- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 3
1.—(1) Caiff rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â thramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir yn Atodlen 5 os yw'r tabl yn yr Atodlen honno yn dangos bod cosb o'r fath yn bosibl ar gyfer y tramgwydd hwnnw.
(2) Cyn gwneud hynny rhaid i'r rheoleiddiwr fod wedi'i fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni'r tramgwydd.
(3) Swm y gosb sydd i'w dalu i'r rhoeleiddiwr fel “cosb ariannol benodedig” yw £100 yn achos unigolyn neu £300 yn achos corff corfforaethol.
2.—(1) Pan fo rheoleiddiwr yn bwriadu gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid i'r rheoleiddiwr gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i'r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)seiliau'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig;
(b)swm y gosb;
(c)datganiad y gall y rhwymedigaeth ynglŷn â'r gosb gael ei chyflawni drwy dalu 50% o'r gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law;
(ch)gwybodaeth am y canlynol—
(i)effaith y taliad cyflawni hwnnw;
(ii)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;
(iii)yr amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gofyniad odanynt (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau ynglŷn â'r tramgwydd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas ag ef).
3. Mae'r gosb wedi'i chyflawni os bydd person sy'n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law.
4. Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod, yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad i law, i'r rheoleiddiwr mewn perthynas â'r bwriad i osod y gosb ariannol benodedig.
5.—(1) Os na fydd y person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn cyflawni'r rhwymedigaeth o fewn 28 diwrnod caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol yn gosod cosb ariannol benodedig.
(2) Ni chaiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad terfynol i berson os yw'r rheoleiddiwr wedi'i fodloni na fyddai'r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i'w gollfarnu o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef.
(3) Ni chaiff rheoleiddiwr sy'n cyflwyno hysbysiad terfynol ynglŷn â chosb ariannol benodedig gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r tramgwydd.
6. Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaethtam y canlynol—
(a)swm y gosb;
(b)y seiliau dros osod y gosb;
(c)sut y gellir talu;
(ch)y cyfnod o 56 diwrnod y mae'n rhaid talu ynddo;
(d)manylion y disgowntiau talu cynnar a'r cosbau talu hwyr;
(dd)hawliau i apelio; ac
(e)canlyniadau peidio â thalu.
7. Os cyflwynodd person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo sylwadau neu wrthwynebiadau ynghylch yr hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw gyflawni'r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o'r gosb o fewn 28 diwrnod yn dechrau â'r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law.
8.—(1) Caiff y person sy'n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad wedi'i seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir yn gyfreithiol;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(ch)unrhyw reswm tebyg arall.
9.—(1) Rhaid i'r gosb gael ei thalu o fewn 56 diwrnod ar ôl i'r hysbysiad terfynol ddod i law.
(2) Os na thelir y gosb o fewn 56 diwrnod mae'r swm sy'n daladwy yn cynyddu 50%.
(3) Yn achos apêl mae'n daladwy o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r apêl gael ei phenderfynu (os yw'r apêl yn aflwyddiannus) ac os nad yw'n cael ei thalu o fewn 28 diwrnod mae swm y gosb yn cynyddu 50%.
10.—(1) Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ynglŷn â chosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
(a)ni chaniateir dechrau achos troseddol ynglŷn â'r tramgwydd yn erbyn y person hwnnw mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ef cyn 28 diwrnod o'r dyddiad y daeth yr hysbysiad o fwriad i law, a
(b)os bydd y person hwnnw yn cyflawni'r rhwymedigaeth fel hyn, ni chaniateir i'r person hwnnw gael ei gollfarnu ar unrhyw adeg o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw.
(2) Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir i'r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei gollfarnu o'r tramgwydd mewn perthynas â'r weithred neu'r anwaith sy'n arwain at y gosb.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys