- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
6.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru asesu lefel y sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, PM10, PM2·5, plwm, bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol ym mhob parth yn unol â pharagraffau (2) i (4) a'r meini prawf a osodir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.
(2) Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi croesi'r trothwy asesu uwch ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 5, rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw, ond caniateir ychwanegu at y mesuriadau drwy wneud mesuriadau dangosol neu drwy fodelu neu'r naill ddull a'r llall er mwyn darparu digon o wybodaeth ar ddosbarthiad gofodol ansawdd aer amgylchynol.
(3) Mewn parthau lle y mae lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) yn cyfateb i'r trothwy asesu uwch neu'r trothwy asesu is ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 neu'n dod rhwng y trothwyon hynny, rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw, ond caniateir cyfuno hynny â gwneud mesuriadau dangosol neu â modelu neu â'r naill ddull a'r llall.
(4) Mewn parthau lle nad yw lefel unrhyw lygrydd a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi cyrraedd y trothwy asesu is ar gyfer y llygrydd hwnnw y cyfeirir ato yn rheoliad 5, caniateir defnyddio techneg modelu neu dechneg amcangyfrif gwrthrychol neu'r naill a'r llall yn lle mesuriad mewn perthynas â'r llygrydd hwnnw.
(5) Os ychwanegir at fesuriadau sefydlog gan fodelu neu fesuriadau dangosol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ganlyniadau'r dulliau ychwanegol hynny pan fyddant yn gwneud yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(6) Yn ychwanegol at yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru fesur PM2·5 mewn lleoliadau cefndir gwledig sydd i ffwrdd oddi wrth ffynonellau sylweddol o lygredd aer, er mwyn darparu gwybodaeth ar sail cyfartaledd blynyddol am gyfanswm crynodiad màs a chrynodiadau ffurfiant rhywogaethau cemegol o'r llygrydd hwnnw.
(7) At ddibenion paragraff (6), rhaid mesur yn unol â'r meini prawf a osodir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2008/50/EC a rhaid eu cydgysylltu â strategaeth fonitro a rhaglen fesur y Rhaglen Gydweithredol ar gyfer Monitro a Gwerthuso Trosglwyddiad Hirbell Llygryddion Aer yn Ewrop (EMEP), pan fo hynny'n briodol.
(8) Rhaid cymhwyso'r amcanion a'r gofynion ansawdd data a osodir yn Adrannau A ac C o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/50/EC wrth gyflawni'r asesiad a'r mesuriad y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (6).
(9) Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (10), rhaid gwneud mesuriadau o dan y rheoliad hwn yn unol â'r dulliau mesur sy'n ddulliau cyfeirio ac a bennir yn Adran A ac Adran C o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.
(10) Caniateir defnyddio dulliau amgen i'r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) ar yr amod y cydymffurfir â'r amodau a osodir yn Adran B o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 2008/50/EC.
(11) Yn y rheoliad hwn, ystyr “crynodiadau ffurfiant rhywogaethau cemegol” (“chemical speciation concentrations”) yw crynodiadau o gydrannau neu rywogaethau cemegol gwahanol o PM2·5.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys