Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010; mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 25 Mai 2010.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “adweithydd” (“reactor”) yw anifail buchol sy'n adweithio i brawf perthnasol mewn modd sy'n gyson â bod twbercwlosis wedi effeithio arno;

  • ystyr “anifail a amheuir” (“suspected animal”) yw anifail buchol yr amheuir yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis, ac y mae'n cynnwys anifail a fu mewn cysylltiad agos ag anifail o'r fath;

  • ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw gwartheg domestig o'r genws Bos, byfflo neu fual;

  • ystyr “anifail yr effeithiwyd arno” (“affected animal”) yw anifail buchol yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis y pwrs neu sy'n rhoi llaeth twbercylaidd, neu yr effeithiwyd arno gan deneuo twbercylaidd, neu sy'n ysgarthu neu'n gollwng deunydd twbercylaidd, neu yr effeithiwyd arno gan beswch cronig, neu sy'n dangos unrhyw symptom clinigol arall o dwbercwlosis;

  • ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n berchen neu sy'n gyfrifol am anifail buchol, pa un ai ar sail barhaol neu dros dro, ond nid yw'n cynnwys person sy'n gyfrifol am anifail buchol oherwydd, yn unig, bod y person hwnnw'n ei gludo;

  • ystyr “diheintydd cymeradwy” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yn erbyn twbercwlosis buchol yn unol â Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007(1);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—

    (a)

    tir neu adeiladau; a

    (b)

    ac unrhyw le arall gan gynnwys, yn benodol, cerbyd, llong, awyren, neu babell neu adeiledd symudol arall;

  • ystyr “prawf croen” (“skin test”) yw prawf twbercwlin serfigol cymharol intradermol sengl;

  • ystyr “prawf perthnasol” (“relevant test”) yw prawf croen neu brawf diagnostig arall ar gyfer twbercwlosis; ac

  • ystyr “twbercwlosis” (“tuberculosis”) yw heintiad â Mycobacterium bovis (M. bovis).

Dirymiadau

3.  Dirymir Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006(2).

Diwygio Gorchymyn Iawndal Brwselosis a Thwbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1978

4.—(1Diwygir Gorchymyn Iawndal Brwselosis a Thwbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1978(3) fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “affected animal”—

(i)yn is-baragraff (a)—

(aa)hepgorer y geiriau “in relation to brucellosis,”; a

(bb)hepgorer “and”; a

(ii)hepgorer is-baragraff (b); ac

(b)yn y diffiniad o “reactor”, hepgorer “or tuberculosis”.

(3Yn erthygl 3 (iawndal am, a phenderfynu gwerth, anifeiliaid buchol a gigyddir oherwydd brwselosis neu dwbercwlosis)—

(a)yn y pennawd, hepgorer “or tuberculosis”;

(b)ym mharagraff (1), hepgorer “or tuberculosis”; ac

(c)hepgorer paragraff (2A).

(4Yn erthygl 4(1) (iawndal am “anifeiliaid rheolydd”) hepgorer “or tuberculosis”.

Arbedion a phontio

5.—(1Bydd unrhyw hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984(4) neu Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 ac sy'n effeithiol pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, yn parhau mewn grym, fel pe bai'n hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu'n gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan y Gorchymyn hwn.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynir o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984 neu Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 fel y mae'n gymwys i hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn.

(3Nid ddiwygir Gorchymyn Iawndal Brwselosis a Thwbercwlosis (Cymru a Lloegr) o ran twbercwlosis gan erthygl 4, ac y mae'r Gorchymyn hwnnw'n parhau'n gymwys, yn achos unrhyw anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis—

(a)yn dilyn hysbysiad a gyflwynwyd cyn 25 Mai 2010 o dan erthygl 8 o Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006;

(b)o ganlyniad i brawf croen positif neu amhendant a ddarllenwyd cyn 25 Mai 2010; neu

(c)o ganlyniad i unrhyw brawf perthnasol arall ar gyfer twbercwlosis, y cymerwyd y sampl clinigol ar ei gyfer cyn 25 Mai 2010.

(3)

O.S.1978/1483. Mewnosodwyd paragraff (2A) o erthygl 3 gan O.S. 1998/2073, erthygl 2. Dirymwyd y Gorchymyn o ran Lloegr gan O.S. 2006/168.