xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 18 Mehefin 2010.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae “adeiladu” (“construct”) yn cynnwys gosod;
ystyr “Asiantaeth yr Amgylchedd” (“Environment Agency”) yw'r asiantaeth a sefydlwyd o dan Bennod I o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1);
ystyr “da byw” (“livestock”) yw—
anifeiliaid sy'n cael eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd neu wlân, neu
adar sy'n cael eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd;
ystyr “elifiant silwair” (“silage effluent”) yw elifiant o silwair;
ystyr “olew tanwydd” (“fuel oil”) yw olew a fwriedir i'w ddefnyddio fel tanwydd i gynhyrchu gwres neu bŵer ond nid yw'n cynnwys olew a fwriedir i'w ddefnyddio yn unig fel tanwydd i gynhesu tŷ fferm neu fangreoedd preswyl eraill ar fferm ac sy'n cael ei storio ar wahân i olew arall;
ystyr “pydew derbyn” (“reception pit”) yw pydew a ddefnyddir i gasglu slyri cyn ei drosglwyddo i danc storio slyri neu i gasglu slyri sy'n cael ei ollwng o danc o'r fath;
ystyr “seilo” (“silo”) yw adeiladwaith a ddefnyddir i wneud neu i storio silwair;
mae “silwair” (“silage”) yn cynnwys cnwd sy'n cael ei wneud yn silwair;
ystyr “slyri” (“slurry”) yw mater hylifol neu led hylifol a'i gynnwys yw—
tail a gynhyrchir gan dda byw tra maent ar fuarth neu mewn adeilad (gan gynnwys da sy'n cael eu cadw mewn corlannau sglodion coed); neu
cymysgedd sy'n cynnwys yn gyfan gwbl neu'n bennaf dail da byw, gwasarn da byw, dŵr glaw a golchion o adeilad neu fuarth a ddefnyddir gan dda byw,
ac o ddwyster sy'n caniatáu iddo gael ei bwmpio neu ei ollwng drwy ddisgyrchiant ar unrhyw gymal yn y broses o'i drin;
mae “tanc storio slyri” (“slurry storage tank”) yn cynnwys lagŵn, pydew (ac eithrio pydew derbyn) neu dŵr sy'n cael ei ddefnyddio i storio slyri.
(2) Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at system storio slyri yn cynnwys tanc storio slyri ac—
(a)unrhyw bydew derbyn ac unrhyw danc elifiant sy'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r tanc; a
(b)unrhyw sianelau a phibellau sy'n cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r tanc, ag unrhyw bydew derbyn neu unrhyw danc elifiant.
(3) Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn i seilo neu danc storio slyri gydymffurfio â Safon Brydeinig (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) os yw'r seilo neu'r tanc yn cydymffurfio â safon neu â manyleb sy'n darparu lefel gyfatebol o warchodaeth a pherfformiad ac sy'n cael ei chydnabod i'w defnyddio mewn Aelod-wladwriaeth, yn Ynys yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu Dwrci.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sydd â silwair sy'n cael ei wneud neu ei storio dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau—
(a)bod y silwair yn cael ei gadw mewn seilo sy'n bodloni gofynion Atodlen 1; neu
(b)fod y silwair yn cael ei gywasgu i fyrnau—
(i)sydd wedi'u lapio a'u selio mewn pilennau anhydraidd, neu wedi'u cau mewn bagiau anhydraidd; a
(ii)sydd wedi'u storio o leiaf 10 o fetrau oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant sy'n dianc o'r byrnau fynd i mewn iddynt; neu
(c)os mai cnwd yw'r silwair sy'n cael ei wneud yn silwair maes (hynny yw, silwair sy'n cael ei wneud ar dir agored drwy ddull gwahanol i'r dull byrnau y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)), neu os mai silwair sy'n cael ei storio ar dir agored ydyw—
(i)bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael ei hysbysu o'r man lle bydd y silwair yn cael ei wneud neu ei storio o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn defnyddio'r fan honno at y pwrpas hwnnw am y tro cyntaf; a
(ii)bod y fan honno o leiaf 10 o fetrau oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol, ac o leiaf 50 o fetrau oddi wrth y lle agosaf y tynnir dŵr perthnasol o unrhyw ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt petai'n dianc.
(2) At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), mae ffynhonnell cyflenwi dŵr yn ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig—
(a)os oes unrhyw dynnu dŵr perthnasol o'r ffynhonnell wedi'i drwyddedu o dan Ran II o'r Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991; neu
(b)os yw'r person sy'n gwneud neu'n storio'r silwair yn ymwybodol o leoliad y ffynhonnell—
(i)cyn dechrau ar wneud y silwair; neu
(ii)os gwnaed y silwair mewn man arall, cyn ei storio ar y tir dan sylw.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i silwair tra'i fod yn cael ei storio dros dro mewn cynhwysydd, ôl-gerbyd neu gerbyd mewn cysylltiad â'i gludo o gwmpas y fferm neu fan arall.
(4) Rhaid i berson sydd â bwrn silwair dan ei ofal neu ei reolaeth beidio ag agor na symud ymaith yr hyn sy'n lapio'r bwrn o fewn 10 o fedrau i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair, o ganlyniad, fynd i mewn iddynt.
(5) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “tynnu dŵr perthnasol” yw tynnu dŵr ar gyfer ei ddefnyddio—
(i)i'w yfed gan bobl; neu
(ii)at ddibenion domestig (o fewn yr ystyr a roddir i “domestic purposes” gan adran 218 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(2)) heblaw at ei yfed gan bobl; neu
(iii)i weithgynhyrchu bwyd neu ddiod i'w fwyta neu i'w yfed gan bobl; a
(b)ystyr “ffynhonnell cyflenwi dŵr” yw dyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd daear y tynnir dŵr perthnasol ohono neu y trwyddedir tynnu dŵr perthnasol ohono.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i berson sydd â slyri dan ei ofal neu ei reolaeth ei storio mewn system storio slyri sy'n bodloni gofynion Atodlen 2, a system felly'n unig.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i slyri tra bo'n cael ei storio dros dro mewn tancer sy'n cael ei ddefnyddio i gludo slyri ar ffyrdd neu o gwmpas fferm.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i berson sydd ag olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth ar fferm sicrhau ei fod yn cael ei storio—
(a)mewn tanc storio tanwydd o fewn man neu gyfleustra storio sy'n bodloni gofynion Atodlen 3;
(b)mewn drymiau o fewn man storio o'r fath; neu
(c)mewn tanc storio tanwydd tanddaearol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a)i storio olew tanwydd dros dro mewn tancer sy'n cael ei ddefnyddio i gludo olew tanwydd ar ffyrdd neu o gwmpas fferm; neu
(b)pan nad yw'r cyfanswm o olew tanwydd sy'n cael ei storio dros dro ar y fferm yn fwy na 1,500 o litrau.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i seilo, system storio slyri na thanc storio tanwydd—
(a)a ddefnyddid, cyn 1 Mawrth 1991, at y diben o wneud silwair, storio slyri neu storio olew tanwydd, yn ôl y digwydd;
(b)onis defnyddid cyn 1 Mawrth 1991 at y diben hwnnw, a adeiladwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer y defnydd hwnnw; neu
(c)mewn perthynas â pha un—
(i)y gwnaed contract cyn 1 Mawrth 1991 i'w adeiladu, ei ehangu'n sylweddol neu ei ailadeiladu'n sylweddol, neu
(ii)y cychwynnwyd ar waith o'r fath cyn y dyddiad hwnnw, ac
yn y naill achos a'r llall fod y gwaith wedi'i gwblhau cyn 1 Medi 1991.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i seilo, system storio slyri neu danc storio tanwydd sy'n bodloni gofynion paragraff (1) os na chydymffurfir ag unrhyw ofyniad mewn hysbysiad o dan reoliad 7 o fewn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (2) at y cyfnod a nodir mewn hysbysiad yn gyfeiriad at y cyfnod hwnnw fel y'i hestynnwyd os cafodd ei estyn o dan reoliad 7(6)(b) neu yn rhinwedd rheoliad 8(6) ac mae unrhyw gyfeiriad yn y paragraffau hynny at ofyniad mewn hysbysiad yn gyfeiriad at y gofyniad hwnnw fel y'i haddaswyd os cafodd ei addasu o dan reoliad 7(6).
7.—(1) Caiff Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn amgylchiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 7”) i berson sydd â silwair, slyri, neu olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth, neu sydd yn gyfrifol am y seilo, y system storio slyri neu'r tanc storio olew tanwydd, yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw wneud gwaith, neu gymryd rhagofalon neu gamau eraill, a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i'r gwaith, y rhagofalon neu'r camau eraill fod, ym marn Asiantaeth yr Amgylchedd, yn briodol, o ystyried gofynion y Rheoliadau hyn, o gwtogi hyd yr eithaf, unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd sydd dan reolaeth.
(3) Rhaid i'r hysbysiad—
(a)pennu neu ddisgrifio'r gwaith, y rhagofalon neu'r camau eraill y mae'n ofynnol i'r person eu gwneud neu eu cymryd;
(b)datgan y cyfnod y mae'n rhaid cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath o'i fewn; ac
(c)hysbysu'r person o effaith rheoliad 8.
(4) Y cyfnod i gydymffurfio a nodir yn yr hysbysiad yw—
(a)28 niwrnod; neu
(b)unrhyw gyfnod hwy sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau.
(5) Rhaid i berson y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 7 gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw.
(6) Caiff Asiantaeth yr Amgylchedd ar unrhyw adeg (gan gynnwys adeg ar ôl i'r cyfnod i gydymffurfio ddod i ben)—
(a)tynnu'r hysbysiad yn ei ôl;
(b)estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad; neu
(c)gyda chydsyniad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, addasu gofynion yr hysbysiad.
(7) Rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd dynnu'r hysbysiad yn ei ôl, estyn y cyfnod i gydymffurfio, neu addasu gofynion yr hysbysiad os cyfarwyddir hwy i wneud hynny gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8(5).
8.—(1) Caiff person y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 7, o fewn cyfnod o 28 niwrnod sy'n dechrau trannoeth y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir gan Weinidogion Cymru), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei gwneud drwy i'r apelydd gyflwyno hysbysiad i Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad o sail yr apêl neu fod gydag ef ddatganiad felly.
(4) Cyn penderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, os gofyn yr apelydd neu Asiantaeth yr Amgylchedd iddynt wneud hynny, roi cyfle i'r apelydd neu'r Asiantaeth ymddangos ger eu bron a chael gwrandawiad gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
(5) Wrth benderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Asiantaeth yr Amgylchedd—
(a)i dynnu'r hysbysiad rheoliad 7 yn ei ôl;
(b)i addasu unrhyw un neu ragor o'i ofynion;
(c)i estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad; neu
(ch)i wrthod yr apêl.
(6) Estynnir y cyfnod i gydymffurfio â hysbysiad rheoliad 7 y gwnaed apêl yn ei erbyn, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (5), fel ei fod yn dod i ben ar y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu'n derfynol ar yr apêl neu, os tynnir yr apêl yn ei hôl, ar ddyddiad ei thynnu'n ôl.
9. Rhaid i berson sydd yn bwriadu cael silwair, slyri neu olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth a hwnnw i gael ei gadw neu ei storio ar fferm mewn seilo, system storio slyri neu fan storio tanwydd a adeiladwyd, a ehangwyd yn sylweddol neu a ailadeiladwyd yn sylweddol ar y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu wedi hynny, roi i Asiantaeth yr Amgylchedd hysbysiad yn pennu'r math o strwythur sydd i'w ddefnyddio a'i leoliad o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn bod y strwythur i'w ddefnyddio at gadw neu storio felly.
10.—(1) Mae person sy'n mynd yn groes i reoliad 3(1), 3(4), 4(1), 5(1) neu 7(5) o'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol;
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Mae person sy'n mynd yn groes i reoliad 9 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.
11. Dirymir yr offerynnau statudol a ganlyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a)Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991(3);
(b)Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1997(4).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
26 Mai 2010