- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
23.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y canlynol ar gael i'r cyhoedd ac i sefydliadau priodol a chanddynt fuddiant—
(a)map yn nodi'r parthau a sefydlwyd o dan reoliad 4;
(b)gwybodaeth gyfredol, a roddir yn ddyddiol o leiaf, ac unwaith yr awr os yn bosibl, ar lefelau sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, PM10, osôn, carbon monocsid ac, os yn bosibl, PM2·5;
(c)gwybodaeth gyfredol ar lefelau bensen a phlwm, wedi ei chyflwyno ar ffurf cyfartaledd dros y deuddeng mis diwethaf, ac wedi ei diweddaru bob tri mis neu bob mis os yn bosibl;
(ch)gwybodaeth gyfredol o ran gohirio unrhyw ddyddiad erbyn pryd y mae gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid i'w cyrraedd yn unol â pharagraff (2) o reoliad 15;
(d)gwybodaeth gyfredol am achosion pan fo lefelau sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, bensen, plwm, PM10, PM2·5, carbon monocsid ac osôn yn uwch na'r gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, neu'r amcanion hirdymor ar eu cyfer a osodir yn Atodlenni 1 i 3, ynghyd â'r rhesymau dros y cyfryw achosion a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd;
(dd)gwybodaeth gyfredol am achosion pan fo trothwyon rhybuddio neu wybodaeth sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac osôn a osodir yn Atodlen 4 wedi eu croesi mewn gwirionedd, neu pan ragfynegir y cânt eu croesi, ynghyd â'r rhesymau dros y cyfryw achosion a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar iechyd;
(e)gwybodaeth gyfredol am achosion lle y mae lefelau ocsidau nitrogen a sylffwr deuocsid yn uwch na'r gwerthoedd critigol ar eu cyfer a osodir yn Atodlen 5, ynghyd â'r rhesymau dros y cyfryw achosion a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar yr amgylchedd;
(f)gwybodaeth gyfredol am grynodiadau o arsenig, cadmiwm, nicel, mercwri, benso(a)pyren a hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill ac am gyfraddau llwyr ddyddodiad yr uchod;
(ff)gwybodaeth gyfredol am achosion pan fo lefelau arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren yn uwch na'r gwerthoedd targed ar eu cyfer, ynghyd â rhesymau dros y cyfryw achosion, pa ardal sydd dan sylw, a gwybodaeth briodol ynghylch effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd;
(g)gwybodaeth am y camau a gymerwyd i gyrraedd y gwerthoedd targed ar gyfer arsenig, cadmiwm, nicel a benso(a)pyren;
(ng)cynlluniau ansawdd aer; a
(h)cynlluniau gweithredu cyfnod byr, ynghyd â chanlyniadau ymchwiliadau Gweinidogion Cymru i ddichonoldeb a chynnwys y cynlluniau hynny, a gwybodaeth am roi'r cynlluniau ar waith.
(2) Rhaid sicrhau bod yr wybodaeth ym mharagraff (1)(dd) ar gael yn unol ag Atodlen 7.
(3) Rhaid i wybodaeth gael ei dosbarthu'n ddi-dâl ac mewn dull clir a dealladwy drwy unrhyw gyfrwng y mae'n hawdd cael mynediad ato gan gynnwys y rhyngrwyd neu ddulliau telathrebu priodol eraill a chadw mewn cof ofynion Cyfarwyddeb 2007/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sefydlu seilwaith ar gyfer gwybodaeth ofodol yn y Gymuned Ewropeaidd(1).
(4) At ddibenion y Rhan hon, mae “cyrff a chanddynt fuddiant” yn cynnwys, yn benodol, cyrff amgylcheddol, cyrff defnyddwyr, cyrff sy'n cynrychioli poblogaethau sensitif, cyrff gofal iechyd perthnasol a ffederasiynau diwydiannol.
OJ Rhif L 108, 25.4.07, t.1.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys