- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliadau 13, 15, 20(1), (2), (4) a (5), 21(5), 23(1) a 24(2)
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn |
---|---|
Un awr | 350 μg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef fwy na 24 o weithiau mewn blwyddyn galendr |
Un diwrnod | 125 μg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn blwyddyn galendr |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn |
---|---|
Un awr na 18 o weithiau mewn blwyddyn galendr | 200 μg/m 3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef fwy |
Blwyddyn galendr | 40 μg/m3 |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn |
---|---|
Blwyddyn galendr | 5 μg/m3 |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn |
---|---|
Y cymedr wyth awr dyddiol uchaf(1) | 10 mg/m3 |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn |
---|---|
Blwyddyn galendr | 0.5 μg/m3 |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn |
---|---|
Un diwrnod na 35 o weithiau mewn blwyddyn galendr | 50 μg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef fwy |
Blwyddyn galendr | 40 μg/m3 |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth terfyn | Y ffin goddefiant | Y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn |
---|---|---|---|
Blwyddyn galendr | 25 μg/m3 | 20% ar 11 Mehefin 2008, ac yn lleihau o ganrannau blynyddol hafal ar 1 Ionawr sy'n dilyn a phob 12 mis ar ôl hynny er mwyn cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 2015 | 1 Ionawr 2015 |
Rheoliadau 14, 20(1) a (3), 21(5), 23(1) a 24(2)
Llygrydd | Gwerth targed ar gyfer y cyfanswm cynnwys yn y ffracsiwn PM10 ar gyfartaledd dros flwyddyn galendr | Y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn |
---|---|---|
Arsenig | 6 ng/m3 | 31 Rhagfyr 2012 |
Cadmiwm | 5 ng/m3 | 31 Rhagfyr 2012 |
Nicel | 20 ng/m3 | 31 Rhagfyr 2012 |
Benso(a)pyren | 1 ng/m3 | 31 Rhagfyr 2012 |
Amcan | Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth targed |
---|---|---|
Diogelu iechyd pobl | Y cymedr wyth awr dyddiol uchaf(2) | 120 μg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef ar fwy na 25 o ddiwrnodau fesul blwyddyn galendr ar gyfartaledd dros dair blynedd(3) |
Diogelu llystyfiant | Mai i Orffennaf | AOT 40 (a gyfrifwyd o werthoedd 1 awr) ) 18,000 μg/m3. awr ar gyfartaledd dros bum mlynedd(3) |
Cyfnod cyfartaleddu | Gwerth targed |
---|---|
Blwyddyn galendr | 25 μg/m3 |
Rheoliadau 8(2), 16, 23(1), 24(2)
Amcan | Cyfnod cyfartaleddu | Amcan hirdymor | Y dyddiad erbyn pryd y dylid gwireddu amcan hirdymor |
---|---|---|---|
Diogelu iechyd pobl | Y cymedr wyth awr dyddiol uchaf o fewn blwyddyn galendr | 120 μg/m3 | Nis diffinnir |
Diogelu llystyfiant | Mai i Orffennaf | AOT 40 (a gyfrifwyd o werthoedd 1 awr) 6000 μg/m3. awr | Nis diffinnir |
Rheoliadau 17, 21(1) a (3), 23(1) a 24(2)
Llygrydd | Trothwy rhybuddio(4) |
---|---|
Sylffwr deuocsid | 500 μg/m3 |
Nitrogen deuocsid | 400 μg/m3 |
Diben | Cyfnod cyfartaleddu | Trothwy |
---|---|---|
Gwybodaeth | 1 awr | 180 μg/m3 |
Rhybuddio | 1 awr | 240 μg/m3 |
Rheoliadau 18 a 23(1)
Cyfnod cyfartaleddu | Lefel gritigol |
---|---|
Blwyddyn galendr a'r gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth) | 20 μg/m3 |
Cyfnod cyfartaleddu | Lefel gritigol |
---|---|
Blwyddyn galendr | 30 μg/m3 NOx |
Rheoliad 20(6)
1. Lleoliad gormodiant o lygredd—
(a)rhanbarth;
(b)dinas (map); ac
(c)gorsaf fesur (map, cyfesurynnau daearyddol).
2. Gwybodaeth gyffredinol—
(a)math o barth (dinas, ardal ddiwydiannol neu ardal wledig)
(b)amcangyfrif o'r ardal lygredig (km2) a'r boblogaeth sy'n dod i gysylltiad â'r llygredd;
(c)data defnyddiol am yr hinsawdd;
(ch)data perthnasol am dopograffi; a
(d)gwybodaeth ddigonol am y math o dargedau y mae'n ofynnol eu diogelu yn y parth.
3. Awdurdodau cyfrifol (enwau a chyfeiriadau personau sy'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu cynlluniau ansawdd aer).
4. Natur y llygredd ac asesiad ohono—
(a)crynodiadau y sylwyd arnynt yn ystod blynyddoedd blaenorol (cyn gweithredu'r camau gwella);
(b)crynodiadau a fesurwyd ers dechrau'r prosiect; ac
(c)technegau a ddefnyddiwyd ar gyfer asesu.
5. Tarddiad llygredd—
(a)rhestr o brif ffynonellau'r allyriad sy'n gyfrifol am y llygredd (map);
(b)cyfanswm yr allyriadau o'r ffynonellau hyn (tunelli'r flwyddyn); ac
(c)gwybodaeth am lygredd a fewnforiwyd o ranbarthau eraill.
6. Dadansoddi'r sefyllfa—
(a)manylion y ffactorau hynny sy'n gyfrifol am lefelau uwch na'r gwerth terfyn neu'r gwerth targed; a
(b)manylion y camau posibl ar gyfer gwella ansawdd aer.
7. Manylion y camau neu'r prosiectau hynny ar gyfer gwella a oedd yn bodoli cyn 11 Mehefin 2008—
(a)camau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol; a
(b)effeithiau'r camau y sylwyd arnynt.
8. Manylion y camau neu'r prosiectau hynny a fabwysiadwyd gyda'r bwriad o ostwng llygredd ar ôl 11 Mehefin 2008—
(a)rhestr a disgrifiad o'r holl gamau a nodwyd yn y prosiect;
(b)amserlen ar gyfer gweithredu; ac
(c)amcangyfrif o'r cynllun arfaethedig i wella ansawdd aer a'r amser y disgwylir y bydd ei angen i gyflawni'r amcanion hyn.
9. Manylion y camau neu'r prosiectau sydd yn yr arfaeth neu yr ymchwilir iddynt ar gyfer yr hirdymor.
10. Rhestr o'r cyhoeddiadau, y dogfennau a'r gwaith etc. a ddefnyddir i ychwanegu at yr wybodaeth sy'n ofynnol gan yr Atodlen hon.
Rheoliad 23(2)
1. Mewn achosion pan groesir naill ai'r trothwyon gwybodaeth neu rybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid neu osôn yn Atodlen 4, rhaid sicrhau bod y manylion a geir ym mharagraffau 3 i 6, o leiaf, ar gael i'r cyhoedd.
2. Mewn achosion pan ragfynegir y bydd y trothwyon gwybodaeth neu rybuddio ar gyfer un o'r llygryddion hynny yn Atodlen 4 yn cael eu croesi, rhaid darparu'r wybodaeth a geir ym mharagraffau 3 i 6, pan fo hynny'n ymarferol, fel pe bai cyfeiriadau at ormodiannau yn y paragraffau hynny'n gyfeiriadau at ormodiannau a ragfynegir.
3. Gwybodaeth ynghylch unrhyw achos lle y mae'r trothwyon gwybodaeth neu rybuddio wedi eu croesi—
(a)y lleoliad neu'r ardal lle y mae'r trothwyon wedi eu croesi;
(b)y math o drothwy sydd wedi ei groesi (trothwy gwybodaeth neu rybuddio);
(c)faint o'r gloch y cafodd y trothwy ei groesi ac am faint o amser y parodd y digwyddiad; ac
(ch)yn achos osôn, y crynodiad un awr ac wyth awr uchaf.
4. Y rhagolygon ar gyfer y prynhawn, y diwrnod a'r diwrnodau canlynol—
(a)yr ardal ddaearyddol lle y disgwylir y bydd trothwy gwybodaeth neu rybuddio yn cael ei groesi; a
(b)y newid a ddisgwylir o ran llygredd, hynny yw, gwelliant, sefydlogiad neu ddirywiad, a'r rhesymau dros y newid hwnnw.
5. Gwybodaeth am y math ar boblogaeth sydd dan sylw, effeithiau posibl ar iechyd a'r ymddygiad a argymhellir, yn arbennig—
(a)gwybodaeth am y grwpiau o'r boblogaeth sydd mewn perygl;
(b)disgrifiad o symptomau tebygol;
(c)rhagofalon yr argymhellir i'r boblogaeth dan sylw eu cymryd; ac
(ch)ymhle i gael rhagor o wybodaeth.
6. Gwybodaeth am y materion ychwanegol canlynol—
(a)gwybodaeth am gamau ataliol i ostwng llygredd neu i leihau'r cysylltiad ag ef;
(b)arwydd o'r prif sectorau ffynhonnell; ac
(c)argymhellion ar gyfer gweithredu i ostwng allyriadau.
Rhaid dewis y crynodiad cymedrig wyth awr dyddiol uchaf o garbon monocsid drwy archwilio'r cyfartaleddau cyfredol wyth awr, wedi eu cyfrifo ar sail data fesul awr ac wedi eu diweddaru bob awr. Rhaid neilltuo pob cyfartaledd wyth awr a gyfrifir felly i'r diwrnod pryd y daw i ben, hynny yw, bydd y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw un diwrnod yn ymestyn o 17:00 ar y diwrnod blaenorol hyd 01:00 ar y diwrnod hwnnw, a'r cyfnod cyfrifo diwethaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod rhwng 16:00 a 24:00 ar y diwrnod hwnnw.
Rhaid dewis y crynodiad cymedrig wyth awr dyddiol uchaf drwy archwilio'r cyfartaleddau cyfredol wyth awr, wedi eu cyfrifo ar sail data fesul awr ac wedi eu diweddaru bob awr. Rhaid neilltuo pob cyfartaledd wyth awr a gyfrifir felly i'r diwrnod pryd y daw i ben, hynny yw, bydd y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw un diwrnod yn ymestyn o 17:00 ar y diwrnod blaenorol hyd 01:00 ar y diwrnod hwnnw, a'r cyfnod cyfrifo diwethaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod rhwng 16:00 a 24:00 ar y diwrnod hwnnw.
Os na ellir canfod y cyfartaleddau tair blynedd neu bum mlynedd ar sail set lawn ac olynol o ddata blynyddol, bydd yr isafswm data blynyddol sy'n ofynnol ar gyfer gwirio cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed yn ddata dilys am flwyddyn mewn perthynas â gwerth targed ar gyfer diogelu iechyd pobl ac yn ddata dilys am dair blynedd mewn perthynas â gwerth targed ar gyfer diogelu llystyfiant.
I'w fesur dros dair awr olynol mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd aer dros 100 km2 o leiaf neu dros barth cyfan, pa un bynnag yw'r lleiaf.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys