- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 3
1. Yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990(1) yn lle'r geiriau “which is a local education authority as defined in section 114 of the Education Act 1944, any functions with respect to education” rhodder “any education functions (within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996)”.
2.—(1) Diwygir rheoliad 6 o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000(2) fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)y swyddogaethau o dan adrannau 7 neu 8 o Ddeddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986;”.
(3) Ym mharagraff (ch) yn lle “awdurdodau addysg lleol” rhodder “awdurdodau lleol”.
3.—(1) Diwygir Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001(3) fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3(2)(ch)(i) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
4.—(1) Diwygir Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001(4) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(5)(ch) yn lle “awdurdod addysg lleol ar gyfer yr ardal y mae'n byw ynddi” rhodder “awdurdod lleol (os yw'n wahanol) ar gyfer yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi os yw'r awdurdod hwnnw wedi arfer unrhyw swyddogaethau addysg mewn cysylltiad â'r plentyn”.
5.—(1) Diwygir Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001(5) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o “athro neu athrawes” yn lle “Awdurdod Addysg Lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
6.—(1) Diwygir Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001(6) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a)mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—
“mae i “swyddogaethau addysg” yr ystyr a roddir i “education functions” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;”;
(b)yn y diffiniad o “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg” yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”;
(c)hepgorer y diffiniad o “awdurdod addysg lleol”.
(3) Yn rheoliadau 4 i 13 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
7. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(7), ym mharagraff (b) o'r diffiniad o “awdurdod lleoli” yn lle is-baragraff (ii) rhodder–
“(ii)os yw'r plentyn yn cael ei letya mewn ysgol gymwys o dan drefniadau sydd wedi'u gwneud gan awdurdod lleol (boed wrth arfer swyddogaethau addysg o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 ai peidio), yr awdurdod lleol hwnnw,”.
8.—(1) Diwygir Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (Darpariaethau Cyffredinol a Gweithdrefn Geisiadau) 2002(8) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(1)(a)(v) yn lle “local education authority” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “local authority”.
(3) Yn rheoliad 27(2) yn lle “local education authority” rhodder “local authority”.
9. Yn rheoliad 3(1)(a)(i) o Reoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002(9) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
10. Yn erthygl 3(1)(a)(i) o Orchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002(10) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
11.—(1) Diwygir Gorchymyn Cysylltiadau Hiliol (Dyletswyddau Statudol) 2003(11) fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3(2)(b) yn lle “Local Education Authorities” rhodder “local authorities”.
(3) Ar ddiwedd erthygl 3(4) mewnosoder “and the reference to “local authorities” is a reference to local authorities within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996”.
12. Yn Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2004(12) yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.
13.—(1) Diwygir rheoliad 36(4) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(13) fel a ganlyn.
(2) Ar ddiwedd is-baragraff (b) ychwaneger “a chynnwys yn yr hysbysiad i'r awdurdod lleol wybodaeth am hanes addysg y plentyn ac os yw'r plentyn wedi cael ei asesu neu'n debygol o gael ei asesu ar gyfer anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996”.
(3) Hepgorer is-baragraff (c).
14.—(1) Diwygir Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005(14) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o “awdurdod addysg lleol”.
(3) Yn rheoliad 5(1) hepgorer is-baragraff (dd).
(4) Yn lle rheoliad 8(4) rhodder—
“(4) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys a'i bod yn ymddangos i'r awdurdod lleol—
(a)y gall fod angen darparu gwasanaethau ar gyfer y person yr asesir ei anghenion gan fwrdd iechyd lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; neu
(b)y gall fod angen darparu unrhyw wasanaethau ar gyfer y person hwnnw sy'n dod o fewn swyddogaethau addysg (o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996) awdurdod lleol arall,
rhaid i'r awdurdod lleol, fel rhan o'r asesiad, ymgynghori â'r bwrdd iechyd lleol hwnnw, yr Ymddiriedolaeth GIG honno, yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol honno neu'r awdurdod lleol hwnnw.”.
(5) Yn rheoliad 10—
(a)ym mharagraff (3) yn lle “swyddogaethau awdurdod addysg lleol” rhodder “swyddogaethau addysg (o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996) awdurdod lleol arall” ac yn lle “neu awdurdod addysg lleol” rhodder “neu awdurdod lleol”; a
(b)ym mharagraff (5)(c) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
(6) Yn rheoliad 13(2) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol arall” ac yn lle “yr awdurdod addysg lleol” rhodder “yr awdurdod lleol arall”.
15.—(1) Diwygir Rheoliadau Gwarcheidiaeth Arbennig (Cymru) 2005(15) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) hepgorer y diffiniad o “awdurdod addysg lleol”.
(3) Yn rheoliad 3(3) hepgorer is-baragraff (c).
(4) Yn rheoliad 6(1)(c) yn lle'r geiriau “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol arall”.
(5) Yn rheoliad 11(3), yn lle'r geiriau “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol arall”.
16. Yn rheoliad 2(2)(b) o Reoliadau Swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol (Iechyd Cyhoeddus Deintyddol) (Cymru) 2006(16) yn lle “local education authorities” rhodder “local authorities”.
17.—(1) Diwygir rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006(17) fel a ganlyn.
(2) Yn lle'r diffiniad o “awdurdod” rhodder—
“ystyr “awdurdod” yw awdurdod lleol yng Nghymru;”.
(3) Yn lle'r diffiniad o “ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol” rhodder—
“mae i “ysgol a gynhelir gan awdurdod” (gan gynnwys unrhyw gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod penodol) yr ystyr a roddir i “school maintained by a local authority” gan adran 142(1) o Ddeddf 1998;”.
18.—(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(18) fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 3, ym mharagraff 3(e) o Ran 1, ym mharagraff 3(dd) o Ran 2, ym mharagraff 3(ch) o Ran 3 ac ym mharagraff 3(dd) o Ran 4, yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
19.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006(19) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliadau 4(1)(a) a 5 yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
20.—(1) Diwygir Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006(20) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a)yn y diffiniad o “Bwrdd” yn lle “awdurdod gwasanaethau plant” rhodder “awdurdod lleol” ac yn lle “awdurdodau gwasanaethau plant” rhodder “awdurdodau lleol”;
(b)hepgorer y diffiniad o “awdurdod gwasanaethau plant”;
(c)mewnosoder yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—
“ystyr “awdurdod lleol”, o ran Bwrdd, yw'r awdurdod neu'r awdurdodau a sefydlodd y Bwrdd;”.
(3) Yn rheoliadau 3(1)(e) a 5(1) a (2) yn lle “awdurdod gwasanaethau plant” rhodder “awdurdod lleol”.
(4) Yn y pennawd i reoliad 7 yn lle “Awdurdodau Gwasanaethau Plant” rhodder “Awdurdodau Lleol”.
(5) Yn rheoliad 7(1) a (2) yn lle “awdurdod gwasanaethau plant” rhodder “awdurdod lleol”.
21.—(1) Diwygir Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(21) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 31(2) o Atodlen 5 yn lle “local education authority” rhodder “local authority (within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996)”.
(3) Ym mharagraffau 1(1), 2(1) a 4 o Atodlen 8 yn lle “local education authority” rhodder “local authority (within the meaning of section 579(1) of the Education Act 1996)”.
22.—(1) Diwygir Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007(22) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 6(1)(c), rhodder —
“(c)yr awdurdod lleol, os yw'n wahanol i'r awdurdod ardal,
(i)sy'n cynnal unrhyw ysgol y mae'r plentyn yn ddisgybl ynddi, neu y bwriedir iddo fod yn ddisgybl ynddi, neu
(ii)sy'n gwneud trefniadau i ddarparu addysg i'r plentyn nad yw mewn ysgol yn unol ag adran 19 o Ddeddf Addysg 1996, neu
(iii)os yw'r plentyn yn ddisgybl mewn ysgol nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod lleol, sy'n awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi;”.
23.—(1) Diwygir Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007(23) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a)yn y diffiniad o “awdurdod” yn lle “awdurdod gwasanaethau plant” rhodder “awdurdod lleol”; a
(b)yn lle'r diffiniad o “ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol” rhodder—
“mae i “ysgol a gynhelir gan awdurdod” (gan gynnwys unrhyw gyfeiriad at ysgol a gynhelir gan awdurdod penodol) yr ystyr a roddir i “school maintained by a local authority” gan adran 142(1) o Ddeddf 1998.”.
24. Ym mharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008(24) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996)” .
25. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008(25) yn y diffiniad o “ceisydd” yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
26. Yn erthygl 2(2)(c) o Orchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009(26) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
27. Yn erthygl 3 o Orchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009(27) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
O.S. 1990/1553 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/1398, 1993/1339, 1998/1918, 1999/500.
O.S. 2000/2993 (Cy.193) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1390 (Cy.140), 2005/761 (Cy.65), 2008/2828.
O.S. 2001/607 (Cy.30) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/696.
O.S. 2001/2189 (Cy.151) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1855 (Cy.179), 2002/2935 (Cy.277), 2004/1732 (Cy.175).
O.S. 2001/2278 (Cy.168) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2929 (Cy.214).
O.S. 2001/3711 (Cy.307) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2913 (Cy.210).
O.S. 2002/327 (Cy.40) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254), 2004/2414, 2005/774 (Cy.64), 2005/1541, 2005/2929, 2006/3251 (Cy.295), 2007/311 (Cy.28), 2009/2541 (Cy.205).
O.S. 2002/1985 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/2683.
O.S. 2002/2022 (Cy.206) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/943 (Cy.124), 2004/1827 (Cy.203), 2008/1879, 2010/193 (Cy.28).
O.S. 2002/2023 (Cy.207) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/194 (Cy.29).
O.S. 2003/3006 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2471, 2008/526.
O.S. 2004/1576 (Cy.162) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243), 2006/173 (Cy.24).
O.S. 2005/1313 (Cy.95) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/362 (Cy.48), 2009/1892, 2009/2541 (Cy. 205).
O.S. 2005/1512 (Cy.116), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1879.
O.S. 2005/1513 (Cy.117) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1879.
O.S. 2006/1705 (Cy.167) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/912.
O.S. 2007/236 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/1182, 2009/1357.
O.S. 2008/2141 (Cy.190) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/108 (Cy. 21).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys