (Gorchymyn Presenoldeb yn yr Ysgol) 1995 yn cynnwys dau reoliad gyda'r Rhif 1, a'r trydydd rheoliad yw'r rheoliad sy'n dwyn y Rhif 2.
O.S. 1997/1969 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1585, 1999/1505, 2003/1779 (Cy.193), 2008/510 (Cy.46), 2008/1879.
O.S. 1998/1943 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/2959 (Cy.277), 2009/828 (Cy.75).
O.S. 2001/2709 (Cy.228) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/2544 (Cy.206).
O.S. 2001/2678 (Cy.219) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2916 (Cy.213), 2006/173 (Cy.24).
O.S. 2002/122 (Cy.16) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210).
O.S. 2002/152 (Cy.20) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/3135, 2003/1717 (Cy.184).
O.S. 2002/157 (Cy.23) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210).
O.S. 2003/1917 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243), 2005/3309.
O.S. 2003/2909 (Cy.275) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210), 2005/3238 (Cy.243), 2006/5.
O.S. 2003/3118 (Cy.296) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/696, 2005/2913 (Cy.210), 2005/3238 (Cy.243).
O.S. 2004/1026 (Cy.123), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253), 2005/1396 (Cy.110), 2005/3239 (Cy.244), 2007/3563 (Cy.313).
O.S. 2004/2506 (Cy.224) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210), 2005/3238 (Cy.243), 2008/1866 (Cy. 178).
O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3200 (Cy.236), 2006/873 (Cy.81), 2007/944 (Cy.80), 2009/2544 (Cy.206).