xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Gwnaed
15 Medi 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Medi 2010
Yn dod i rym
20 Hydref 2010
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 16(3), 17(1), 18(1)(c), 19(1)(b), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 20 Hydref 2010.
2. Diwygir Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009(4) yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3. Yn nhestun Cymraeg Atodlen 2 (trwyddedau) yn lle'r geiriau “risg sylweddol” ym mharagraff 2(i) o Ran 1 rhoddir “risg o bwys”.
4. Yn Atodlen 2 (trwyddedau) yn lle is-baragraff (1)(b) o baragraff 9 o Ran 3 (y gofynion a'r gwaharddiadau sydd i'w dilyn gan drwyddedai)—
(1) yn y testun Saesneg rhoddir yr is-baragraff a ganlyn—
“(b)its batch number;”, a
(2) yn y testun Cymraeg rhoddir yr is-baragraff a ganlyn—
“(b) Rhif y swp;”.
5. Yn lle Atodlen 3 (rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn Aelod-wladwriaethau) rhoddir yr Atodlen a geir yn Atodlen 1.
6. Yn lle Atodlen 4 (rhestr o gyfleusterau mewn gwlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd) rhoddir yr Atodlen a geir yn Atodlen 2.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2010
Rheoliad 5
Rheoliadau 3(1) a 5(1)(b)(i)
Rhif cyfeirnod swyddogol | Enw a chyfeiriad |
---|---|
2110/91/0004 | Sterigenics SA Zoning Industriel B-6220 Fleurus Gwlad Belg |
01/23.05.2008 | BULGAMMA SOPHARMA Ltd Iliensko Shosse Str.16 Sofia Bwlgaria |
IR-02-CZ | BIOSTER a.s. Tejny 621 664-71 Veverska Bityska Y Weriniaeth Tsiec |
SN 01 | Gamma-Service Produktbestrahlung GmbH Juri-Gagarin Strasse 15 D-01454 Radeberg Yr Almaen |
BY FS 01/2001 | Isotron Deutschland GmbH Kesselbodenstrasse 7 D-85391 Allershausen Yr Almaen |
NRW-GM 01 ac NRW-GM 02 | BSG Beta-Gamma-Service GmbH & Co. KG Fritz-Kotz-Str.16 D-51674 Wiehl Yr Almaen |
D-BW-X-01 | Beta-Gamma-Service GmbH & Co. KG John-Deere-Strasse 3 D-76646 Bruchsal Yr Almaen |
500001/CU | Ionmed Esterilización, SA Santiago Rusiñol 12. Madrid Antigua Cntra Madrid-Valencia KM 83.7. Tarancón Cuenca Sbaen |
5.00002/B | ARAGOGAMMA S.A. Salvador Mundi 11, bajo. 08017 Barcelona Carretera Granoolers a Cardedeu km 3,5. 08520 Les Franqueses dêsVallés Barcelona Sbaen |
13055 F | Isotron France SAS Rue Jean Queillau Marché des Arnavaux F-13014 Marseille Cedex 14 Ffrainc |
01 142 F | Ionisos SA Zone Industrielle les Chartinières F-01120 Dagneux Ffrainc |
72 264 F | Ionisos SA Zone Industrielle de l'Aubrée F-72300 Sablé-sur-Sarthe Ffrainc |
85 182 F | Ionisos SA ZI Montifaud F-85700 Pouzauges Ffrainc |
10 093 F | Ionisos SA Zone Industrielle F-10500 Chaumesnil Ffrainc |
EU-AIF-04-2002 | AGROSTER Besugárzó Részvénytársaság Budapest X Jászberényi út 5 H-1106 Hwngari |
RAD 1/04 IT | GAMMARAD ITALIA SPA Via Marzabotto, 4 Minerbio (BO) Yr Eidal |
GZB/VVB-991393 Ede | Isotron Nederland BV Morsestraat 3 6716AH Ede Yr Iseldiroedd |
GZB/VVB-991393 Etten-Leur | Isotron Nederland BV Soevereinsestraat 2 4879NN Etten-Leur Yr Iseldiroedd |
GIS-HZ-4434-W.-3/MR/03 | Institute of Nuclear Chemistry and Technology 16 Dorodna Str. 03-195 Warsaw Gwlad Pwyl |
GIS-HZ-4434-W.-2/MR/03 | Institute of Applied Radiation Chemistry Technical University of Lodz 15 Wróblewskiego Str. 39-590 Lodz Gwlad Pwyl |
RG016/2008 | Multipurpose Irradiation Facility IRASM Technological Irradiations Department Horia Hulubei National Institute for Research and Development of Physics and Nuclear Engineering Atomistilor Street No. 407 PO Box MG-6 Magurele. Ilfov County Rwmania |
EW/04 | Isotron Limited Moray Road Elgin Industrial Estate Swindon Wilts SN2 8XS Y Deyrnas Unedig”. |
Rheoliad 6
Rheoliad 5(1)(b)(ii)
Rhif cyfeirnod swyddogol | Enw a chyfeiriad |
---|---|
EU-AIF 01-2002 | HEPRO Cape (Pty) Ltd 6 Ferrule Avenue Montague Gardens Milnerton 7441 Western Cape Gweriniaeth De Affrica |
EU-AIF 02-2002 | Gammaster South Africa (Pty) Ltd PO Box 3219 5 Waterpas Street Isando Extension 3 Kempton Park 1620 Johannesburg Gweriniaeth De Affrica |
EU-AIF 03-2002 | Gamwave (Pty) Ltd PO Box 26406 Isipingo Beach Durban 4115 Kwazulu-Natal Gweriniaeth De Affrica |
EU-AIF 05-2004 | Gamma-Pak As Yünsa Yolu N: 4 0SB Cerkezköy/TEKIRDAG TR-59500 Twrci |
EU-AIF 06-2004 | Studer Agg Werk Hard Hogenweidstrasse 2 Däniken CH-4658 Y Swistir |
EU-AIF 07-2006 | Thai Irradiation Centre Thailand Institute of Nuclear Technology (Public Organisation) 37 Moo 3, TECHNOPOLIS Klong 5, Klong Luang Pathumthani 12120 Gwlad Thai |
EU-AIF 08-2006 | Isotron (Thailand) Ltd Bangpakong Industrial Park (Amata Nakorn) 700/465 Moo 7, Tambon Donhuaroh, Amphur Muang, Chonburi 20000 Gwlad Thai |
EU-AIF 09-2010 | Board of Radiation and Isotope Technology Department of Atomic Energy BRIT/BARC Vashi Complex Sector 20, Vashi Navi Mumbai — 400 705 (Maharashtra) India |
EU-AIF 10-2010 | Board of Radiation and Isotope Technology ISOMED Bhabha Atomic Research Centre South Site Gate, Refinery Road Next to TATA Power Station, Trombay Mumbai — 400 085 (Maharashtra) India |
EU-AIF 11-2010 | Microtrol Sterilisation Services Pvt. Ltd Plot No. 14 Bommasandra-Jigani Link Road Industrial Area KIADB, Off Hosur Road Hennagarra Post Bengalooru — 562 106 (Karnataka) India”. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/1795) (Cy.162).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i ddarpariaethau—
(a)Penderfyniad y Comisiwn 2010/172/EU sy'n diwygio Penderfyniad 2002/840/EC o ran y rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd ar gyfer arbelydru bwydydd (OJ Rhif L75, 23.3.2010, t.33); a
(b)rhestr heb ei dyddio gan y Comisiwn o gyfleusterau a gymeradwywyd ar gyfer trin bwydydd a chynhwysion bwyd ag ymbelydredd ïoneiddio yn yr Aelod-wladwriaethau(5) sy'n disodli rhestr y Comisiwn o gyfleusterau o'r fath ar 3 Medi 2004.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 drwy—
(a)rhoi “risg o bwys” yn lle “risg sylweddol” yn nhestun Cymraeg paragraff 2(i) o Ran 1 (rhoi trwyddedau) o Atodlen 2 (trwyddedau) (rheoliad 3);
(b)yn lle is-baragraff (1)(b) o baragraff 9 o Ran 3 (y gofynion a'r gwaharddiadau sydd i'w dilyn gan drwyddedai) o Atodlen 2 (trwyddedau) rhoi is-baragraff (1)(b) diwygiedig (rheoliad 4);
(c) yn lle Atodlen 3 (rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn Aelod-wladwriaethau) rhoi Atodlen 3 ddiwygiedig sy'n cynnwys rhestr a addaswyd o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn Aelod-wladwriaethau (rheoliad 5); ac
(ch)yn lle Atodlen 4 (rhestr o gyfleusterau mewn gwlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd) rhoi Atodlen 4 ddiwygiedig sy'n ychwanegu tri chyfleuster newydd at y rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn gwledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (rheoliad 6).
1990 p.16; disodlwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17, 19 a 48 gan baragraffau 12, 14 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.
Mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999 ac wedyn fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
Cyhoeddwyd ar wefan y Comisiwn yn http://ec.europa.eu/food/food/biosafety/irradiation/comm_legisl_en.htm. Gellir cael copi caled gan y Comisiwn Ewropeaidd, Y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Iechyd a Defnyddwyr, B-1049 Brwsel, Gwlad Belg.