xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw lefelau sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, bensen, carbon monocsid, plwm, PM10 a PM2·5 yn uwch mewn unrhyw barth na'r gwerthoedd terfyn a osodir yn Atodlen 1.
(2) Os yw'r dyddiad ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid yn cael ei ohirio mewn unrhyw barth yn unol â rheoliad 15(2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw lefel nitrogen deuocsid yn y parth hwnnw'n uwch o fwy na 50% na'r gwerth terfyn ar gyfer y llygrydd hwnnw a osodir yn Atodlen 1.
(3) Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) yn is na'r gwerth terfyn a osodir yn Atodlen 1 ar gyfer y llygrydd hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod lefel y llygrydd hwnnw'n cael ei gadw'n is na'r gwerth terfyn a rhaid iddynt ymdrechu i gynnal ar gyfer ansawdd aer amgylchynol y safon orau sy'n cydweddu â datblygu cynaliadwy.
(4) Os hysbyswyd y Comisiwn, yn unol ag Erthygl 20 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC, fod mynd yn uwch nag unrhyw werth terfyn a grybwyllir ym mharagraff (1) i'w briodoli i ffynonellau naturiol, nid yw'r gormodiant hwnnw i'w ystyried yn ormodiant at ddibenion y Rheoliadau hyn.
14.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cam angenrheidiol nad yw'n arwain at gostau anghymesur yn cael ei gymryd i sicrhau nad yw lefelau PM2·5, osôn, arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren yn uwch mewn unrhyw barth na'r gwerthoedd targed yn Atodlen 2.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio rhestr o'r holl barthau lle y mae lefelau arsenig, cadmiwm, nicel neu benso(a)pyren yn is na'r gwerthoedd targed a osodir yn Atodlen 2 ar gyfer y llygryddion hynny.
(3) Mewn perthynas â pharthau a restrir o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod lefel unrhyw lygrydd sy'n is na gwerth targed y llygrydd yn cael ei gadw'n is na'r gwerth targed hwnnw a rhaid iddynt ymdrechu i gynnal ar gyfer ansawdd aer amgylchynol y safon orau sy'n cydweddu â datblygu cynaliadwy.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio rhestr o'r holl barthau lle y mae lefelau arsenig, cadmiwm, nicel neu benso(a)pyren yn uwch na'r gwerthoedd targed ar eu cyfer.
(5) Mewn perthynas â pharthau a restrir o dan baragraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)nodi'r ardaloedd lle y mae lefelau'n uwch na'r gwerthoedd targed a'r ffynonellau sy'n cyfrannu at y gormodiannau hynny, a
(b)sicrhau bod y camau a gymerir yn unol â pharagraff (1) yn cael eu cyfeirio at y prif ffynonellau allyriad sydd wedi eu nodi a bod y camau hynny'n cymhwyso, os ydynt yn berthnasol, y technegau gorau sydd ar gael yn unol â Chyfarwyddeb 2008/1/EC(1).
(6) Mewn parthau lle y mae lefel yr osôn yn uwch na'r gwerth targed a osodir yn Atodlen 2 ar gyfer y llygrydd hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y rhaglen a baratowyd yn unol ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2001/81/EC yn cael ei gweithredu i gyrraedd y gwerth targed, oni bai mai dim ond drwy gamau a fyddai'n arwain at gostau anghymesur y gellir cyrraedd y gwerth hwn.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “Cyfarwyddeb 2001/81/EC” (“Directive 2001/81/EC”) yw Cyfarwyddeb 2001/81/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar derfyn uchaf allyriadau cenedlaethol ar gyfer llygryddion atmosfferig penodol(2); ac
ystyr “Cyfarwyddeb 2008/1/EC” (“Directive 2008/1/EC”) yw Cyfarwyddeb 2008/1/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddulliau integredig o atal a rheoli llygredd.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), o ran gwerthoedd terfyn a gwerthoedd targed—
(a)maent yn gymwys o'r dyddiad a bennir ar gyfer pob gwerth terfyn neu werth targed sydd dan sylw yn Atodlenni 1 neu 2, neu
(b)maent yn gymwys pan fydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym, os na phennir dyddiad yn yr Atodlenni hynny.
(2) Os hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd, yn unol ag Erthygl 22 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC, na ellir sicrhau cydymffurfedd â gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid, yn Atodlen 1 erbyn y dyddiad a bennir ym mharagraff (1) mewn parth neilltuol, caniateir gohirio dyddiad cyrraedd y gwerthoedd terfyn hynny yn y parth hwnnw am hyd at bum mlynedd ar y mwyaf, ar yr amod—
(a)bod Gweinidogion Cymru wedi paratoi cynllun ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid yn y parth y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn unol â rheoliad 20, ynghyd â'r wybodaeth a restrir yn Adran B o Atodiad XV i'r Gyfarwyddeb honno, a'u bod wedi dangos y sicrheir cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn ar gyfer y llygrydd hwnnw yn y parth hwnnw cyn y dyddiad erbyn pryd y gohiriwyd cymhwyso'r gwerthoedd terfyn hynny, a
(b)nad yw'r Comisiwn wedi codi unrhyw wrthwynebiadau o dan Erthygl 22 o'r Gyfarwyddeb honno i ohirio cymhwyso'r gwerthoedd terfyn hynny tan y dyddiad hwyrach hwnnw.
16.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod pob cam angenrheidiol nad yw'n arwain at gostau anghymesur yn cael ei gymryd i gyflawni'r amcanion hirdymor ar gyfer osôn a osodir yn Atodlen 3 ym mhob parth.
(2) Rhaid i gamau a gymerir yn unol â pharagraff (1) fod yn gyson â'r rhaglen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) o reoliad 14 a'r cynlluniau ansawdd aer a baratowyd yn unol â rheoliad 20.
(3) Mewn parthau lle y mae amcanion hirdymor ar gyfer osôn wedi eu cyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru, i'r graddau y mae ffactorau sy'n cynnwys cyflyrau meteorolegol a natur drawsffiniol llygredd osôn yn caniatáu—
(a)sicrhau eu bod yn dal i gael eu cyflawni,
(b)cynnal ar gyfer ansawdd aer amgylchynol y safon orau sy'n cydweddu â datblygu cynaliadwy, ac
(c)cynnal safon uchel o ran diogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl.
17. Os croesir unrhyw un neu ragor o'r trothwyon gwybodaeth neu rybuddio a osodir yn Atodlen 4 mewn unrhyw barth, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cyhoedd drwy gyfrwng y radio, y teledu, y papurau newydd neu'r rhyngrwyd.
18. Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw'r lefelau'n uwch mewn unrhyw barth na'r lefelau critigol a osodir yn Atodlen 5.
OJ Rhif L 24, 24.1.08, t.8, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2009/31/EC (OJ Rhif L 140, 5.6.09, t.114).
OJ Rhif L 309, 27.11.09, t.22, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009 (OJ Rhif L 87, 31.3.09, t.109).