xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010, a deuant i rym–

(a)at ddibenion pob rheoliad ac eithrio rheoliad 4, ar 26 Gorffennaf 2010; a

(b)at ddibenion rheoliad 4, ar 1 Hydref 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn cleifion

2.—(1Rhaid i ymarferydd meddygol cofrestredig (R) hysbysu swyddog priodol(1) yr awdurdod lleol perthnasol pan fo sail resymol gan R dros amau, yn achos claf (P) a wasanaethir gan R—

(a)bod P yn dioddef o glefyd hysbysadwy;

(b)bod gan P haint(2) sydd, neu a allai, ym marn R, beri niwed arwyddocaol i iechyd dynol; neu

(c)bod P wedi ei halogi(3) mewn modd sydd, neu a allai, ym marn R, beri niwed arwyddocaol i iechyd dynol.

(2Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i'r graddau y mae'n hysbys i R—

(a)enw P, ei ddyddiad geni a'i ryw;

(b)cyfeiriad cartref P, gan gynnwys y cod post;

(c)preswylfa bresennol P (os yw'n wahanol i'w gyfeiriad gartref);

(ch)rhif teleffon P;

(d)rhif GIG P;

(dd)galwedigaeth P;

(e)enw, cyfeiriad a chod post gweithle P neu'r man lle y'i haddysgir (os yw R yn ystyried hynny'n berthnasol);

(f)hanes perthnasol teithiau tramor P;

(ff)ethnigrwydd P;

(g)manylion cyswllt rhiant P (os plentyn yw P);

(ng)y clefyd neu'r haint sydd gan P, neu'r amheuir sydd ganddo, neu natur ei halogiad, neu'r halogiad a amheuir;

(h)dyddiad cychwyn symptomau P;

(i)dyddiad y diagnosis gan R; ac

(j)enw, cyfeiriad a rhif teleffon R.

(3Rhaid darparu'r hysbysiad mewn ysgrifen, o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod pan fo R yn ffurfio amheuaeth o dan baragraff (1).

(4Heb ragfarnu paragraff (3), os yw R o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid darparu hysbysiad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(5Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i R roi sylw i—

(a)natur y clefyd, haint neu halogiad a amheuir;

(b)rhwyddineb lledaenu'r clefyd, haint neu halogiad hwnnw;

(c)y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y clefyd, haint neu halogiad hwnnw; ac

(ch)amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).

(6Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys os yw R yn credu'n rhesymol bod swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol wedi ei hysbysu eisoes ynglŷn â P a'r clefyd, haint neu halogiad a amheuir, gan ymarferydd meddygol cofrestredig arall yn unol â'r rheoliad hwn.

(7Yn y rheoliad hwn—

Dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn personau meirw

3.—(1Rhaid i ymarferydd meddygol cofrestredig (R) hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol pan fo sail resymol gan R dros amau y bu farw person (P) a wasanaethid gan R, tra oedd P—

(a)wedi ei heintio â chlefyd hysbysadwy;

(b)wedi ei heintio â chlefyd sydd, ym marn R, yn peri, neu y gallai beri, neu a oedd yn peri, neu y gallai fod wedi peri (tra oedd P yn fyw), niwed arwyddocaol i iechyd dynol; neu

(c)wedi ei halogi mewn modd sydd, ym marn R, yn peri, neu y gallai beri, neu a oedd yn peri, neu y gallai fod wedi peri (tra oedd P yn fyw), niwed arwyddocaol i iechyd dynol.

(2Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i'r graddau y mae'n hysbys i R—

(a)enw P, ei ddyddiad geni a'i ryw;

(b)dyddiad marwolaeth P;

(c)cyfeiriad cartref P, gan gynnwys y cod post;

(ch)preswylfa P ar yr adeg y bu farw (os yw'n wahanol i gyfeiriad ei gartref);

(d)rhif GIG P;

(dd)galwedigaeth P ar yr adeg y bu farw (os yw R yn ystyried hynny'n berthnasol);

(e)enw, cyfeiriad a chod post gweithle P neu'r man lle y'i haddysgid ar yr adeg y bu farw (os yw R yn ystyried hynny'n berthnasol);

(f)hanes perthnasol teithiau tramor P;

(ff)ethnigrwydd P;

(g)y clefyd neu'r haint a oedd gan P, neu'r amheuir a oedd ganddo, neu natur ei halogiad, neu'r halogiad a amheuir;

(ng)dyddiad cychwyn symptomau P;

(h)dyddiad y diagnosis gan R; ac

(i)enw, cyfeiriad a rhif teleffon R.

(3Rhaid darparu'r hysbysiad mewn ysgrifen, o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod pan fo R yn ffurfio'i amheuaeth o dan baragraff (1).

(4Heb ragfarnu paragraff (3), os yw R o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid darparu hysbysiad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(5Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i R roi sylw i—

(a)natur y clefyd, haint neu halogiad a amheuir;

(b)rhwyddineb lledaenu'r clefyd, haint neu halogiad hwnnw;

(c)y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y clefyd, haint neu halogiad hwnnw; ac

(ch)amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).

(6Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys os yw R yn credu'n rhesymol bod swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol wedi ei hysbysu eisoes ynglŷn â P a'r clefyd, haint neu halogiad a amheuir, gan ymarferydd meddygol cofrestredig arall yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 2(1).

(7Yn y rheoliad hwn—

Dyletswydd i hysbysu ynghylch cyfryngau achosol a ganfyddir mewn samplau dynol

4.—(1Rhaid i weithredwr labordy diagnostig hysbysu swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol yn unol â'r rheoliad hwn pan fo labordy diagnostig yn canfod cyfrwng achosol mewn sampl ddynol.

(2Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i'r graddau y mae'n hysbys i weithredwr y labordy diagnostig—

(a)enw a chyfeiriad y labordy diagnostig;

(b)manylion y cyfrwng achosol a ganfuwyd;

(c)dyddiad y sampl;

(ch)natur y sampl;

(d)enw'r person (P) y cymerwyd y sampl ohono;

(dd)dyddiad geni a rhyw P;

(e)cyfeiriad cartref presennol P, gan gynnwys y cod post;

(f)preswylfa bresennol P (os yw'n wahanol i gyfeiriad ei gartref);

(ff)ethnigrwydd P;

(g)rhif GIG P; ac

(ng)enw, cyfeiriad a sefydliad y person a ofynnodd am gynnal y prawf a ganfu'r cyfrwng achosol.

(3Rhaid darparu'r hysbysiad mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y canfyddir y cyfrwng achosol.

(4Heb ragfarnu paragraff (3), os yw gweithredwr y labordy diagnostig o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid darparu hysbysiad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(5Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i weithredwr y labordy diagnostig roi sylw i–

(a)natur y cyfrwng achosol;

(b)natur y clefyd a achosir gan y cyfrwng achosol;

(c)rhwyddineb lledaenu'r cyfrwng achosol;

(ch)y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y cyfrwng achosol; a

(d)os ydynt yn hysbys, amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).

(6Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys os yw gweithredwr y labordy diagnostig yn credu'n rhesymol bod swyddog priodol yr awdurdod lleol perthnasol wedi ei hysbysu eisoes yn unol â'r rheoliad hwn gan weithredwr labordy diagnostig arall, ynghylch canfod yr un cyfrwng achosol mewn sampl a gymerwyd o'r un person.

(7At ddibenion paragraff (1), mae labordy diagnostig yn canfod cyfrwng achosol—

(a)pan fo'r labordy diagnostig hwnnw yn canfod y cyfrwng achosol; neu

(b)pan ganfyddir y cyfrwng achosol gan labordy arall, o dan drefniant a wnaed gyda'r labordy diagnostig hwnnw.

(8Pan fo paragraff (7)(b) yn gymwys, y diwrnod pan ganfyddir y cyfrwng achosol at ddibenion paragraff (3), yw'r diwrnod pan ddaw'r labordy diagnostig yn ymwybodol o ganfyddiad y labordy arall.

(9Mae gweithredwr labordy diagnostig sy'n methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn, heb esgus rhesymol, yn cyflawni tramgwydd.

(10Mae unrhyw berson sy'n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(11Yn y rheoliad hwn—

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i'r swyddog priodol

5.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hysbysiad wedi ei roi gan weithredwr labordy diagnostig i'r swyddog priodol o dan reoliad 4.

(2Caiff y swyddog priodol ofyn am i'r person (R), a ofynnodd am gynnal y prawf labordy a ganfu'r cyfrwng achosol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, ddarparu i'r swyddog priodol yr wybodaeth a restrir yn rheoliad 4(2), i'r graddau na chynhwyswyd yr wybodaeth honno yn yr hysbysiad.

(3Rhaid i R ddarparu'r wybodaeth y gofynnir amdani o dan baragraff (2) i'r graddau y mae'n hysbys i R.

(4Rhaid darparu'r wybodaeth mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y gwneir y cais.

(5Heb ragfarnu paragraff (4), os yw'r swyddog priodol o'r farn bod yr achos yn achos brys, ac yn hysbysu R o hynny wrth wneud y cais, rhaid darparu'r wybodaeth ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(6Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i'r swyddog priodol roi sylw i—

(a)natur y cyfrwng achosol y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

(b)natur y clefyd a achosir gan y cyfrwng achosol;

(c)rhwyddineb lledaenu'r cyfrwng achosol;

(ch)y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y cyfrwng achosol; a

(d)os ydynt yn hysbys, amgylchiadau'r person y cymerwyd y sampl ohono (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).

(7Yn y rheoliad hwn, mae i “cyfrwng achosol” (“causative agent”) yr un ystyr ag sydd iddo yn rheoliad 4(11).

Dyletswydd ar y swyddog priodol i ddatgelu hysbysiadau i eraill

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r swyddog priodol wedi cael hysbysiad o dan reoliad 2, 3 neu 4.

(2Rhaid i'r swyddog priodol ddatgelu'r ffaith iddo gael yr hysbysiad yn ogystal â chynnwys yr hysbysiad i'r canlynol—

(a)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(5);

(b)swyddog priodol yr awdurdod lleol y mae P fel arfer yn preswylio yn ei ardal (os yw'n wahanol); ac

(c)swyddog priodol yr awdurdod iechyd porthladd neu awdurdod lleol, y lleolir neu y lleolwyd yn ei ranbarth neu'i ardal unrhyw long, hofrenfad, awyren neu drên rhyngwladol y daeth P oddi arni neu oddi arno (os yw hynny'n hysbys i'r swyddog priodol sy'n datgelu ac os yw'r swyddog hwnnw'n tybio bod datgelu felly yn briodol).

(3Rhaid gwneud y datgeliad mewn ysgrifen o fewn cyfnod o 3 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y mae'r swyddog priodol yn cael yr hysbysiad.

(4Heb ragfarnu paragraff (3), os yw'r swyddog priodol sy'n datgelu o'r farn bod yr achos yn achos brys, rhaid gwneud datgeliad ar lafar cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(5Wrth benderfynu a yw'r achos yn achos brys, rhaid i'r swyddog priodol sy'n datgelu roi sylw i—

(a)natur y clefyd, haint neu halogiad neu'r amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad y cyfeirir ato yn yr hysbysiad;

(b)rhwyddineb lledaenu'r clefyd, haint neu halogiad;

(c)y ffyrdd y gellir atal neu reoli lledaeniad y clefyd, haint neu halogiad; ac

(ch)os ydynt yn hysbys, amgylchiadau P (gan gynnwys oedran, rhyw a galwedigaeth).

Cyfathrebiadau electronig

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a)hysbysiadau a ddarperir o dan reoliadau 2(1), 3(1) a 4(1);

(b)gwybodaeth a ddarperir o dan reoliad 5(3);

(c)datgeliadau a wneir o dan reoliad 6(2);

(ch)rhestrau a ddarperir o dan reoliad 3 (gofyniad i ddarparu manylion am blant sy'n mynychu ysgol) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010(6); a

(d)adroddiadau a ddarperir o dan reoliadau 10(1) (dyletswydd i roi adroddiad am geisiadau Rhan 2A) ac 11(1) (dyletswydd i roi adroddiad am amrywiadau neu ddirymiadau o orchmynion Rhan 2A) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2A) (Cymru) 2010(7).

(2Ceir defnyddio cyfathrebu electronig i roi hysbysiadau, gwybodaeth, datgeliadau, rhestrau ac adroddiadau y mae'n ofynnol eu rhoi mewn ysgrifen—

(a)os yw'r derbynnydd wedi cydsynio mewn ysgrifen i gael yr hysbysiad, gwybodaeth, datgeliad, rhestr neu adroddiad (yn ôl fel y digwydd) mewn cyfathrebiad electronig; a

(b)os anfonir y cyfathrebiad i'r rhif neu'r cyfeiriad a bennwyd gan y derbynnydd wrth roi'r cydsyniad hwnnw.

Dirymiadau

8.  Dirymir y Rheoliadau a restrir yn Atodlen 3.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Mehefin 2010