xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Defnyddio cyfrifiaduron

15.—(1Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn i'w ddehongli fel pe bai'n rhwystro defnyddio cyfrifiadur i gadw cofrestr dderbyn neu gofrestr bresenoldeb, ond os cedwir cofrestr o'r fath yn y modd hwnnw, bydd paragraffau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys, at y diben o addasu gofynion y Rheoliadau hyn.

(2Nid yw gofynion rheoliad 4 i'w trin fel rhai sydd wedi eu bodloni oni wneir copi ychwanegol wrth gefn o'r gofrestr dderbyn a'r gofrestr bresenoldeb, o leiaf unwaith bob mis, ar ffurf copi electronig, microfiche neu brintiedig.

(3Nid yw gofynion rheoliadau 10 ac 11 i'w trin fel rhai sydd wedi eu bodloni oni chaniateir i'r personau a awdurdodir i archwilio a gwneud detholiadau o'r gofrestr dderbyn a'r gofrestr bresenoldeb archwilio a gwneud detholiadau o'r cofrestrau hynny a gedwir drwy ddefnyddio cyfrifiadur, yn ogystal â'r copïau ychwanegol wrth gefn a wneir yn unol â pharagraff (2).

(4Nid yw gofynion rheoliad 13 i'w trin fel rhai sydd wedi eu bodloni oni bai, pan wneir unrhyw gywiriad i gofnod gwreiddiol yn y cofrestrau, bod unrhyw gofrestr a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur ac unrhyw brintiad o unrhyw gofrestr o'r fath a wneir ar ôl y cywiriad, yn gwahaniaethu'n eglur rhwng y cofnod gwreiddiol a'r cywiriad.

(5Nid yw gofynion rheoliad 14 i'w trin fel rhai sydd wedi eu bodloni oni bai—

(a)bod pob copi ychwanegol wrth gefn o'r gofrestr dderbyn a'r gofrestr bresenoldeb a wnaed yn unol â pharagraff (2) ac sy'n ymwneud â blwyddyn ysgol benodol yn cael ei gadw am y flwyddyn honno ac am gyfnod o dair blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn ysgol honno; a

(b)bod pob printiad o'r gofrestr dderbyn a'r gofrestr bresenoldeb sy'n ymwneud â blwyddyn ysgol benodol yn cael ei gadw mewn un gyfrol am y flwyddyn honno, ac y cedwir y gyfrol honno am gyfnod o dair blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn ysgol honno.

(6Ystyrir, at ddibenion rheoliad 13, bod printiad o gofrestr a baratowyd gan ddefnyddio cyfrifiadur wedi ei wneud mewn inc.

(7Nid yw darpariaethau'r rheoliad hwn yn rhagfarnu gofynion Deddf Diogelu Data 1998(1).