Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2Profi a Symud

Diffinio “disease”

6.—(1At ddibenion y Ddeddf, estynnir y diffiniad o “disease” yn adran 88(1) o'r Ddeddf (ystyr “disease”) i gynnwys twbercwlosis.

(2Mae adran 32 o'r Ddeddf (cigydda oherwydd clefydau eraill) yn gymwys i dwbercwlosis.

Profion a samplau: gwarantau

7.  At ddibenion adran 62E(4)(b) o'r Ddeddf (profion a samplau: gwarantau)—

(a)caiff yr arolygydd wneud cais am ganiatâd i fynd i mewn i'r fangre cyn y diwrnod y ceisir caniatâd ar ei gyfer; a

(b)mae'r amod a grybwyllir yn y ddarpariaeth honno wedi ei fodloni os nad yw'r meddiannydd yn dynodi, erbyn dyddiad a bennir yn y cais, bod y meddiannydd yn rhoi caniatâd mewn perthynas â'r cais hwnnw.

Hysbysu am glefyd mewn anifeiliaid buchol

8.—(1Rhaid i unrhyw berson—

(a)sydd ag unrhyw anifail buchol yn ei feddiant neu dan ei ofal, a'r person hwnnw'n amau bod yr anifail, neu y gallai fod, yn anifail yr effeithiwyd arno;

(b)sydd, yng nghwrs ymarfer y person hwnnw fel milfeddyg, yn archwilio anifail buchol y mae'r person hwnnw'n amau ei fod, neu y gallai fod, yn anifail yr effeithiwyd arno; neu

(c)sydd, yng nghwrs dyletswyddau'r person hwnnw, yn archwilio, at unrhyw ddiben, anifail buchol y mae'r person hwnnw'n amau ei fod, neu y gallai fod, yn anifail yr effeithiwyd arno,

hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith.

(2Rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw anifail buchol yn ei feddiant neu dan ei ofal, a'r person hwnnw'n amau bod, neu y gallai fod, yr anifail yn anifail yr effeithiwyd arno, tra'n aros am gasgliad yr ymchwiliad milfeddygol o dan erthygl 10 ac am gyflwyno unrhyw hysbysiad o dan yr erthygl honno, weithredu ar unwaith i—

(a)cadw'r anifail hwnnw yn y fangre lle y mae ar y pryd;

(b)ei ynysu oddi wrth anifeiliaid buchol eraill, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol; a

(c)mabwysiadu rhagofalon mewn perthynas â llaeth a gynhyrchir gan yr anifail hwnnw, fel pe bai hysbysiad o dan erthygl 10 eisoes wedi ei gyflwyno.

Hysbysu ynglŷn â chlefyd mewn carcasau

9.—(1Rhaid i unrhyw berson—

(a)sydd â charcas yn ei feddiant neu dan ei ofal, ac yr effeithiwyd, neu yr amheuir yr effeithiwyd, ar y carcas hwnnw gan dwbercwlosis;

(b)sydd, yng nghwrs ymarfer y person hwnnw fel milfeddyg, yn archwilio carcas yr effeithiwyd arno, neu yr amheuir yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis; neu

(c)sydd, yng nghwrs dyletswyddau'r person hwnnw, yn archwilio, at unrhyw ddiben, carcas yr effeithiwyd arno, neu yr amheuir yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis,

hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith.

(2Rhaid berson sydd â charcas fel a grybwyllir ym mharagraff (1) yn ei feddiant neu dan ei ofal gadw'r carcas hwnnw yn y fangre lle y mae ar y pryd, hyd nes bydd wedi ei archwilio gan arolygydd milfeddygol.

Ymchwiliad milfeddygol i bresenoldeb clefyd

10.—(1Pan fo arolygydd milfeddygol o'r farn yn rhesymol bod anifail yr effeithiwyd arno neu anifail a amheuir (ac eithrio adweithydd), neu garcas anifail buchol yr effeithiwyd arno neu yr amheuir yr affeithiwyd arno, gan dwbercwlosis, yn bresennol mewn unrhyw fangre, rhaid i'r arolygydd milfeddygol, mor fuan ag y bo'n ymarferol, gymryd pa gamau bynnag sy'n angenrheidiol i ganfod a yw'r anifail neu'r carcas mewn gwirionedd yn un yr effeithiwyd arno neu a amheuir.

(2Caiff arolygydd milfeddygol, at ddibenion yr erthygl hon, archwilio unrhyw anifail buchol neu garcas anifail buchol sydd yn y fangre a chymryd pa bynnag samplau o unrhyw anifail neu garcas o'r fath, neu gyflawni pa bynnag brofion sy'n ofynnol at y diben o wneud diagnosis.

(3Pan fo arolygydd milfeddygol wedi archwilio anifail buchol, ac o'r farn ei fod yn anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail a amheuir, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail buchol hwnnw, sy'n gwneud yn ofynnol bod y ceidwad—

(a)yn cadw'r anifail hwnnw yn unol â gofynion yr hysbysiad a'i gadw wedi'i ynysu oddi wrth anifeiliaid buchol eraill;

(b)pan fo'n briodol, yn cymryd camau i sicrhau na chymysgir y llaeth a gynhyrchir gan yr anifail â llaeth arall, bod llaeth yr anifail yn cael ei ferwi neu'i sterileiddio rywfodd arall, a bod unrhyw declyn y bu'r llaeth hwnnw mewn cysylltiad ag ef cyn ei drin felly yn cael ei lanhau'n drwyadl a'i sgaldio â stêm neu ddŵr berwedig cyn defnyddio'r teclyn hwnnw drachefn; ac

(c)yn sicrhau na symudir unrhyw anifail buchol i'r fangre neu ba bynnag ran o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, nac oddi arni, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.

Hysbysiad gwella milfeddygol

11.—(1Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad gwella milfeddygol”) (“veterinary improvement notice”) i geidwad anifail buchol, sy'n gwneud yn ofynnol bod y ceidwad, erbyn dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, yn gwneud pethau neu ymatal rhag gwneud pethau, at y diben o atal clefyd rhag lledaenu ac, yn benodol, caiff osod y gofynion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Mae'r gofynion y ceir eu gosod drwy gyfrwng hysbysiad gwella milfeddygol yn cynnwys—

(a)codi ffensys (gan gynnwys clwydi a chamfeydd);

(b)mabwysiadu dulliau effeithiol o allgáu grwpiau o anifeiliaid o rannau penodedig o'r fangre;

(c)diogelu silwair, storfeydd bwydydd anifeiliaid a mannau bwydo rhag bywyd gwyllt, gan gynnwys adar;

(ch)cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y bobl sy'n mynd ar dir y ceidwad yn gweithredu rhagofalon rhesymol rhag lledaenu clefyd.

Profi ar gyfer twbercwlosis

12.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad prawf”) (“test notice”) i geidwad anifail buchol, sy'n gwneud yn ofynnol bod y ceidwad yn sicrhau y profir unrhyw anifail o'r fath ar gyfer twbercwlosis drwy gyfrwng prawf perthnasol erbyn dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2Rhaid i geidwad anifail buchol gydymffurfio â holl ofynion rhesymol arolygydd er mwyn hwyluso–

(a)adnabod ac archwilio'r anifail hwnnw gan yr arolygydd;

(b)cyflawni, neu ddarllen, unrhyw rhyw brawf perthnasol ar yr anifail;

(c)prisio'r anifail mewn achos pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu peri ei gigydda o dan adran 32 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir i dwbercwlosis; neu

(ch)symud yr anifail ar gyfer ei gigydda,

ac yn benodol, rhaid i'r ceidwad drefnu, ar gost y ceidwad ei hunan, i gasglu, corlannu a diogelu unrhyw anifail o'r fath os gofynnir iddo.

(3Pan fo prawf perthnasol wedi'i wneud ar anifail buchol, ni chaiff unrhyw berson symud yr anifail hwnnw o'r fangre lle y'i cedwir, ac eithrio–

(a)pan symudir yr anifail dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol; neu

(b)pan fo canlyniadau'r prawf wedi eu darllen gan arolygydd a'r canlyniadau hynny'n negyddol.

(4Heb leihau effaith erthygl 16, os yw'r ceidwad wedi methu â chael profi anifail yn unol â gofyniad hysbysiad prawf, caiff Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â'r fangre lle cedwir yr anifail, drwy gyflwyno hysbysiad i'r ceidwad, wahardd symud anifeiliaid buchol, neu'r cyfryw anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad, i'r fangre honno neu oddi arni, neu unrhyw ran o'r fangre honno fel a bennir yn yr hysbysiad, yn ddarostyngedig i unrhyw symud a ganiateir o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd.

(5Heb ragfarnu unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd o dan adran 73 o'r Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, pan fo ceidwad wedi methu â chael profi anifail yn unol â gofyniad hysbysiad prawf, caiff Gweinidogion Cymru gymryd, neu beri cymryd, pob un o'r camau a fydd hwyrach yn angenrheidiol i hwyluso archwilio, profi, prisio a symud yr anifail hwnnw, a chaiff Gweinidogion Cymru adennill oddi wrth y ceidwad swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol.

(6Pan fo—

(a)y ceidwad wedi methu â chael profi anifail yn unol â gofyniad hysbysiad prawf; ac

(b)am y rhesymau a bennir ym mharagraff (7), yr anifail heb ei brofi yn unol â pharagraff (5),

rhaid trin yr anifail at ddibenion adran 32 o'r Ddeddf fel anifail yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis.

(7Y rhesymau a grybwyllir ym mharagraff (6) yw rhesymau ymarferoldeb, gan gynnwys anawsterau o ran casglu'r anifail yn ddiogel, oherwydd ei wylltineb, neu oherwydd natur y dirwedd lle cedwir yr anifail.

Profion cyn symud

13.—(1Ni chaiff unrhyw berson symud anifail buchol o unrhyw fangre oni fydd—

(a)prawf croen wedi ei gyflawni arno, ddim mwy na 60 diwrnod cyn dyddiad y symud; a

(b)bod canlyniadau'r prawf wedi eu darllen gan arolygydd, a'r canlyniadau hynny'n negyddol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r canlynol—

(a)anifeiliaid buchol sydd o dan 6 wythnos oed ar ddyddiad y symud;

(b)symud anifail buchol i le ar gyfer triniaeth filfeddygol, ar yr amod y'i dychwelir yn uniongyrchol i'w fangre wreiddiol ar ôl y driniaeth, neu y'i lleddir neu y'i hanfonir yn syth i'w gigydda;

(c)unrhyw symudiadau a bennir mewn cyfarwyddyd a ddyroddir gan Weinidogion Cymru; ac

(ch)unrhyw symudiad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.

(3At ddibenion paragraff (1)(a), mae'r cyfnod o 60 diwrnod yn cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir pigiad gyda thwbercwlin i'r anifail

Cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis

14.—(1Pan fo prawf croen wedi ei gyflawni ar anifail buchol, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi i arolygydd ddarllen canlyniadau'r prawf, roi i geidwad yr anifail gofnod ysgrifenedig o'r canlyniadau.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i anifeiliaid y gwaherddir eu symud, neu y parheir i wahardd eu symud, o dan y Gorchymyn hwn yn dilyn y prawf.

(3Rhaid i'r ceidwad—

(a)ddal gafael ar y cofnod o ganlyniadau'r prawf am gyfnod o 3 blynedd a 60 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir y pigiad gyda thwbercwlin; a

(b)dangos y cofnod hwnnw pan fo arolygydd yn gofyn am ei weld.

Gwaharddiadau

15.—(1Ni chaiff unrhyw berson frechu anifail buchol yn erbyn twbercwlosis heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru.

(2Ni chaiff unrhyw berson roi triniaeth ar gyfer twbercwlosis i anifail buchol heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru.

(3Ni chaiff unrhyw berson brofi anifail buchol ar gyfer twbercwlosis ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru, a rhaid i berson y rhoddir caniatâd o'r fath iddo adrodd y canlyniadau ar unwaith wrth Weinidogion Cymru.

(4Ni chaiff unrhyw berson ymyrryd â, neu rwystro, cyflawni neu ddarllen prawf perthnasol.

Ynysu a gwahardd symud anifeiliaid

16.  Caiff arolygydd, at y diben o reoli neu atal lledaeniad twbercwlosis, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad anifeiliaid buchol a gedwir yn y cyfryw fangreoedd a bennir yn yr hysbysiad—

(a)gwneud yn ofynnol bod y cyfryw anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad; a

(b)gwahardd symud anifeiliaid buchol, neu'r cyfryw anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad, i'r mangreoedd hynny neu oddi arnynt, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd.

Hysbysu'r bwriad i gigydda anifeiliaid

17.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu peri i anifail buchol gael ei gigydda o dan adran 32 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir i dwbercwlosis, rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail, i roi gwybod iddo am y bwriad i gigydda, ac i wneud yn ofynnol bod y ceidwad yn cadw'r anifail, hyd nes y cigydda hwnnw, neu symudir ef i'w gigydda, ar y cyfryw ran o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, ac i'w ynysu i'r graddau y bo'n ymarferol oddi wrth ba bynnag anifeiliaid eraill a bennir felly.

(2Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff unrhyw berson symud yr anifail ac eithrio i'w gigydda, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd.

Rhagofalon rhag lledaenu haint

18.—(1Pan fo arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni bod unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre'n anifail yr effeithiwyd arno neu'n anifail a amheuir, caiff yr arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad unrhyw anifail o'r fath, wneud yn ofynnol bod y ceidwad —

(a)yn trin ac yn storio tail neu slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath yn unol â gofynion yr hysbysiad;

(b)yn ymatal rhag gwasgaru unrhyw dail neu chwistrellu neu wasgaru unrhyw slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath, ac eithrio yn unol â gofynion yr hysbysiad;

(c)yn ymatal rhag symud unrhyw dail, slyri neu unrhyw wastraff anifail arall o'r fangre, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd;

(ch)yn cymryd pa bynnag gamau sy'n rhesymol ymarferol i rwystro unrhyw anifail buchol yn y fangre rhag heintio unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre gyffiniol;

(d)yn trefnu ar gyfer ynysu unrhyw anifeiliaid buchol a bennir yn yr hysbysiad, ym mha bynnag ran neu rannau o'r fangre a bennir;

(dd)yn sicrhau na chaiff unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, eu defnyddio gan unrhyw anifail buchol sydd yn y fangre, neu gan ba bynnag anifail neu anifeiliaid a bennir yn yr hysbysiad;

(e)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, y cyfryw ran neu rannau o'r fangre, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad;

(f)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, pob teclyn a phob eitem arall a ddefnyddiwyd ar gyfer ac o gwmpas anifail y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad; ac

(ff)cymryd pa bynnag gamau eraill a ystyrir yn briodol gan yr arolygydd milfeddygol.

(2Os yw'r ceidwad yn methu â chydymffurfio â'r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chânt adennill, oddi wrth y ceidwad, swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol.

Anifeiliaid a amheuir mewn marchnadoedd, sioeau etc

19.—(1Pan fo arolygydd milfeddygol o'r farn yn rhesymol bod anifail buchol, mewn unrhyw fangre lle y cynhelir sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair, yn anifail yr effeithiwyd arno, yn anifail a amheuir, neu'n un a fu'n agored i'w heintio â thwbercwlosis, caiff yr arolygydd—

(a)drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail, wneud yn ofynnol symud yr anifail hwnnw o'r fangre honno, a mynd ag ef—

(i)i ladd-dy i'w gigydda ar unwaith; neu

(ii)yn ôl i'r fangre yr aed â'r anifail ohoni i'r sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair; neu

(iii)i ba bynnag fangre arall a gymeradwyir gan yr arolygydd milfeddygol at y diben hwnnw; a

(b)drwy gyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am y fangre—

(i)gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw'n sicrhau na ddefnyddir unrhyw ran neu rannau o'r fangre, a bennir yn yr hysbysiad, gan unrhyw anifail buchol arall am ba bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; a

(ii)gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad—

(aa)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, pa bynnag ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad; a

(bb)yn cael gwared ag unrhyw dail, slyri neu wastraff anifeiliaid arall, gwellt, sarn neu ddeunydd arall a fu mewn cysylltiad, neu a allai fod wedi dod i gysylltiad ag anifail o'r fath.

(2Pan symudir anifail buchol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii) neu (iii), rhaid i geidwad yr anifail ei ynysu ar unwaith, a pheidio â'i symud o'r fangre drachefn, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.

(3Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (1)(b) y methu â chydymffurfio â'r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chânt adennill swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol, oddi wrth y person a fethodd â chydymffurfio.

Rheoli heintio oddi wrth anifeiliaid eraill

20.—(1Pan fo arolygydd milfeddygol o'r farn yn rhesymol bod, neu y gallai fod, anifail a gedwir mewn unrhyw fangre, yn un yr effeithiwyd arno gan dwbercwlosis, caiff yr arolygydd milfeddygol, drwy gyflwyno hysbysiad i feddiannydd mangre o'r fath—

(a)gwneud yn ofynnol bod y meddiannydd yn cadw'r anifail dan reolaeth ym mha bynnag fodd a bennir yn yr hysbysiad, neu'n ei gyfyngu i ba bynnag ran o'r fangre a bennir; a

(b)gwahardd symud anifeiliaid i'r fangre honno neu oddi arni, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw fath o famal ac eithrio anifail buchol neu ddyn.

Marcio anifeiliaid buchol

21.—(1Os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan arolygydd, rhaid i geidwad anifeiliaid buchol farcio anifeiliaid o'r fath yn y modd a fydd yn ofynnol gan yr arolygydd.

(2Caiff yr arolygydd farcio anifeiliaid buchol.

(3Ni chaiff neb newid neu ymyrryd ag unrhyw farc a roddir o dan yr erthygl hon.

Adnabod M. bovis mewn labordy

22.—(1Yn ystod archwiliad mewn labordy, pan ganfyddir bod yr organeb M. bovis yn bresennol mewn sampl a gymerwyd o unrhyw famal (heblaw dyn) neu o garcas, cynhyrchion neu amgylchoedd unrhyw famal o'r fath, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y labordy hwnnw hysbysu'r Asiantaeth Labordai Milfeddygol ar unwaith.

(2Fodd bynnag, nid oes dyletswydd hysbysu o'r fath os yw'r M. bovis yn bresennol yn y sampl oherwydd ei osod yno'n fwriadol, yn rhan o waith ymchwil sy'n defnyddio'r organeb honno.

Darpariaethau cyffredinol ynglŷn â hysbysiadau, trwyddedau a chymeradwyaethau

23.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir neu a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig.

(2Caiff unrhyw drwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn gyffredinol neu'n benodol, a cheir ei gwneud yn ddarostyngedig i amodau.

(3Ceir rhoi unrhyw gymeradwyaeth a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i amodau.

(4Ceir diwygio, atal dros dro neu ddirymu unrhyw hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir neu a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn mewn ysgrifen ar unrhyw adeg.

(5Rhaid i unrhyw berson, y mae unrhyw ofyniad neu amod mewn hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir neu a ganiateir o dan y Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, gydymffurfio â'r gofyniad neu'r amod hwnnw.

Dangos trwyddedau

24.  Pan symudir anifail buchol o dan awdurdod trwydded (ac eithrio trwydded gyffredinol) a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am yr anifail a symudir, pan ofynnir hynny gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn, roi ei enw a'i gyfeiriad, a rhaid iddo ddangos y drwydded a chaniatáu gwneud copi ohoni.

Gorfodi

25.—(1Rhaid gorfodi'r Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag achos penodol neu ddosbarth penodol o achosion, mai hwy fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn yn hytrach na'r awdurdod lleol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill