- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
10.—(1) Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn aelwyd wedi'i ddosbarthu iddo neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol—
(a)llenwi'r copi o holiadur H2 neu holiadur H2W a gynhwyswyd yn y pecyn, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw a ddarparwyd ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu
(b)dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur H2 neu holiadur H2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol â'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.
(2) Caiff pob etholwr y mae pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw wedi'i ddosbarthu iddo neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol—
(a)llenwi'r copi o holiadur I2 neu holiadur I2W a gynhwyswyd yn y pecyn, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw a ddarparwyd ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu
(b)dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur I2 neu holiadur I2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.
(3) Cyn gynted â phosibl ar ôl i bob holiadur I2 neu I2W, neu H2 neu H2W sydd wedi'u llenwi ddod i law'r Awdurdod, rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod yr holiadur perthnasol wedi'i ddychwelyd.
(4) Ar ôl i holiadur I2 neu I2W, neu H2 neu H2W sydd wedi'u llenwi ddod i law'r Awdurdod yn electronig, rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod cadarnhad ei fod wedi dod i law yn cael ei anfon yn electronig at y person sy'n dychwelyd yr holiadur.
(5) Pan fo penodai yn fodlon, ar ôl siarad â pherson rhagnodedig at ddibenion erthyglau 5(1) neu (3) o Orchymyn y Cyfrifiad, nad yw'r person rhagnodedig o dan sylw—
(a)yn gallu llenwi holiadur a'i ddychwelyd; a
(b)yn alluog i awdurdodi unrhyw berson i weithredu ar ei ran,
yna caiff y penodai, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud ymholiadau ynghylch y manylion y byddai'n ofynnol o dan Orchymyn y Cyfrifiad i'r person rhagnodedig hwnnw eu rhoi a chofnodi'r atebion i'r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddibenion y cyfrifiad.
(6) Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai wneud cofnod yn unol â pharagraff (5), rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o dan baragraff (5) wedi'i wneud mewn perthynas â'r person rhagnodedig hwnnw.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys