- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Mae'n gyfreithlon i unrhyw berson y mae ganddo yn union cyn y diwrnod penodedig cyntaf drwydded Deddf 2003 o ran unrhyw fangre ac sy'n defnyddio'r fangre fel lleoliad adloniant rhywiol o dan drwydded Deddf 2003, neu sy'n gwneud gwaith paratoi i ddefnyddio'r fangre fel lleoliad o'r fath o dan y drwydded honno, ddefnyddio'r fangre fel lleoliad adloniant rhywiol o dan drwydded Deddf 2003 tan y trydydd diwrnod penodedig, neu benderfynu cais y mae erthygl 6 neu 7 yn gymwys iddo ac sy'n cael ei wneud gan y person hwnnw (gan gynnwys penderfynu unrhyw apêl yn erbyn gwrthod caniatáu'r cais), p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(2) Ym mharagraff (1) ystyr “trwydded Deddf 2003”, o ran unrhyw fangre, yw trwydded i fangre neu dystysgrif mangre clwb y mae'n gyfreithlon darparu odani adloniant perthnasol yn y fangre honno.
(3) Mae paragraff (1) yn gymwys er gwaethaf Atodlen 3 i Ddeddf 1982 (ac o'r herwydd nid yw unrhyw ddefnydd a awdurdodir gan y paragraff hwnnw yn groes i baragraff 6 o'r Atodlen honno) ond fel arall nid yw'n rhagfarnu unrhyw ddeddfiad arall.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys