- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) O ran cymhwyso paragraff 3(c) o'r Ail Atodlen o Ffurf y Gorchymyn Cadw Coed a osodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Cadw Coed) 1969(1) (gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gan reoliad 3(ii) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Cadw Coed) (Diwygio) a (Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth) (Achosion a Eithrir) 1975(2), neu fel y'i hymgorfforir mewn unrhyw orchymyn cadw coed), rhaid trin unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy'n barnu bod caniatâd cynllunio wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn barnu bod y caniatâd wedi ei roi ar gais a wnaed o dan Ran 3 o'r Ddeddf honno at ddibenion y Rhan honno.
(2) O ran cymhwyso erthygl 5(1)(d) o Ffurf y Gorchymyn Cadw Coed a osodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(3) fel y'i hymgorfforir mewn unrhyw orchymyn cadw coed neu fel y mae'n cael ei effaith yn rhinwedd rheoliad 10(1)(a) o'r Rheoliadau hynny, rhaid peidio â thrin unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy'n barnu bod caniatâd cynllunio wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn ganiatâd cynllunio amlinellol.
(3) Rhaid trin caniatâd cynllunio y bernir drwy gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 ei fod wedi ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn megis petai yn ganiatâd cynllunio penodol at ddibenion adran 264(3)(a) o'r Ddeddf honno (achosion pan fo tir i gael ei drin fel tir gweithredol at ddibenion y Ddeddf honno).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys